Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Mehefin 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Croesawaf y cyhoeddiad ddoe gan ymchwilwyr ym Mhrifysgol Rhydychen fod dexamethasone yn lleihau marwolaethau'n sylweddol ymysg cleifion sydd yn yr ysbyty ac y mae arnynt angen ocsigen neu gymorth anadlu o ganlyniad i heintiad gyda COVID-19. Mae'r datganiad hwn yn egluro'r sefyllfa yng Nghymru.

Ers dechrau’r treial RECOVERY yn gynharach eleni, mae pob bwrdd iechyd wedi bod yn cymryd rhan ynddo gyda 427 o gleifion yn cael eu recriwtio i'r astudiaeth o ysbytai yng Nghymru. Mae'r cyhoeddiad ddoe yn dangos pwysigrwydd ymrwymiad y GIG yng Nghymru i gymryd rhan mewn treialon clinigol a chefnogaeth Llywodraeth Cymru i ymchwil a datblygu.

Meddyginiaeth sydd ar gael yn eang ac yn rhad ac sy’n cael ei defnyddio bob dydd yng Nghymru yw dexamethasone. O ganlyniad, gellir rhoi canfyddiadau'r treial RECOVERY a ddisgrifir yn natganiad heddiw (17 Mehefin) gan y Dirprwy Brif Swyddog Meddygol ar waith yn ddi-oed.  Mae canllawiau ysbytai Cymru gyfan ar gyfer triniaeth COVID-19 wedi cael eu diweddaru i gymryd y canfyddiadau hyn i ystyriaeth ac mae rhybudd wedi'i roi i bob un o sefydliadau a  chlinigwyr y GIG sy'n gweithio yng Nghymru yn nodi manteision cadarnhaol dexamethasone ac yn eu cynghori i'w ystyried fel opsiwn ar gyfer triniaeth i gleifion COVID-19 y mae arnynt angen ocsigen neu gymorth awyru.