Rebecca Evans AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio
Cyflwynodd Deddf Seilwaith (Cymru) 2024 (Deddf 2024) broses newydd ar gyfer cydsynio i brosiectau seilwaith arwyddocaol yng Nghymru.
Wrth gynhyrchu'r ddeddfwriaeth hon ein nod oedd bod polisi clir yn sail i'r broses gydsynio. Mae Cymru'r Dyfodol, ein cynllun cenedlaethol, wedi darparu ein gweledigaeth genedlaethol ar gyfer ynni adnewyddadwy a charbon isel ers 2021. Drafftiwyd y polisi hwn cyn Deddf 2024 ac rwyf am sicrhau ei bod yn glir mai hwnnw fydd ein polisi ar gyfer penderfynu ar geisiadau o dan y system newydd. I wneud hyn, rwyf wedi gosod y polisi gerbron Senedd Cymru ac wedi dynodi hwn fel datganiad Polisi Seilwaith o dan adran 127 o Ddeddf 2024.
Mae'r datganiad polisi yn sicrhau bod ein polisi yn parhau i gael ei ddefnyddio i benderfynu ar geisiadau a ystyrir o dan y broses newydd. Mae'n bwysig nodi nad yw'r datganiad yn gwneud unrhyw ddiwygiadau i sylwedd y polisi fel y'i nodir yn Cymru'r Dyfodol. Yn unol â Deddf Cynllunio (Cymru) 2015, mae fy swyddogion yn ymgymryd â gwaith monitro Cymru'r Dyfodol. Bydd y dystiolaeth a gesglir fel rhan o'r broses yn sail i unrhyw adolygiad yn y dyfodol.
