Huw Irranca-Davies AS, Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
Cyflwynodd Deddf yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Sainweddau) (Cymru) 2024, a dderbyniodd Gydsyniad Brenhinol ym mis Chwefror 2024, fesurau a fydd yn arwain at welliannau i ansawdd aer yng Nghymru, gan leihau'r effeithiau ar iechyd y cyhoedd sy'n gysylltiedig ag amgylchedd aer gwael. Heddiw, mae'n bleser gennyf gyhoeddi bod yr adrannau o'r Ddeddf sy'n ymwneud â Rheoli Ansawdd Aer Lleol a'r pedair Ardal Rheoli Mwg yng Nghymru wedi dod i rym. I'r perwyl hwn, rydym wedi cyhoeddi canllawiau i Awdurdodau Lleol i'w cynorthwyo i fodloni eu rhwymedigaethau newydd o fewn y Ddeddf. Rydym yn gwneud hyn yn unol a'n hymrwymiadau yn ein Rhaglen Lywodraethu i fynd i'r afael â'r argyfyngau hinsawdd a natur.
Mae ansawdd yr aer rydyn ni'n ei anadlu yn effeithio ar ein hiechyd a'n lles bob munud o'r dydd. Mae Sefydliad Iechyd y Byd wedi disgrifio llygredd aer fel risg iechyd amgylcheddol fwyaf y byd. Roedd ein Rhaglen Lywodraethu yn cydnabod pwysigrwydd mawr gwella'r amgylchedd aer drwy ymrwymo i gyflwyno'r Ddeddf hon.
Cyflwynodd y Ddeddf ofyniad ar Awdurdodau Lleol gynnal adolygiad blynyddol o ansawdd aer, a hefyd rhwymedigaeth i gynllun gweithredu ansawdd aer gynnwys dyddiad cydymffurfio a ragwelir y mae'n rhaid cytuno arno gyda Gweinidogion Cymru. Diwygiodd y Ddeddf hefyd Ddeddf Aer Glân 1993 i alluogi Awdurdodau Lleol i reoli allyriadau mwg mewn Ardaloedd Rheoli Mwg yn well a chymryd camau yn eu cylch.
Mae rheoli mwg yn cwmpasu rheoli llygredd o losgi tanwydd solet o simneiau mewn cartrefi a busnesau o fewn Ardaloedd Rheoli Mwg. Mae troseddau yn anodd eu gweinyddu ac anaml iawn y maent yn arwain at erlyniad. Mae'r Ddeddf a'r canllawiau cysylltiedig yn ei gwneud hi'n haws i Awdurdodau Lleol gymryd camau gorfodi trwy gyflwyno cosbau ariannol sifil, i ddisodli'r sancsiynau troseddol presennol, a all gael eu gweithredu gan Awdurdodau Lleol lle mae mwg yn cael ei allyrru o simnai mewn ardal rheoli mwg. Wrth weithredu adrannau perthnasol y Ddeddf, mae Llywodraeth Cymru yn parhau i gefnogi Awdurdodau Lleol i wneud gwelliannau parhaus i ansawdd aer er budd eu cymunedau lleol.
Cyhoeddir y datganiad hwn yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau. Os bydd yr Aelodau am imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynghylch hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddaf yn hapus i wneud hynny.
