Neidio i'r prif gynnwy

Gwenda Thomas AC, y Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Hydref 2011
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Hoffwn roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am y cynnydd a wnaed wrth ddatblygu ein dull o ddiogelu ac amddiffyn pobl yng Nghymru.

Mae cydweithio a gweithio aml-asiantaethol yn hollol hanfodol er mwyn  cyflawni ein cyfrifoldebau i ddiogelu ac amddiffyn yn effeithiol, ac uwchlaw popeth er mwyn cyflawni ein cyfrifoldebau'n effeithiol fel rhieni corfforaethol.

Yn gynharach yn y mis, roeddwn yn falch i gynnal cyfarfod cyntaf fy Fforwm Partneriaeth ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol, a sefydlwyd i ddarparu arweiniad cenedlaethol ar gyfer y rhaglen hon ac yn cynnwys cynrychiolwyr o'r holl brif bleidiau gwleidyddol ar lefel llywodraeth leol yng Nghymru. Roedd yn gyfarfod da a chafwyd ymrwymiad cryf i weithio gyda'n gilydd yn gytûn er lles gorau trigolion Cymru. Bydd y Fforwm Partneriaeth yn chwarae rôl arweiniol bwysig wrth helpu i lunio a rhoi ar waith ein rhaglen drawsnewid yn y gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru.

Rydym wedi egluro ein bwriad i gyflwyno Bil Gwasanaethau Cymdeithasol (Cymru) yn 2012 i ddarparu fframwaith cyfreithiol ystyrlon yng Nghymru ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol "yn seiliedig ar yr egwyddorion sy'n agos at ein calonnau ni yng Nghymru."  Bydd y Bil yn creu fframwaith cyfreithiol newydd i'r 'bobl' a fydd yn cynnig mecanwaith ar gyfer gweithredu agweddau allweddol ar ein hagenda ddiogelu ac amddiffyn.

Bydd manylion ein cynigion yn cael eu llywio gan y dystiolaeth sylweddol a gomisiynwyd gennym yn ystod y blynyddoedd diweddar. Rwy'n ddiolchgar i'r Comisiwn Annibynnol ar Wasanaethau Cymdeithasol, Fforwm Diogelu Plant Cymru a'r Grŵp Amddiffyn Oedolion, a'r Pwyllgor Iechyd, Lles a Llywodraeth Leol ymysg eraill, sydd oll wedi cyfrannu'n sylweddol at y gwaith yn y maes hwn. Cyflwynodd y Fforwm adroddiad imi ym mis Awst. Gwn fod cryn ddiddordeb wedi bod yn yr adroddiad hwn ac rwyf erbyn hyn wedi trefnu i'w gyhoeddi.

Bydd y Bil yn cynnwys fframwaith statudol ar gyfer amddiffyn pobl (oedolion a phlant). Bydd yn atgyfnerthu trefniadau ar gyfer plant ac yn cwmpasu dyletswyddau newydd i ymchwilio, cydweithio a rhannu gwybodaeth ym maes amddiffyn oedolion. Bydd hefyd yn cynnwys diffiniad statudol o oedolyn mewn perygl. Rwyf wedi gofyn am gyngor gan swyddogion, gan ddefnyddio'r corff tystiolaeth sydd ar gael - gan gynnwys Deddf Cefnogi ac Amddiffyn Oedolion (Yr Alban) 2007 ac wedi cysylltu â rhanddeiliaid - ar faterion heriol fel ymyrraeth a gorfodi. Fy mwriad yw ymgynghori ar y materion hyn fel rhan o'r ymgynghoriad ffurfiol ar ein Bil yn gynnar yn 2012, a fydd hefyd yn cynnwys adolygiad o ganllawiau Llywodraeth Cymru ar ymyrraeth gorfforol gyfyngol.

Bydd sgôp y Bil yn mynd y tu hwnt i ffiniau gwasanaethau cymdeithasol a bydd yn rhoi dyletswyddau newydd cryfach o ran cydweithio a rhannu gwybodaeth ar asiantaethau a phartneriaid sydd heb eu datganoli yng Nghymru, megis sefydliadau gofal iechyd.

