Neidio i'r prif gynnwy

Carl Sargeant, y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol

Cyhoeddwyd gyntaf:
25 Ionawr 2011
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2007 i 2011

Mynegwyd diddordeb yn ddiweddar yn yr atebolrwydd ar fusnesau mewn porthladdoedd i dalu trethi wedi'u hôl-ddyddio. 

Mae Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn prisio eiddo at ddibenion codi tâl ar fusnesau a phennu gwerthoedd trethadwy bob 5 mlynedd ar sail gwerthoedd rhent eiddo busnes.  

 Yn 2007-2008, ailwerthusodd Asiantaeth y Swyddfa Brisio y rhestrau trethi ar gyfer porthladdoedd yng Nghymru a Lloegr gan arwain at newid yn y sail a ddefnyddir i brisio a rhestru porthladdoedd o ran trethi annomestig gan ei gysoni ag arfer prisio sefydledig wrth ymdrin â busnesau eraill. O ganlyniad, yn lle prisio a rhestru porthladdoedd fel un eiddo, a pherchennog y porthladd yn atebol am dalu'r trethi, rhestrwyd pob eiddo busnes unigol yn y porthladdoedd a'u prisio'n unigol a gwnaed perchennog pob eiddo yn atebol am dalu'r trethi. Mae hyn yn debyg i'r dull a ddefnyddir mewn perthynas â busnesau mewn meysydd awyr neu ganolfannau siopa er enghraifft.

Rhoddwyd biliau trethi i'r busnesau dan sylw wedi'u hôl-ddyddio i 1 Ebrill 2005, ac yn 2008 cyflwynodd Llywodraeth y Cynulliad (a Llywodraeth y DU yn Lloegr) ddeddfwriaeth i ganiatáu talu elfen ôl-ddyddiedig y trethi fesul rhandaliadau dros 8 mlynedd.

Effeithiwyd ar lai na 90 o fusnesau mewn porthladdoedd yng Nghymru gan yr adolygiad hwn o drethi, ac mae'r rhan fwyaf o'r rhain naill ai wedi talu eu trethi ôl-ddyddiedig yn llawn neu'n talu eu biliau fesul rhandaliadau y cytunwyd arnynt ag awdurdodau lleol.

Yn gynharach eleni, rhewodd Llywodraeth y DU yr ad-daliadau hyn mewn perthynas ag eiddo perthnasol yn Lloegr ar gyfer y flwyddyn ariannol 2010-2011, ar amcan-gost o ryw £50 miliwn. Roedd dewis gan Lywodraeth y Cynulliad, sef naill ai gwneud yr un peth, a dilyn unrhyw gamau pellach a gymerid gan Loegr, gyda'r gost yn cael ei thalu o gronfa drethi ganolog Llywodraeth y DU, neu dderbyn cynnydd canlyniadol yn ei chyllideb o ryw £2.9 miliwn yn unol â fformwla Barnett. Penderfynodd Llywodraeth y Cynulliad ar y pryd mai'r ffordd fwyaf cost-effeithiol o ddefnyddio'r arian hwn fyddai derbyn y swm canlyniadol a'i ddefnyddio i wrthweithio'n rhannol effeithiau'r gostyngiadau mewn gwariant cyhoeddus a gyflwynwyd gan Lywodraeth y DU, a thrwy hynny helpu i ddiogelu swyddi a gwasanaethau cyhoeddus hanfodol.

Erbyn hyn, mae Llywodraeth y DU yn bwriadu cyflwyno deddfwriaeth sylfaenol a gaiff yr effaith o ddileu'r trethi busnes ôl-ddyddiedig ar gyfer pob eiddo a holltwyd mewn perthynas â rhestr drethi 2005 (eiddo busnes a rannwyd yn fwy nag un eiddo ac a brisiwyd ar wahân) sydd â biliau trethi wedi'u hôl-ddyddio o leiaf 33 mis, lle gwnaed y newid i'r rhestr cyn 1 Ebrill 2010.  Ni fydd biliau trethi ôl-ddyddiedig trethdalwyr sydd ag atebolrwydd ôl-ddyddiedig tebyg, ond y mae natur eu heiddo, fel y nodir ar y rhestr brisio, wedi newid ar ôl 1 Ebrill 2010, yn cael eu canslo.   Hefyd, byddai trethdalwyr y caiff eu prisiad ei ddiwygio heddiw, a'i ôl-ddyddio i 2005, yn dal i orfod talu eu trethi ôl-ddyddiedig, fel unrhyw drethdalwr y mae ei eiddo wedi'i hollti ac sy'n creu atebolrwydd ôl-ddyddiedig ar ôl 2008.

Amcan cost atal a dileu'r atebolrwydd ôl-ddyddiedig yw tua £175 miliwn, ac o ganlyniad i benderfyniad Llywodraeth y Cynulliad i beidio ag atal atebolrwydd ôl-ddyddiedig yng Nghymru yn 2010-2011, mae'r Trysorlys eisoes wedi cynnwys swm ar gyfer cyllid canlyniadol, a allai fod yn rhyw £10 miliwn, o fewn yr adolygiad o wariant.

Pe bai Llywodraeth y Cynulliad yn gofyn am i'r ddeddfwriaeth sylfaenol sy'n dileu'r atebolrwydd ôl-ddyddiedig ddod i rym yng Nghymru, ni fyddai'n derbyn y cyllid ychwanegol hwn, a byddai'r toriadau i'w gwariant hyd yn oed yn fwy na'r rhai a gyhoeddwyd yn yr adolygiad o wariant. O gofio'r pwysau ariannol ac amharodrwydd Llywodraeth y DU hyd yn hyn i weithredu ar sail deg wrth ddyrannu cyllid i Lywodraeth y Cynulliad yn unol ag argymhelliad Comisiwn Holtham, mae'n rhaid i Lywodraeth y Cynulliad wneud penderfyniadau anodd ar y ffordd orau o sicrhau y gwneir y defnydd gorau o'r adnoddau cyfyngedig sydd ar gael, er lles pobl Cymru.