Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig

Cyhoeddwyd gyntaf:
2 Tachwedd 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae darparu 20,000 o dai fforddiadwy ychwanegol yn ystod oes y Llywodraeth hon yn ymrwymiad polisi allweddol y bydd angen gweithredu ar y cyd os ydym am fod yn llwyddiannus. Mae cyllideb Llywodraeth Cymru wedi nodi £1.3biliwn ychwanegol i gefnogi polisïau tai sy’n ymrwymiad sylweddol.  Fodd bynnag, os ydym i wireddu ein uchelgais bydd yn angenrheidiol i ddefnyddio'r holl ysgogiadau polisi sydd ar gael ac mae hyn yn cynnwys y defnydd o gytundebau adran 106 drwy'r system gynllunio.

Defnyddir cytundebau adran 106 yn eang i ddarparu isadeiledd hanfodol.  Ar y cyd â pholisïau cynlluniau datblygu, maen nhw’n ffurfio cyd-destun ar gyfer sicrhau tai fforddiadwy drwy'r system gynllunio. Llynedd cafodd 29% o’r holl dai fforddiadwy newydd eu datblygu o ganlyniad i’r system yma.

Rwyf yn cydnabod bod hyfywedd datblygiad yn amrywio mewn gwahanol rannau o Gymru a bydd angen agwedd hyblyg wrth negodi manylion cytundebau adran 106.  Dylai Awdurdodau Lleol nodi eu ymagwedd yn eu cynlluniau datblygu a fabwysiadwyd, lle dylid sicrhau fod polisïau cryf ar sicrhau tai fforddiadwy.  Dylid defnyddio hyn fel y cyd-destun ar gyfer negodi cytundebau adran 106 unigol gan gydnabod materion hyfywedd penodol safle wrth safle.

Bydd datblygiadau tai yn rhoi pwysau ychwanegol ar wasanaethau cyhoeddus fel arfer, ac mae ond yn deg bod awdurdodau cynllunio lleol yn ceisio adennill rhywfaint o’r codiad ariannol yng ngwerth y tir, sy’n deillio o ennill caniatâd cynllunio gyda chytundeb adran 106 priodol.  Mae’n bwysig bod y cytundebau yma yn gymesur â’r datblygiad ac yn cydnabod yr effaith ar hyfywedd y datblygiad.  Hyfywedd a gallu safleoedd tai y farchnad i ariannu cyfraniadau yn hytrach nag eu maint a ddylai fod yn ffactorau pwysig wrth drafod cytundebau adran 106.