Neidio i'r prif gynnwy

Huw Lewis, y Gweinidog Addysg a Sgiliau

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Gorffennaf 2013
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Mae’n bleser gennyf gyhoeddi fy mod heddiw wedi llofnodi Gorchymyn i ddiddymu Corfforaeth Addysg Uwch Prifysgol Fetropolitan Abertawe. Gosodwyd y Gorchymyn gerbron y Cynulliad Cenedlaethol ar 11 Gorffennaf. A chymryd y caiff y prosesau statudol arferol eu cwblhau, daw’r Gorchymyn i rym ar 1 Awst 2013.  Bydd yn diddymu Corfforaeth Addysg Uwch Prifysgol Fetropolitan Abertawe ac yn trosglwyddo eiddo, hawliau a rhwymedigaethau’r sefydliad hwnnw i Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant. Ar ôl yr uno, bydd y sefydliad newydd yn dal i gael ei galw’n Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.

Mae fy mhenderfyniad i greu’r Gorchymyn yn dilyn cyfnod o ymgynghori â’r sefydliadau perthnasol, ac â grwpiau ac unigolion eraill cysylltiedig. Ar ôl ystyried achos busnes y sefydliadau dros yr uno, ynghyd â’r materion a godwyd gan randdeiliaid a’r holl wybodaeth berthnasol arall oedd ar gael, rwyf o’r farn mai’r penderfyniad i ddiddymu Prifysgol Fetropolitan Abertawe a’i huno â Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yw’r un cywir.

Mae’r broses o integreiddio’r ddau sefydliad wedi bod ar y gweill ers peth amser, gan adeiladu ar drafodaethau cychwynnol yn 2010. Mae un o’r argymhellion yn adroddiad CCAUC, Strwythur Prifysgolion yng Nghymru yn y Dyfodol yn adlewyrchu’r symudiad tuag at uno. Mae creu’r sefydliad newydd yn gam pwysig arall tuag at gyflawni ein hymrwymiad i sefydlu nifer lai o brifysgolion cryfach yng Nghymru. Hoffwn ddymuno pob llwyddiant i’r brifysgol newydd.