Rwy'n parhau'n argyhoeddedig bod angen arweiniad cenedlaethol cryf er mwyn rhoi hwb i wella safonau a sicrhau cysondeb canlyniadau. Byddaf yn defnyddio'r Bil i sefydlu ar sail statudol Fwrdd Diogelu Cenedlaethol o dan gadeiryddiaeth annibynnol.

Bydd 'dannedd' gan y Bwrdd hwn. Bydd ganddo swyddogaethau gweithredol i gomisiynu gwaith, a fydd yn dangos arweiniad ac yn hyrwyddo perchnogaeth, ac a fydd yn gallu rhoi cyngor ar yr hyn y bydd angen ei wneud i gryfhau polisi ac ymarfer. Bydd y Bwrdd yn cynnwys aelodau arbenigol yn hytrach na rhai cynrychioliadol. Rwy'n ddiolchgar i'r Fforwm am ei argymhellion yn y maes hwn. Byddwn yn eu defnyddio i lywio datblygiad ein cynigion deddfwriaethol.

Cadarnhaodd y Rhaglen Lywodraethu fy mwriad i sefydlu'r Bwrdd ar ffurf gysgodol yn 2012. Bydd y Bwrdd cysgodol yn fy helpu i lunio union gylch gwaith a swyddogaethau'r Bwrdd statudol a'r fframwaith fydd yn ei ategu.

Bwriadaf ddefnyddio'r Bil Gwasanaethau Cymdeithasol i'w gwneud yn ofynnol i sefydlu Byrddau Diogelu ac Amddiffyn i ddisodli'r Byrddau Lleol Diogelu Plant a'r pwyllgorau amddiffyn oedolion anstatudol cyfredol.

Bydd swyddogaethau'r Byrddau'n destun ymgynghoriad yn 2012, ond byddant yn cwmpasu swyddogaethau statudol cyfredol y Byrddau Lleol Diogelu Plant. Mae’r rhain yn cynnwys datblygu polisïau a gweithdrefnau i gydgysylltu gwaith, rhannu arferion da, codi ymwybyddiaeth ac ymgymryd ag ymchwil a chwmpas y pwyllgorau amddiffyn oedolion.  

Rwyf wedi dweud sawl gwaith nad yw gwneud pethau 22 gwaith yn gynaliadwy. Yn ôl tystiolaeth a gyflwynwyd gan AGGCC a chyrff arolygiaeth eraill yn gynharach yn y mis, awgrymwyd unwaith eto nad yw Byrddau Lleol Diogelu Plant yn gweithio mor effeithiol ag yr oeddem wedi gobeithio. Mae'r rhesymeg dros gael llai o fyrddau yn sylweddol. Felly hefyd yr achos dros wneud y byrddau amddiffyn oedolion yr un mor deg â'r rhai ar gyfer plant. 

Roedd y Comisiwn Annibynnol a'r Fforwm Diogelu Plant yn gweld gwerth ad-drefnu strwythur cyfredol y Byrddau Lleol Diogelu Plant er mwyn eu gwneud yn debycach i batrwm y Byrddau Iechyd Lleol cyfredol.

Rwyf wedi penderfynu y dylai'r Byrddau Diogelu ac Amddiffyn newydd gydweddu â'r patrwm arfaethedig o Gyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus mewn chwe maes. 

Cyn cyflwyno'r ddeddfwriaeth, rwy'n disgwyl y bydd y Byrddau Lleol Diogelu Plant yn dechrau cynllunio ar gyfer y newid ac yn symud ymlaen at fodel cydweithredol cyn gynted â phosib. Yn y cyfamser, bydd swyddogaethau'r Byrddau hyn, a bennir mewn rheoliadau, yn parhau'n ddigyfnewid. Bydd y cyfnod ymgynghori o amgylch y Bil yn ein galluogi ni i drafod a chynllunio gyda rhanddeiliaid y newidiadau i'r trefniadau cyfredol o amddiffyn oedolion.  

Dylai'r trefniadau newydd ar gyfer y Byrddau Diogelu ac Amddiffyn, a'r trefniadau a wnawn hefyd i gryfhau'r ddyletswydd statudol i gydweithio, helpu i sicrhau bod adnoddau a chapasiti ar gael i gefnogi gwaith y Byrddau. Fodd bynnag, yn ôl profiad dylid ystyried materion o'r fath ymlaen llaw. Rwyf felly wedi gofyn i swyddogion roi cyngor imi ar gynigion i newid y gyfraith sy'n gysylltiedig â chyfraniadau gan bartneriaid. 

