Neidio i'r prif gynnwy

Jane Hutt AC, Y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Tachwedd 2015
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Cafodd Hyb Cynghori Ewrop ar Fuddsoddi ei greu ym mis Medi o dan nawdd Cynllun Buddsoddi Ewrop (IPE).  Mae’n rhan o Fanc Buddsoddi Ewrop (EIB) a’i amcan penodol yw helpu i roi Cronfa Buddsoddi Strategol Ewrop (EFSI), gwerth €315  biliwn, ar waith a chynnig gwasanaethau technegol a chymorth i hyrwyddwyr prosiectau seilwaith. Ceir mwy o wybodaeth am yr Hyb ar y ddolen isod. 

www.eib.org/eiah/

Ers lansio’r IPE, rwyf wedi cael nifer o drafodaethau adeiladol gyda Jonathan Taylor, Is-lywydd y DU ym Manc Buddsoddi Ewrop (EIB) – ar 19 Hydref y cafwyd y diweddaraf ohonynt, yng Nghampws Arloesi newydd Bae Abertawe.  Diben y trafodaethau oedd pennu pa seilwaith yng Nghymru y dylid rhoi blaenoriaeth i fuddsoddi ynddynt, sef y rheini y gallai EFSI ac offerynnau cyllido eraill yr EIB eu hariannu.  Yn ystod y trafodaethau hyn, mae Llywodraeth Cymru wedi hyrwyddo mwy na deg cynllun a allai elwa ar EFSI ac offerynnau eraill. Mae’r prosiectau’n cwmpasu nifer o sectorau ym mhob rhan o Gymru, gan gynnwys Cynllun y Lagŵn Llanw, cynllun deuoli adrannau 5 a 6 yr A465, Prosiectau’r Ynys Ynni, y Metro a Chanolfan Canser Felindre.  

Fel rhan o’m trafodaethau gyda Jonathan Taylor, gwahoddais Hyb Cynghori Ewrop ar Fuddsoddi i siarad â ni am ei waith gyda hyrwyddwyr prosiectau o holl sectorau cyhoeddus a phreifat Cymru.  Roeddwn wrth fy modd pan ddywedodd Jonathan y byddai’n derbyn fy ngwahoddiad; ac i’r Hyb heddiw gyflwyno cwmpas ei waith i gynulleidfa frwd o Gymry.  Hwn oedd y digwyddiad cyntaf o’i fath yn y DU a chyda’r cyntaf i gael ei gynnal yn Ewrop.  At hynny, cefnogwyd yr Hyb yn y digwyddiad gan gydweithwyr iddo o Adran Weithredol yr EIB yn ogystal â chan cydweithwyr o’r Comisiwn Ewropeaidd, sy’n gyfrifol am gynnal y diwygiadau strwythurol i wella amodau buddsoddi o dan yr IPE yn yr UE. 

Mae’r anerchiad hwn yn dod ar warthaf fy ymweliad ddoe ag Ymddiriedolaeth GIG Felindre.  Cefais gyfarfod yno â’r tîm sy’n gyfrifol am raglen Dosbarthu Di-elw (NPD) cynllun ailddatblygu’r ysbyty, gwerth £210 miliwn.  Bydd yn hanfodol i waith rhaglen gweddnewid gwasanaethau canser y De-Ddwyrain.  Mae’r cynllun NPD yn un o nifer o brosiectau seilwaith yng Nghymru y mae’r EIB wedi mynegi diddordeb yn ei gyllido; a rhagwelir mai hwn fydd y cyntaf o gynlluniau NPD Llywodraeth Cymru i gael ei dendro yn y farchnad, hynny yn 2016.  

Byddaf yn parhau i weithio’n glos â’r EIB i hyrwyddo cyfleoedd i fuddsoddi yn seilwaith Cymru, ac i annog hyrwyddwyr prosiectau o bob rhan o Gymru i gydweithio â Hyb Cynghori Ewrop ar Fuddsoddi.  Byddaf yn parhau i roi gwybodaeth i Aelodau am hynt y gwaith hwn wrth i faterion fynd yn eu blaen.