Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid

Cyhoeddwyd gyntaf:
1 Tachwedd 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Heddiw rwy’n cyhoeddi crynodeb o’r ymatebion i’n hymgynghoriad ar ddileu’r gosb o garchar am beidio â thalu treth gyngor. Rwyf hefyd yn cyhoeddi fy mwriad i gyflwyno deddfwriaeth i wneud yn siŵr na fydd yn bosibl, o fis Ebrill 2019, cychwyn achos i draddodi unigolyn i garchar oherwydd dyled treth gyngor.

Mae talu treth gyngor yn hanfodol er mwy cynnal y gwasanaethau cyhoeddus yr ydyn ni i gyd yn dibynnu arnynt bob dydd. Fodd bynnag, mae’n iawn hefyd bod y rhai sy’n llai abl i gyfrannu yn cael eu trin yn deg a chydag urddas. Mae cosbi drwy garcharu yn ymateb hen-ffasiwn ac anghymesur i fater dyled sifil.

Mae’r costau ychwanegol sy’n deillio o’r broses draddodi ac o anfon rhywun i’r carchar am beidio â thalu’r dreth gyngor; methiant y ddedfryd o garchar i fynd i’r afael ag achosion gwaelodol y ddyled, a’r effaith ar ddyfodol a llesiant y sawl sy’n cael ei garcharu a’i anwyliaid, yn golygu bellach nad oes modd i’r mater hwn gael ei adael heb ei herio.  

Derbyniodd ymgynghoriad Llywodraeth Cymru 188 o ymatebion oddi wrth ystod eang o randdeiliaid. Roedd mwyafrif helaeth y rhai a ymatebodd yn cefnogi ein cynigion.

Wrth ymateb i’r ymgynghoriad, gofynnodd yr awdurdodau lleol am fesurau ychwanegol i’w helpu i gynnal eu cyfraddau casglu. Rydym wedi ymrwymo i gydweithio â’r awdurdodau lleol i fonitro’r gwaith o newid y ddeddfwriaeth a byddaf yn ystyried cyflwyno mesurau newydd os bydd angen. Fodd bynnag, fel cam gyntaf, rwy’n gwybod y bydd yr awdurdodau lleol am edrych eto ar eu dulliau o fynd at i gasglu’r dreth gyngor, a rhannu arferion da. Ychydig o dystiolaeth sydd bod perthynas rhwng defnyddio’r broses draddodi a chyfraddau casglu, ond mae mwy a mwy o dystiolaeth mai’r ffordd orau o reoli lefelau casglu ac ôl-ddyledion yw drwy ymgysylltu’n gynnar â dinasyddion.

Fy nghobaith i yw y bydd dileu’r gosb o garchar, a’r bygythiad o gosb, am beidio â thalu’r dreth gyngor yn helpu i sicrhau bod ymgysylltu cynt rhwng dinasyddion ac awdurdodau lleol pan fydd materion yn codi, ac y bydd deialog fwy cadarnhaol yn digwydd.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i weithio gyda’r awdurdodau lleol i wneud y dreth gyngor yn decach yng Nghymru. Mae’r cyhoeddiad heddiw yn garreg filltir bwysig yn yr ymdrechion hynny.

Mae’r crynodeb o ymatebion i’r ymgynghoriad ar gael yn:

https://beta.llyw.cymru/dileur-gosb-o-garchar-am-beidio-thalu-treth-gyngor