O ran cadeiryddion annibynnol, nid wyf wedi cael fy argyhoeddi gan y dadleuon na'r dystiolaeth a gyflwynwyd i mi hyd yn hyn. Felly, yn amodol ar farn rhanddeiliaid wrth ymateb i'n hymgynghoriad ffurfiol y flwyddyn nesaf, nid wyf yn bwriadu ei gwneud yn ofynnol i’r Byrddau Diogelu ac Amddiffyn, ac eithrio’r Bwrdd Cenedlaethol, gael eu cadeirio'n annibynnol. Mater i'w benderfynu gan y Byrddau eu hunain fydd hynny.

Roedd Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy yn disgrifio fy agenda flaengar ar gyfer gwneud y gweithlu'n fwy proffesiynol er mwyn adeiladu ar lwyddiant y 10 mlynedd ddiwethaf. 

Bydd rheoleiddio gweithwyr proffesiynol allweddol a hyfforddiant yn parhau i hyrwyddo safonau uwch.  Rydym hefyd am rymuso staff i weithio gyda dinasyddion i gyd-greu'r cymorth sydd ei angen arnynt.  Enghraifft dda o hyn yw'r fframwaith Addysg a Dysgu Proffesiynol Parhaus, a gafodd ei ddatblygu ac yr ymgynghorwyd arno gan Gyngor Gofal Cymru.   Bydd hyn yn cefnogi gweithwyr cymdeithasol i ddwysáu ac ehangu eu cymhwysedd a'u hyder ar bob cam o'u gyrfa, gan eu helpu i ddefnyddio eu safbwynt proffesiynol wrth gyflawni'r gwaith heriol a wnânt.

Un o'r prif Flaenoriaethau ar gyfer Gweithredu yn y ddogfen Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy yw Lleihau Cymhlethdodau.  Rwy'n bwriadu defnyddio'r Bil Gwasanaethau Cymdeithasol hwn sydd ar fin cael ei gyhoeddi i symleiddio'r ddeddf gyfredol mewn meysydd craidd fel asesu a chynllunio gofal. Bydd hynny’n lleihau'r baich ar ymarferwyr rheng flaen ac yn eu rhyddhau i ddefnyddio'u safbwynt proffesiynol. Rwyf wedi penderfynu oedi cyn gweithredu cam terfynol Deddf Plant a Phobl Ifanc 2008 o safbwynt asesu a chynllunio gofal. Yng ngoleuni ein hagenda unigryw Gymreig a'r ddeddfwriaeth sydd ar fin cael ei chyhoeddi, ni fydd manteision bwrw ymlaen gyda chryfhau a mwy o gyfarwyddwyd mewn perthynas â swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol craidd yn cael eu gwireddu ar hyn o bryd.  

Rwy'n sicr nad yw trawsnewid a chynaliadwyedd yn golygu mwy o haenau o fiwrocratiaeth. Mae ein hagenda'n ymwneud â grymuso gweithwyr proffesiynol er mwyn iddynt weithio'n graff, mae'n golygu clywed - nid gwrando'n unig ar - lais y dinesydd, ac mae'n golygu bod yn fwy cydgysylltiedig, yn enwedig ar y lefelau cywir.

Bydd Llywodraeth Cymru'n pennu cyfeiriad cenedlaethol cadarn a chlir ar gyfer diogelu ac amddiffyn. Bydd yr holl waith hwn yn ei gwneud yn ofynnol inni adolygu'r canllawiau statudol cyfredol - Mewn Dwylo Diogel a Gweithio gyda'n gilydd - a bydd hyn yn cael ei gyflawni pan fydd y gofynion cyfreithiol yn eu lle. Fodd bynnag, nid wyf yn rhagweld y byddwn yn parhau i ddarparu'r lefel o gyfarwyddyd ac arweiniad a wnaethom yn y gorffennol.

Cynhelir ymgynghoriad ffurfiol yn gynnar yn 2012 ar ein cynigion deddfwriaethol uchelgeisiol ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru, cyn cyflwyno Bil Gwasanaethau Cymdeithasol (Cymru).

Byddaf yn adrodd ymhellach i'r Cynulliad yn gynnar yn 2012.