Neidio i'r prif gynnwy

Dawn Bowden, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
31 Ionawr 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Hoffwn roi gwybod i'r Aelodau, yn dilyn proses ymgeisio gystadleuol gan gynnwys 23 stadia ar draws 12 gwlad Ewropeaidd, fod cais ar y cyd rhwng Llywodraeth Cymru, Cyngor Dinas Caerdydd ac Undeb Rygbi Cymru wedi llwyddo i ddenu Penwythnos Terfynol Rygbi Cwpan Proffesiynol Ewrop (EPCR) a fydd yn cael ei gynnal yn Stadiwm Principality yng Nghaerdydd ym mis Mai 2025. 

Y Penwythnos Terfynol yw uchafbwynt rygbi clwb proffesiynol ar draws y byd. Gyda chlybiau sy'n cymryd rhan bellach yn rhychwantu Ewrop a De Affrica, mae cystadlaethau EPCR bellach yn cyrraredd mwy ac mae llawer mwy o gefnogwyr.   Mae'r cystadlaethau bellach yn cynnwys 42 o dimau proffesiynol o saith gwlad wahanol (Cymru, Iwerddon, yr Alban, Lloegr, Ffrainc, yr Eidal a De Affrica).  Mae'r rowndiau terfynol yn cael eu cynnal dros ddeuddydd sy'n cynnwys y Cwpan Her ar y nos Wener a Chwpan y Pencampwyr ar y pnawn Sadwrn. 

Mae hyn yn newyddion gwych ac mae'r cyhoeddiad heddiw yn benllanw gwaith rhwng swyddogion Digwyddiadau Cymru a'n partneriaid wrth ddatblygu cynnig digon deniadol i EPCR ddod â'r Rowndiau Terfynol i Gaerdydd. Cynhaliodd Stadiwm Principality y rownd derfynol gyntaf erioed yn 1996 a fyddai'n golygu y byddai digwyddiad 2025 yn 30 mlynedd ers y gêm gyntaf.

Mae gan Gymru enw da yn fyd-eang erbyn hyn am gynnal digwyddiadau chwaraeon proffil uchaf, a'r twrnamaint hwn fydd y diweddaraf yn y gyfres hir o ddigwyddiadau chwaraeon rhyngwladol sy'n gwneud cymaint i arddangos ein lleoliadau, codi ein proffil ledled y byd a dangos ein gwerthoedd fel cenedl groesawgar i bawb. Mae'r lleoliad hefyd wedi ei gadarnhau fel lleoliad ar gyfer gemau dethol ym Mhencampwriaethau Pêl-droed UEFA 2028, ochr yn ochr â stadiymau eraill y DU ac Iwerddon. 

Mae digwyddiadau o'r math hwn yn dod ag ystod o fanteision i Gymru ac economi Cymru ac yn cadarnhau ein henw da am gynnal digwyddiadau chwaraeon rhyngwladol yn llwyddiannus. Gallai'r effaith economaidd a ragwelir yn Rowndiau Terfynol EPCR fod dros £36m a bydd ymgyrch farchnata blwyddyn o hyd yn gweld Cymru a Chaerdydd yn creu proffil rhyngwladol a sylw yn y cyfryngau gyda'r Rowndiau Terfynol yn cael eu darlledu i dros 100 o wledydd ledled y byd. Bydd yr effaith gymdeithasol-ddiwylliannol yn golygu bod dros 200 o wirfoddolwyr yn cymryd rhan yn ystod y penwythnos gyda gweithgareddau wedi'u cynllunio ar gyfer grwpiau cymunedol ac ysgolion yn ystod y cyfnod cyn y Rowndiau Terfynol.

Edrychwn ymlaen at groesawu chwaraewyr, swyddogion a chefnogwyr yn 2025, ac unwaith eto arddangos Cymru i gynulleidfaoedd rhyngwladol fel cyrchfan o'r safon uchaf ar gyfer digwyddiadau a thwristiaeth.