Neidio i'r prif gynnwy

Julie James, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Mawrth 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Rydym yn gwybod bod lleihau’r rhwystrau er mwyn i bobl anabl allu cynnal eu hannibyniaeth, diogelwch a iechyd yn caniatáu iddynt barhau i fyw yn eu cartref gydag urddas, ac mae hefyd yn lleihau’r pwysau ar wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.  O Ebrill 2021 bydd yn haws i bobl anabl gael cymorth gydag addasiadau bach a chanolig eu maint i’w cartrefi wrth i ni gymryd camau i ddileu’r prawf modd ar Grantiau Cyfleusterau i’r Anabl (GCA).

GCA yw prif ffynhonnell cymorth i bobl anabl yn y mwyafrif o aelwydydd yng Nghymru sy’n berchen-feddianwyr neu sy’n rhentu yn y sector preifat. Dyma’r brif ffordd y maent yn cael cymorth gyda’r mathau mwyaf cyffredin o addasiadau, megis lifft risiau, rampiau, a chyfleusterau toiled ac ymolchi llawr gwaelod.

Mae ein data mwyaf diweddar yn dangos mai addasiadau bach a chanolig oedd y mwyafrif llethol o GCA – 1,507 bach a 2,214 canolig – o gymharu a dim ond 269 o addasiadau mawr. Os dilëwn y prawf modd, mae ymchwil annibynnol yn cyfrifo y byddai’n golygu cost ychwanegol ar lywodraeth leol yng Nghymru o £238,000, ac mae’n amcangyfrif y byddai pob awdurdod lleol yn arbed £6,000-£10,000 bob blwyddyn mewn costau gweinyddol. Cyhoeddwyd yr ymchwil hwn gan Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru ar eu gwefan heddiw.

Mae awdurdodau lleol dan ddyletswyddau statudol i roi GCA i bobl anabl sy’n gymwys ac ni fydd hyn yn newid. Fodd bynnag, gallant ddefnyddio pwerau o dan y Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio 2002 i roi grantiau heb gynnal prawf modd. Am y rheswm hwn, rwy’n cynyddu’r grant Hwyluso i awdurdodau lleol o Ebrill 2021 o £400,000, i £4.4 miliwn. Gellir defnyddio’r grant ychwanegol hwn i gwrdd â phwysau cyllid cyfalaf a delio ag unrhyw dagfeydd posibl fel canlyniad i gynnydd yn y galw am addasiadau. Rwy’n teimlo’n hyderus y gallwn barhau i’w wneud yn haws i’r rhai sydd eu hangen gael addasiadau, yn ogystal â lleihau amseroedd aros, drwy gydweithio gydag awdurdodau lleol.

Dylid parhau i ariannu’r addasiadau o’r cyfalaf y mae Llywodraeth Cymru yn dosrannu i awdurdodau lleol i gwrdd â chostau GCA.

Byddwn yn monitro effaith y polisi hwn dros gyfnod cychwynnol o dair blynedd. Bydd rhaid i ni gasglu gwybodaeth am nifer y ceisiadau am GCA, cyfraddau cwblhau ac amseroedd aros. Byddwn yn adrodd yn flynyddol ar gynnydd.

Bydd yn amod y grant Hwyluso na fydd awdurdodau lleol yn cynnal prawf modd ar addasiadau bach a chanolig. Rwy’n disgwyl i awdurdodau lleol gydymffurfio er lles y bobl anabl sy’n byw yn eu hardaloedd. Os, mewn amser, fe ddaw’n glir bod rhaid gwneud hynny, bydd gennym yr opsiwn o ddeddfu yn y Senedd nesaf .

Yn achos y nifer bach o addasiadau mawr a wneir bob blwyddyn, hoffwn dynnu sylw at y canllawiau diwygiedig ar gyfer rhaglen gyfalaf y Gronfa Gofal Integredig (GGI) ar gyfer 2021/22 a gyhoeddais ym mis Ionawr. Fel arfer, dim ond yn yr achosion mwyaf cymhleth y mae gofyn am addasiadau mawr, megis teuluoedd â phlant anabl ac oedolion â chlefyd sy’n cwtogi bywyd. Mae datrys y materion ariannol yn gallu cymryd llawer o amser, gan arwain at drallod sylweddol a pharhaus. O dan ganllawiau diwygiedig y GGI, mae Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol yn cael defnyddio eu disgresiwn i gwrdd â chostau ychwanegol addasiadau sy’n costio mwy na £36,000. Byddaf yn monitro’r defnydd a wneir o’r hyblygrwydd hwn dros y flwyddyn nesaf.

Yn olaf, hoffwn gymryd y cyfle hwn i ddiolch i aelodau’r Grŵp Llywio Addasiadau Tai, yn cynnwys swyddogion tai awdurdodau lleol a’r CLlLC, am eu gwaith yn dod â ni at y pwynt lle gallwn gymryd y cam pwysig hwn i wella bywydau pobl anabl yng Nghymru.