Neidio i'r prif gynnwy

Carwyn Jones, y Prif Weinidog

Cyhoeddwyd gyntaf:
29 Mehefin 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Ar 22 Mehefin, ynghyd â Gweinidog yr Amgylchedd, cynrychiolais Lywodraeth Cymru yn negfed Uwchgynhadledd ar hugain y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig yn Guernsey. Cadeiriwyd yr Uwchgynhadledd gan y Dirprwy Gavin St Pier, Prif Weinidog Llywodraeth Guernsey. Roedd Gweinidogion arweiniol o Aelod-weinyddiaethau eraill y Cyngor yn bresennol yn yr Uwchgynhadledd. Roedd y rhain yn cynnwys:

• An Taoiseach, Leo Varadkar TD, o Lywodraeth Iwerddon

• Canghellor Dugiaeth Caerhirfryn a Gweinidog Swyddfa'r Cabinet, y Gwir Anrhydeddus David Lidington AS

• Prif Weinidog yr Alban, y Gwir Anrhydeddus Nicola Sturgeon

• Prif Weinidog Llywodraeth Ynys Manaw, yr Anrhydeddus Howard Quayle MHK

• Prif Weinidog Llywodraeth Jersey, y Seneddwr John Le Fondré

Mae Uwchgynhadledd y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig yn gyfle pwysig i’r Aelod-weinyddiaethau gydweithio a rhannu arferion da ynghylch y materion cyffredin rydym yn eu hwynebu. Roedd yr Uwchgynhadledd hon yn gyfle i'r Aelod-weinyddiaethau ystyried blaenoriaethau Aelodau'r Cyngor ac i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Cyngor ynghylch y gweithgarwch mewn perthynas ag ymadawiad y DU â'r Undeb Ewropeaidd (UE).

Agorodd yr Uwchgynhadledd gyda chyfarfod Gweinidogion o sector gwaith Amgylchedd y Cyngor a oedd yn canolbwyntio ar yr Amgylchedd Morol gyda thri maes blaenoriaeth:-

• Mynd i'r afael â sbwriel môr

• Bioamrywiaeth ac Ardaloedd Morol Gwarchodedig

• Asideiddio'r Moroedd

Roedd Gweinidog yr Amgylchedd, Hannah Blythyn AC yn cynrychioli Cymru ac adroddodd yn ôl i gyfarfod yr Uwchgynhadledd ar y camau rydym yn eu cymryd i fynd i'r afael â'r meysydd blaenoriaeth uchod. Siaradodd am ein uchelgais i Gymru fod y genedl ail-lenwi gyntaf a'r ymrwymiad i gefnogi cymunedau i leihau, ailddefnyddio ac ailgylchu deunyddiau plastig i'w rhwystro rhag cyrraedd yr amgylchedd. Nododd y Gweinidog bwysigrwydd mynd i'r afael â gwastraff ynghyd ag ystyried yr hyn sy'n digwydd ar ddiwedd cylch bywyd y gwastraff a gynhyrchwn. Siaradodd y Gweinidog hefyd am ein hymrwymiad i'r Rhwydwaith Ardaloedd Morol Gwarchodedig a'n dyletswydd yng Nghymru i ystyried bioamrywiaeth ym mhopeth a wnawn.

Yn dilyn hynny cafwyd trafodaeth am y datblygiadau gwleidyddol diweddaraf. Cafodd y Cyngor yr wybodaeth ddiweddaraf am y cyfarfodydd rhwng y llywodraethau a'r pleidiau yng Ngogledd Iwerddon. Bu'r Gweinidogion hefyd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Cyngor am eu gweithgarwch mewn perthynas ag ymadawiad y DU â'r UE, yn enwedig mewn perthynas â'r economi a masnachu, yr hawl i bobl a nwyddau symud yn rhydd, yr Ardal Deithio Gyffredin a'r berthynas â'r UE.

Cyhoeddwyd prif bwyntiau trafod y degfed Uwchgynhadledd ar hugain mewn hysbysiad ar y cyd.

https://www.britishirishcouncil.org/sites/default/files/communiqués/Thirtieth Summit Comminique - Guernsey_3.pdf