Neidio i'r prif gynnwy

Edwina Hart, y Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Rhagfyr 2012
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Mae’r datganiad hwn yn hysbysu’r Aelodau am y camau rwy’n eu cymryd yn ymwneud â Dinas-ranbarthau.

Ym mis Hydref, arweiniais drafodaeth gyda’r Aelodau mewn Cyfarfod Llawn yn edrych ar y dull gweithredu ar sail dinas-ranbarthau. Eglurais y byddwn yn cefnogi’r dull gweithredu hwn ac yn defnyddio canfyddiadau’r Adroddiad wrth wneud polisïau. Roeddwn yn falch iawn o weld cymaint o gefnogaeth o bob cwr o’r Siambr.

Mae Dinas-ranbarthau llwyddiannus yn dibynnu ar y gefnogaeth ar draws y rhanbarthau eu hunain, gyda’r rhanbarth yn chwarae rhan mor bwysig â’r ddinas. Bydd angen consensws a gwir bartneriaeth i fabwysiadu’r dull gweithredu hwn.

Er mwyn dechrau ar y gwaith, rwyf wedi cytuno ar drefniadau dros dro ar gyfer pob un o’r dinas-ranbarthau i annog ffordd integredig o weithio a hyrwyddo’r cydweithio sydd ei angen i ddinas-ranbarthau lwyddo yn y tymor hir.  

Bydd grŵp gorchwyl a gorffen bach yn cael ei sefydlu ar gyfer pob un. Bydd pob grŵp yn cael ei Gadeirio ar y cyd gan Arweinydd un o’r Awdurdodau Lleol ac uwch gynrychiolydd o’r sector preifat er mwyn sicrhau bod ffocws clir ar fanteision datblygu economaidd.

Cyd-gadeiryddion grŵp Dinas-ranbarth De Ddwyrain Cymru fydd y Cynghorydd Bob Wellington, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen ac Arweinydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, a Rob Lewis, Cadeirydd Rhanbarthol PwC. Y Prif Weithredwr Arweiniol fydd Prif Weithredwr Cyngor Sir Fynwy.

Cyd-gadeiryddion grŵp Dinas-ranbarth Bae Abertawe fydd y Cynghorydd Ali Thomas, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell Nedd Port Talbot a Dirprwy Arweinydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, a Steve Penny, Cadeirydd JCP Solicitors. Y Prif Weithredwr Arweiniol fydd Prif Weithredwr Dinas a Sir Abertawe.

Bydd y Grwpiau Gorchwyl a Gorffen yn dechrau ar eu gwaith ar unwaith i ddatblygu cysyniad Dinas-ranbarthau yng Nghymru a’r strwythurau rhanbarthol. Rwyf wedi gofyn am adroddiad gan y Cadeiryddion ynghylch eu barn am y peirianwaith mwyaf priodol a’u trefniadau i ennyn diddordeb erbyn diwedd mis Ionawr.  

Mae dau fater sylweddol sy’n gofyn am sylw sydyn ar unwaith. Y cyntaf yw arian Ewropeaidd. Mae angen ystyried cylch ariannu nesaf Cronfeydd Strwythurol yr Undeb Ewropeaidd nawr er mwyn trefnu’r defnydd o arian ar gyfer y dyfodol.  Bydd y Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd, Bwyd a Rhaglenni Ewropeaidd, Alun Davies AC, felly yn bresennol yng nghyfarfodydd y ddau Grŵp am y 12 mis cyntaf, er mwyn helpu i lunio’r gwaith hwn. Hefyd, rwyf wedi ysgrifennu at y Comisiynydd Hahn, y Comisiynydd Ewropeaidd dros Bolisi Rhanbarthol, i roi gwybod iddo am y dull gweithredu ar sail Dinas-ranbarthau yr ydym yn dechrau ei ddefnyddio.

Rwyf hefyd wedi gofyn i’r Grwpiau Gorchwyl a Gorffen ganolbwyntio ar dwristiaeth gan fod yr adroddiad Dinas-ranbarthau wedi clustnodi hyn fel blaenoriaeth ranbarthol. Rwy’n awyddus i bartneriaid uno o fewn y rhanbarthau er mwyn datblygu ein cynnig. Rwy’n credu bod ffordd fwy integredig o weithio yn cynnig manteision cynnar i’r Rhanbarthau.

Mae’r argymhellion ynghylch datblygu economaidd yng Ngogledd Ddwyrain Cymru hefyd yn parhau i gael sylw allweddol gen i. Rwyf eisoes wedi comisiynu Dr Elizabeth Haywood i gyflawni rhagor o waith yn yr ardal ac mae wedi cychwyn ar y gwaith. Bu Dr Haywood yn cyfarfod amrywiol bartneriaid o ddwy ochr y ffin ddiwedd mis Hydref. Mae sesiwn drafod rhwng Dr Haywood ac Aelodau Gogledd Cymru yn cael ei threfnu ar hyn o bryd ac rwy’n eich annog i gyfranogi ynddi.

Byddaf yn gwneud Datganiad pellach i roi’r newyddion diweddaraf i’r Aelodau ym mis Chwefror.

Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau.  Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.