Neidio i'r prif gynnwy

Jane Hutt, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
25 Mai 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Roedd y golygfeydd treisgar yn Abertawe ddydd Iau diwethaf yn hollol annerbyniol. Ni fyddwn ni’n goddef trais, anhrefn a'r risg anochel i fywyd a ddeilliodd o ymddygiad o'r fath mewn unrhyw ran o Gymru.

Hoffwn fynegi fy nghydymdeimlad â'r rhai yng nghymuned Mayhill sydd wedi dioddef yr effaith fwyaf uniongyrchol. Rwy’n pryderu am yr unigolion a'r teuluoedd hynny a allai deimlo'n ofnus ac yn anniogel yn eu cartrefi eu hunain o ganlyniad i ymddygiad mor ddidrugaredd ac rwy’n falch bod Cyngor Abertawe wedi cynnig cefnogaeth a chymorth i’r teuluoedd hynny.

Mae adeiladu cymunedau diogel, cryf a hyderus wedi bod yn ymrwymiad parhaus gan Lywodraeth Cymru ac fe fyddwn yn parhau i weithio ochr yn ochr ag amrywiaeth o asiantaethau i sicrhau bod cymuned Mayhill yn cael y gefnogaeth y mae'n ei haeddu wrth iddi adfer o ddigwyddiadau’r wythnos diwethaf.

Un peth cadarnhaol clir sydd wedi deillio o’r digwyddiad ofnadwy hwn yw i ba raddau y mae cymuned Mayhill wedi dod at ei gilydd i wrthod ymddygiad lleiafrif ac i fynd ati i roi cymorth ymarferol i'r rhai a wnaeth ddioddef fwyaf. Hoffwn ddiolch i'r bobl garedig hyn am eu pryder a’r gwahanol fathau o gefnogaeth ymarferol y maent wedi'u rhoi yn union ar ôl y digwyddiad

– roedd gweld hyn yn codi’r galon.

Hoffwn fanteisio ar y cyfle i ddiolch hefyd i Heddlu De Cymru am reoli'r sefyllfa heriol a heb anaf difrifol i'r cyhoedd. Hoffwn hefyd gynnig y dymuniadau gorau i’r swyddogion hynny a ddioddefodd fân anafiadau ar y noson.

Hoffwn hefyd ddiolch i Gyngor Abertawe a’u staff a oedd yn gallu cynnig cymorth brys ar y pryd ac wedyn, ar y cyd â’r Heddlu a phartneriaid eraill. Byddant yn parhau i ddarparu cymorth parhaus wrth i'r gymuned geisio adfer yn sgil y digwyddiad hynod anarferol hwn – digwyddiad a oedd yn wirioneddol erchyll.

Mae hon yn sefyllfa sy'n gofyn am ddull amlasiantaeth a gaiff ei ddarparu’n lleol ac rwy'n falch o weld mai dyma'n union y mae'r Heddlu a Chyngor Abertawe yn ei ddarparu gan roi i’r gymuned y cymorth a'r sicrwydd y mae arni ei hangen ar hyn o bryd.

Rwy’n gwybod o'r cyswllt parhaus â'r Heddlu a Chomisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru ers dechrau dydd Gwener a thrwy gydol y penwythnos, fod arestiadau pellach yn debygol iawn dros y dyddiau nesaf, yn ogystal â'r arestiadau sydd eisoes wedi’u gwneud. Hoffwn yn annog unrhyw un sydd â thystiolaeth o weithgarwch troseddol sy'n gysylltiedig ag aflonyddwch Mayhill, gan gynnwys tystiolaeth fideo, i rannu'r hyn sydd ganddynt gyda'r heddlu, a hynny ar frys.

Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i gydweithio â Heddlu De Cymru, Cyngor Abertawe ac asiantaethau perthnasol eraill i sicrhau bod cymuned Mayhill yn gallu adfer yn sgil y digwyddiad brawychus hwn cyn gynted â phosibl.