Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans, Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Mawrth 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Mae gan Lywodraeth Cymru bryderon am y defnydd a wneir o anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau ac, er gwaethaf ymrwymiadau blaenorol gan Defra i gyflwyno deddfwriaeth sylfaenol i wahardd yr arfer hwn, yn ogystal ag addewidion lu gan yr Ysgrifennydd Gwladol, mae'n amlwg nad oes gan Lywodraeth y DU unrhyw awydd i weithredu.
Wrth ystyried sut i fynd ar drywydd hyn ar wahân yng Nghymru, comisiynais yr Athro Stephen Harris, sef Ail Athro Coffa'r Arglwydd Dulverton yn y Gwyddorau Amgylcheddol ym Mhrifysgol Bryste, i gynnal adolygiad annibynnol o’r dystiolaeth fyd-eang o les, corfforol a meddyliol, anifeiliaid gwyllt ac/neu anifeiliaid annomestig mewn syrcasau teithiol a'r rhai nad ydynt yn teithio. Ystyriodd hefyd gyfoethogiad amgylcheddol anifeiliaid o'r fath a'u hymddygiad. 

Mae fersiwn ddrafft o'r adroddiad hwnnw wedi'i chyflwyno i’r swyddogion. Mae'r canfyddiadau'n eang, ac mae'n bwysig rhoi ystyriaeth ddyledus i'r dystiolaeth a gasglwyd. Rwyf wedi gofyn i'r Prif Swyddog Meddygol ystyried yr adroddiad terfynol a'i gyflwyno i’r Llywodraeth newydd maes o law, i’w ystyried. 

Rwy'n ddiolchgar i'r Athro Harris a'i dîm sydd wedi bod yn rhan o'r broses hon.
Rwyf hefyd wedi cytuno'n flaenorol y dylai swyddogion Llywodraeth Cymru barhau i drafod â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion, yr heddlu ac Awdurdodau Lleol i nodi dull cydlynol ledled Cymru o fonitro diogelwch y cyhoedd a safonau iechyd a lles anifeiliaid mewn syrcasau teithiol. Mae'r gwaith hwnnw'n mynd rhagddo, gyda'r nod o sicrhau bod gan bob awdurdod lleol ac asiantaeth orfodi yng Nghymru un ddogfen gyfeirio a rhestr wirio i'w defnyddio.