Neidio i'r prif gynnwy

Kirsty Williams AS, y Gweinidog Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Mawrth 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Ym mis Gorffennaf 2020, penodais yr Athro Charlotte Williams OBE i gadeirio’r Gweithgor Cymunedau, Cyfraniadau a Chynefin Pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig yn y Cwricwlwm Newydd.

Bydd ymchwil a chanfyddiadau’r Grŵp yn cael eu bwydo i’n cwricwlwm newydd uchelgeisiol, gan atgyfnerthu pwysigrwydd addysgu am brofiadau a chyfraniadau amrywiol pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig ar draws y cwricwlwm.

Gofynnwyd i’r Grŵp wneud ei waith mewn dau gam. Y cam cyntaf oedd llunio adolygiad o’r adnoddau sydd ar gael ar hyn o bryd i helpu i addysgu am themâu sy’n ymwneud â chymunedau a chynefin Pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig ym mhob rhan o’r cwricwlwm. Yr ail gam oedd adolygu cyfleoedd ac adnoddau dysgu proffesiynol cysylltiedig.

Ar ddiwedd y cam cyntaf ym mis Tachwedd 2020, cyflwynwyd adroddiad interim imi yn canolbwyntio ar adnoddau dysgu: https://llyw.cymru/gweithgor-cymunedau-cyfraniadau-chynefin-pobl-dduon-asiaidd-lleiafrifoedd-ethnig-yn-y-cwricwlwm

Heddiw, ar ddiwedd ail gam eu gwaith, rwy’n croesawu adroddiad terfynol y Grŵp ac yn derbyn pob un o’r argymhellion: https://llyw.cymru/adroddiad-terfynol-gweithgor-cymunedau-cyfraniadau-chynefin-pobl-dduon-asiaidd-lleiafrifoedd-ethnig-yn-y-cwricwlwm

Mae’r adroddiad yn adeiladu ar gynnwys yr adroddiad interim, gan osod argaeledd adnoddau dysgu cadarn yng nghyd-destun dysgu a datblygiad proffesiynol, a hyfforddiant i’r gweithlu. Mae’r Grŵp hefyd wedi dod o hyd i heriau ac wedi cynnig datrysiadau, er enghraifft cynaliadwyedd. Mae’n edrych ar bwysigrwydd defnyddio dull ysgol gyfan, sy’n cynnwys rhieni, llywodraethwyr a’r cymunedau ehangach.

Mae’r adroddiad a gyflwynwyd imi gan y Grŵp yn drylwyr ac yn wrthrychol, gyda chyfoeth o dystiolaeth a gasglwyd gan bobl go iawn. Wrth wraidd yr adroddiad mae pwyslais cryf ar alluogi a chefnogi datblygiad athrawon a’n dysgwyr fel ‘dinasyddion egwyddorol a gwybodus yng Nghymru a’r byd’.

Rwy’n falch o gyhoeddi hefyd gyllideb o £500,000 ar gyfer 2021/2022 i helpu i weithredu’r argymhellion hyn fel rhan o’r gwaith o ddarparu’r Cwricwlwm newydd i Gymru.

Yn y cwricwlwm newydd, bydd hanes Cymru a’i holl amrywiaeth yn orfodol yn y Datganiadau o’r Hyn sy’n Bwysig ym Maes Dysgu a Phrofiad y Dyniaethau. Rhaid i’r hyn a ddysgir yn y maes hwn gynnwys gwerthfawrogiad o hunaniaeth a threftadaeth, stori Cymru, a ffyrdd o wella ymdeimlad o gynefin ymysg dysgwyr. Mae’r Datganiadau o’r Hyn sy’n Bwysig ar gyfer y maes hwn yn awr yn cyfeirio’n benodol at ddealltwriaeth gyffredin o hanes amrywiol, treftadaeth ddiwylliannol, amrywiaeth ethnig, hunaniaeth, profiadau a safbwyntiau ardaloedd lleol, Cymru a gweddill y byd.

Bydd ystyried gwahanol safbwyntiau yn helpu i hyrwyddo dealltwriaeth o’r amrywiaeth ethnig a diwylliannol sydd yng Nghymru. Gyda’i gilydd, bydd y profiadau hyn yn helpu dysgwyr i werthfawrogi i ba raddau y maent yn rhan o gymuned ryngwladol ehangach, gan feithrin ymdeimlad o berthyn a all eu hannog i gyfrannu mewn modd cadarnhaol at eu cymunedau.

Gan ystyried safbwyntiau’r Grŵp ynghylch pwysigrwydd cynaliadwyedd y gwaith hwn, rwy’n cytuno y bydd yn hanfodol i’r argymhellion hyn gael eu gweithredu drwy ymgysylltu’n barhaus ag Estyn, aelodau’r Grŵp eu hunain a rhanddeiliaid eraill sydd wedi ymwneud â’r broses hyd yma. Byddwn hefyd yn cysylltu’r gwaith hwn â’r Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol, sydd i fod i gael ei gyhoeddi ar gyfer ymgynghoriad erbyn 25 Mawrth, i ymgorffori ein gwaith.

Rwy’n ddiolchgar iawn i’r Athro Charlotte Williams OBE am dderbyn fy ngwahoddiad i helpu i ddarparu’r Cwricwlwm newydd i Gymru mewn rôl ymgynghorol a gweithredol o fis Mawrth 2021 ymlaen, gan gynnwys cefnogi swyddogion i fwrw ymlaen â’r argymhellion hyn.

I gloi, hoffwn ddiolch i’r Athro Charlotte Williams OBE ac aelodau eraill y Grŵp am eu gweledigaeth gadarn a’u gwaith caled wrth gynnal yr ymchwil i lunio’r adroddiad terfynol rhagorol hwn.