Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
3 Hydref 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Rwy'n croesawu penderfyniad yr Uchel Lys ar ddydd Gwener 21 Medi, yn gwrthod cais gan ddau gwmni fferyllol am adolygiad barnwrol i herio polisi 12 Grŵp Comisiynu Clinigol yn Lloegr oedd yn cynnig bevacizumab fel opsiwn cyffredinol ar gyfer trin dirywiad macwlaidd gwlyb sy’n gysylltiedig â henaint.


Mae penderfyniad yr Uchel Lys yn cadarnhau y dylai clinigwyr y Gwasanaeth Iechyd Gwladol fedru cynnig dewis i gleifion rhwng meddyginiaethau trwyddedig a meddyginiaethau didrwydded ar gyfer trin dirywiad macwlaidd gwlyb pan fo tystiolaeth eu bod yr un mor ddiogel ac effeithiol.


Yn gynharach eleni, cyhoeddodd Y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE) ganllawiau a oedd yn dweud yn gwbl glir bod bevacizumab (Avastin®) didrwydded yr un mor ddiogel ac effeithiol yn glinigol â meddyginiaethau trwyddedig sy'n cael eu defnyddio i drin dirywiad macwlaidd gwlyb. Mae defnyddio bevacizumab ar gyfer hyn yn gosteffeithiol tu hwnt. 


Yn ôl canllawiau'r Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd (MHRA), pan fo cynnyrch trwyddedig yn y DU ar gael sy'n bodloni anghenion clinigol y claf, dylid eu defnyddio yn lle meddyginiaethau didrwydded. Gan ystyried safbwynt MHRA, penderfynodd NICE beidio argymell yn benodol ddefnyddio bevacizumab yn gyffredinol ar gyfer dirywiad macwlaidd gwlyb. Mae dyfarniad yr Uchel Lys yn dweud yn glir nad rheoleiddwyr meddyginiaethau yn unig sy'n gymwys i ddweud a yw cyffur neu gynnyrch meddyginiaethol arall yn ddiogel, yn effeithiol yn glinigol neu'n gosteffeithiol: mae'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn gyfreithiol gymwys i benderfynu dros ei hun ar y materion hyn.


Mae Llywodraeth Cymru yn cymryd mynediad at feddyginiaethau o ddifrif. Yn 2015, buddsoddwyd £16m i sicrhau bod triniaethau ar gyfer dirywiad macwlaidd gwlyb ar gael yn brydlon ac yn gyson ar draws Cymru. Mae'n Cronfa Triniaethau Newydd gwerth £80m yn sicrhau bod meddyginiaethau sy'n cael eu hargymell gan NICE a Grŵp Strategaeth Feddyginiaethau Cymru ar gael i gleifion Cymru'n gynt nag erioed o'r blaen. Rwy'n gefnogol iawn i'r rôl hanfodol bwysig sydd gan y diwydiant fferyllol wrth ddatblygu meddyginiaethau arloesol i'w marchnata; fodd bynnag, rwy'n cytuno â chasgliadau'r achos hwn nad oes modd rhoi pwerau diderfyn i'r diwydiant fferyllol benderfynu pa feddyginiaethau sydd ar gael at ba ddibenion.


Ar hyn bryd rydym yn gwario dros £21m y flwyddyn ar feddyginiaethau trwyddedig i drin dirywiad macwlaidd gwlyb. Pe bai nifer sylweddol o gleifion yn cael eu trin â  bevacizumab, byddai'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru'n arbed cryn dipyn o arian y gellid ei ailfuddsoddi i drin mwy o gleifion.


Yn y pen draw, y byrddau iechyd fydd yn ystyried sut i ymateb i ddyfarniad yr Uchel Lys. Mae'r dyfarniad yn gosod rhai o'r heriau ymarferol y bydd angen rhoi sylw iddynt cyn i fyrddau iechyd fedru cynnig bevacizumab fel opsiwn triniaeth yn gyffredinol, ac rwy'n disgwyl i fyrddau iechyd ystyried y materion hyn nawr.


Mae penderfyniad yr Uchel Lys yn newid y farchnad ar gyfer triniaethau dirywiad macwlaidd gwlyb yn sylfaenol. Dyma gyfle i wneuthurwyr triniaethau trwyddedig ystyried ar fyrder sut i drafod â'r GIG yng Nghymru er mwyn sicrhau gwerth am arian o'r buddsoddiad sylweddol mae'n ei wneud i drin dirywiad macwlaidd gwlyb. Byddwn yn eu hannog yn gryf i wneud hynny.


Mae colli golwg yn dorcalonnus a byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i atal clefydau'r llygaid a sicrhau bod triniaethau costeffeithiol ar gael ei drin cleifion yn brydlon.