Neidio i'r prif gynnwy

Edwina Hart, Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Rhagfyr 2015
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Mae Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 yn rhoi dyletswydd ar Weinidogion Cymru i ‘lunio a chyhoeddi adroddiadau blynyddol ynghylch i ba raddau y mae cerddwyr a beicwyr yn gwneud teithiau teithio llesol yng Nghymru.”

Heddiw, rwy’n cyhoeddi’r adroddiad blynyddol cyntaf yn ogystal â rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch y gwaith sydd wedi cael ei wneud ar roi’r Ddeddf ar waith ers iddi ddod i rym ym mis Medi 2014.  Mae’r adroddiad blynyddol cyntaf yma yn rhoi syniad i ni o faint o bobl sy’n ymgymryd â theithio llesol ledled Cymru.  Dengys y ffigurau ar gyfer y lefelau presennol o deithwyr llesol yng Nghymru bod gennym gryn dipyn o waith i’w wneud cyn y gallwn gyrraedd ein huchelgais o wneud Cymru yn genedl sydd o ddifri am gerdded a beicio.

Ers i’r Ddeddf gael ei gwneud, rydym wedi gosod sylfeini i’n helpu i roi’r Ddeddf ar waith.  Yr hydref diwethaf, cyhoeddais ddwy set o ganllawiau statudol i gefnogi’r Ddeddf:  y Canllaw Cyflenwi sy’n helpu awdurdodau lleol fodloni eu dyletswyddau o dan y Ddeddf a’r Canllaw Dylunio, sy’n amlinellu’r safonau sy’n rhaid eu dilyn wrth gynllunio a dylunio seilweithiau ar gyfer cerdded a beicio.  

Rwy’n parhau i bwysleisio ei bod hi’n bwysig ein bod yn creu seilwaith cerdded a beicio sy’n bodloni gofynion defnyddwyr a darpar ddefnyddwyr.  Yr unig ffordd y gallwn wneud hyn yw drwy gyfathrebu’n glir â’n gilydd.  Fe ddigwyddodd hyn wrth lunio’r Canllaw Dylunio lle buom yn gweithio’n agos iawn ag amrywiaeth eang o arbenigwyr technegol a rhanddeiliaid, pawb o awdurdodau lleol i elusennau cerdded a beicio a grwpiau sy’n cynrychioli buddiannau pobl anabl.  Cafodd y neges hon ei hatgyfnerthu yn y Gynhadledd Teithio Llesol eleni hefyd.  Y pwyslais fan honno oedd gwneud cerdded a beicio yn fwy cynhwysol ac yn opsiwn teithio mwy ymarferol i’r amrywiaeth ehangaf posibl o ddinasyddion Cymru.

Y ffaith fy mod am weld ymgynghori ac ymgysylltu pendant yn digwydd oedd y rheswm pam y penderfynais symud y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno’r Mapiau o’r Llwybrau Presennol o fis Medi 2015 i fis Ionawr 2016.  Roedd hyn er mwyn rhoi cyfle i’r awdurdodau lleol ymgynghori’n briodol, yn enwedig gyda phlant a pobl ifanc.

Wrth ddatblygu’r fframwaith er mwyn ei rhoi ar waith, rydym wedi buddsoddi er mwyn gwella ein seilweithiau presennol.  Yn 2015/2016, rwyf wedi dyrannu dros £14 miliwn ar draws fy mhortffolio i wneud y seilweithiau cerdded a beicio yn fwy diogel.  Rwyf wedi rhoi blaenoriaeth i hyfforddiant, ac eleni, wedi dyrannu £1.5 miliwn er mwyn hyfforddi cerddwyr a beicwyr mewn ysgolion, prosiect sy’n ategu y prosiect ‘Teithiau Llesol’ – prosiect tair blynedd newydd sy’n helpu ysgolion i hybu teithio llesol.

Rydym nawr yn edrych ymlaen at ein carreg filltir nesaf yn y Flwyddyn Newydd.  Mis Ionawr, byddwn yn mynd ati i werthuso’r setiau cyntaf o Fapiau’r Llwybrau Presennol y bydd yr awdurdodau lleol yn eu cyflwyno i ni.  Hyddaf hefyd yn cyhoeddi Cynllun Gweithredu Teithio Llesol fydd yn amlinellu ffyrdd ehangach o gefnogi Teithio Llesol ar draws Adrannau Llywodraeth Cymru.