Neidio i'r prif gynnwy

Jeremy Miles AS, y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Pontio Ewropeaidd

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Rhagfyr 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Yn unol â Deddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018, mae’n ofynnol i Lywodraeth y DU adrodd yn achlysurol i Senedd y DU ar faterion sy’n ymwneud â’r Fframweithiau Cyffredin a’r defnydd dros dro a wneir gan Lywodraeth y DU, os o gwbl, o bwerau o dan adran 12 o’r Ddeddf (y ‘pwerau rhewi’ fel y’u gelwir) er mwyn cynnal cyfyngiadau presennol cyfraith yr UE ar gymhwysedd datganoledig. Rwy’n hysbysu’r Aelodau bod y nawfed adroddiad o’r fath wedi’i osod yn Senedd y DU ar 10 Rhagfyr 2020, ar gyfer y cyfnod o 26 Mehefin – 25 Medi 2020.

Mae’r adroddiad yn nodi’r gwaith cadarnhaol parhaus ar y Fframweithiau Cyffredin, ac mae’n cadarnhau nad yw Llywodraeth y DU wedi defnyddio’r ‘pwerau rhewi’. Mae’r cynnydd a wnaed ar draws rhaglen y Fframweithiau Cyffredin yn 2020, a hynny er gwaethaf yr anawsterau a achoswyd gan bandemig COVID-19, yn gyflawniad aruthrol. Mae’r rhaglen hon yn cynnig model i’w efelychu mewn prosiectau rhynglywodraethol yn y dyfodol.    

Fodd bynnag, mae agwedd Llywodraeth y DU tuag at Farchnad Fewnol y DU yn bygwth ansefydlogi proses y Fframweithiau Cyffredin. Mae’r adroddiad yn cydnabod nad yw’r Gweinyddiaethau Datganoledig yn cytuno â Bil y Farchnad Fewnol sydd eisoes wedi ei basio gan Senedd y DU. Fodd bynnag, gan nad yw’r adroddiad ond yn berthnasol i’r cyfnod hyd at 25 Medi, nid yw’n adlewyrchu’r ffaith i’r Senedd bleidleisio yn erbyn rhoi cydsyniad deddfwriaethol i Fil Marchnad Fewnol y DU ar 9 Rhagfyr 2020. 

Fe gyhoeddwyd hefyd Ddatganiad Ysgrifenedig ar 16 Rhagfyr, yn amlinellu manylion her gyfreithiol bosibl i Fil y Farchnad Fewnol y DU. Rwyf wedi gofyn am ymateb gan Lywodraeth y DU ymhen 14 o ddiwrnodau.

Mae copi o’r adroddiad i’w weld yma:

https://assets.publishing.service.gov.uk/government/uploads/system/uploads/attachment_data/file/941711/The_European_Union__Withdrawal__Act_and_Common_Frameworks.pdf