Neidio i'r prif gynnwy

Jeremy Miles AC, y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd

Cyhoeddwyd gyntaf:
23 Mawrth 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio gyda'r Senedd i ailflaenoriaethu busnes y Llywodraeth er mwyn adlewyrchu natur ddigynsail yr argyfwng coronafeirws (COVID 19). Mae’r datganiad hwn yn cael ei gyhoeddi i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau, ond bydd datganiadau ysgrifenedig COVID 19 yn parhau i gael eu cyhoeddi fel blaenoriaeth.

Mae Deddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) yn ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth y DU adrodd i Senedd y DU yn gyson am faterion sy’n ymwneud â Fframweithiau Cyffredin a'r defnydd dros dro y mae Llywodraeth y DU wedi ei wneud, os o gwbl, o bwerau o dan adran 12 o'r Ddeddf (y 'pwerau rhewi' fel y’u gelwir) er mwyn cynnal cyfyngiadau presennol cyfraith yr UE ar gymhwysedd datganoledig.

Rwy'n hysbysu'r Aelodau bod y chweched adroddiad o'r fath wedi’i osod yn Senedd y DU ar 19 Mawrth.

European Union (Withdrawal) Act and Common Frameworks report ar GOV.UK