Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Tachwedd 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Gyda llai na 1000 o ddiwrnodau i fynd tan i'r twrnamaint gychwyn ar 9 Mehefin 2028, pleser yw cadarnhau ymrwymiad Cymru i gynnal Pencampwriaeth Ewrop UEFA yn 2028, ochr yn ochr â'n partneriaid yn y DU ac Iwerddon. Mae hwn yn gyfle unwaith mewn cenhedlaeth i arddangos Cymru yn fyd-eang a chynnig manteision parhaol i'n cymunedau.

Bydd Llywodraeth Cymru yn buddsoddi hyd at £30 miliwn i gefnogi'r gwaith o gyflawni'r twrnamaint yn llwyddiannus. Mae'r cyllid hwn yn sail i'n huchelgais i wneud y mwyaf o effaith gymdeithasol ac economaidd EURO 2028 ledled Cymru. Mae'r dadansoddiad diweddaraf yn dangos bod disgwyl i'r twrnamaint gynhyrchu £3.6 biliwn mewn buddion economaidd-gymdeithasol i'r DU ac Iwerddon, sef cynnydd sylweddol o amcangyfrifon cynharach. Rydym yn rhagweld y bydd Cymru yn cael cyfran o hyd at £250m o ganlyniad i'r cyfleoedd hyn.

Mae mwy i'r buddsoddiad na phêl-droed yn unig. Mae'n ymwneud â chreu gwaddol sy'n cryfhau cynhwysiant, yn cysylltu cymunedau, ac yn creu cyfleoedd economaidd. Trwy raglenni wedi'u targedu, byddwn yn hyrwyddo iechyd meddwl, cydraddoldeb a lles, gan sicrhau bod y twrnamaint yn gadael argraff gadarnhaol ymhell y tu hwnt i'r cae pêl-droed.

Stadiwm Cenedlaethol Cymru yng Nghaerdydd fydd yn cynnal y gêm agoriadol, ac edrychwn ymlaen at groesawu cefnogwyr o bob cwr o Ewrop. Bydd y digwyddiad hwn yn dathlu ein diwylliant, yn ysbrydoli pobl i gymryd rhan, ac yn gyrru twf mewn twristiaeth ac economïau lleol. Mae EURO 2028 yn fwy na digwyddiad chwaraeon; mae'n gyfle i ysgogi cynnydd.