Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething AS, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
30 Rhagfyr 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae cydweithwyr o bob rhan o'r GIG yng Nghymru wedi bod yn gweithio'n galed i gyflawni'r rhaglen frechu fwyaf yn ein hanes ers 8 Rhagfyr 2020.Rydym yn hynod o ddiolchgar am y cynnydd y maent wedi'i wneud hyd yn hyn. Mae miloedd o bobl wedi cael y brechlyn yng Nghymru, ymhen ychydig wythnosau, sydd yn dipyn o gamp. 

Mae'r newyddion heddiw bod yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd (MHRA) wedi cymeradwyo brechlyn AstraZeneca Rhydychen yn golygu y bydd gennym frechlyn arall ar gael i ddiogelu rhagor o'r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas rhag Covid-19, yn ogystal â brechlyn Pfizer BioNTech.

Bydd Cymru'n cael ei chyfran o dros 100 miliwn dos o'r brechlyn hwn yn y misoedd i ddod, yn unol â maint ei phoblogaeth.  Gellir storio'r brechlyn hwn ar dymheredd arferol oergell  ar gyfer brechlynnau ac felly mae'n haws ei ddefnyddio yn y gymuned o safbwynt ymarferol, gyda llai o faterion storio oer neu gludiant. Mae hyn yn ei dro yn golygu y gallwn ymestyn ein Rhaglen, yn enwedig i ragor o Gartrefi Gofal ac i leoliadau gofal sylfaenol. Bydd yn ein helpu'n arbennig i ddarparu brechlyn yn unol â’r amserlen i breswylwyr Cartrefi Gofal a'r carfannau oedran hŷn hynny o'r boblogaeth y nodwyd eu bod yn wynebu'r risg mwyaf gan Gyd-bwyllgor Brechu ac Imiwneiddio'r DU (JCVI).

Sefydlwyd trefniadau i alluogi darparwyr gofal sylfaenol i gymryd rhan er mwyn cynnig hyblygrwydd i Fyrddau Iechyd a'r capasiti posibl y bydd ei angen i ddarparu'r brechlyn. Bydd Cynllun Gofal Sylfaenol ar gyfer Imiwneiddio rhag Covid-19 (PCCIS) yn gallu cynnwys pob contractwr gofal sylfaenol.

Bydd y defnydd o'r brechlyn hwn bellach yn dechrau ddechrau mis Ionawr. Bydd deunyddiau hyfforddi sy'n benodol i frechlynnau ar gael i frechwyr, yn unol â nodweddion brechlyn AstraZeneca Rhydychen. Fel yn achos brechlyn Pfizer BioNTech, ni fydd angen i bobl ffonio eu hysbyty neu eu meddyg teulu lleol, gan y byddant yn cael apwyntiad pan ddaw eu tro. Edrychwn ymlaen at weld rhagor o lwyddiannau ymchwil ym maes brechlynnau yn 2021 i'n galluogi i sicrhau cyflenwad cryf a sefydlog o frechlynnau i boblogaeth Cymru.

Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.