Neidio i'r prif gynnwy

Mick Antoniw AS, y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Tachwedd 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae Deddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 yn ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth y DU adrodd i Senedd y DU yn gyson am faterion sy’n ymwneud â Fframweithiau Cyffredin a'r defnydd dros dro y mae Llywodraeth y DU wedi ei wneud, os o gwbl, o bwerau o dan adran 12 o'r Ddeddf (y 'pwerau rhewi' fel y’u gelwir) er mwyn cynnal cyfyngiadau presennol cyfraith yr UE ar gymhwysedd datganoledig. Rwy’n hysbysu'r Aelodau bod y deuddegfed adroddiad o'r fath wedi ei osod yn Senedd y DU ar 9 Tachwedd 2021. Mae'r adroddiad hwn yn ymdrin â'r cyfnod rhwng 26 Mawrth a 25 Mehefin 2021.

Mae’r adroddiad yn amlinellu’r gwaith cadarnhaol parhaus ar y Fframweithiau Cyffredin ac yn cadarnhau nad yw Llywodraeth y DU wedi defnyddio’r ‘pwerau rhewi’. Yn ystod y cyfnod adrodd hwn, Sylweddau Peryglus (Cynllunio) oedd y Fframwaith Cyffredin cyntaf yn y rhaglen i gael ei gadarnhau’n derfynol a’i weithredu’n llawn yn dilyn craffu gan bob un o’r pedair deddfwrfa. Cyhoeddwyd y fframwaith y cytunwyd arno’n derfynol, wedi hynny, ar 31 Awst.

Trosolwg o’r papur polisi: Deddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) a Fframweithiau Cyffredin: 26 Mawrth i 25 Mehefin 2021 - GOV.UK (www.gov.uk)

Ar 9 Tachwedd, cyhoeddwyd Adroddiad Dadansoddiad o Fframweithiau 2021 hefyd, sy’n amlinellu pob un o’r 152 o feysydd o gyfraith yr UE sy'n croesi â chymhwysedd datganoledig mewn un neu ragor o’r gweinyddiaethau datganoledig a datblygiadau yn y rhaglen Fframweithiau dros y deuddeg mis diwethaf.

Dadansoddiad o Fframweithiau 2021 (publishing.service.gov.uk)