Neidio i'r prif gynnwys

Delyth Jewell AS, Dirprwy Weinidog dros Ofal Cymdeithasol, Iechyd Meddwl ac Iechyd Menywod

Cyhoeddwyd gyntaf:
6 Hydref 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Heddiw, rwy'n cyhoeddi'r rhaglen Diogelu Cryfach ar gyfer Cymru Fwy Diogel, sef rhaglen Llywodraeth Cymru ar gyfer tymor y Senedd hon i ddiwygio'r maes diogelu ar gyfer pob oedran ac ar draws y system gyfan.  Mae'r rhaglen hon yn dwyn ein hymrwymiadau diogelu ynghyd o dan un fframwaith gwella, gan ddarparu cyfeiriad strategol ar gyfer cryfhau'r gyfundrefn ddiogelu ledled Cymru a chefnogi'r gwaith o gyflawni ymrwymiadau ein Rhaglen Lywodraethu. 

Mae pob plentyn, person ifanc, ac oedolyn sy'n wynebu risg yn haeddu bod yn ddiogel, ac i gael eu clywed a'u hamddiffyn. Er bod llawer o enghreifftiau o arferion diogelu effeithiol ledled Cymru, rhaid inni barhau i gryfhau ein trefniadau er mwyn sicrhau bod risgiau'n cael eu nodi'n gynharach, bod gwersi'n cael eu gweithredu'n fwy cyson, a bod pobl yn cael eu hamddiffyn a'u cefnogi yn unol â'u hanghenion.

Trwy arweinyddiaeth gryfach, atebolrwydd a goruchwyliaeth genedlaethol, bydd y rhaglen yn gwella'r ffordd y mae gwybodaeth a gwersi yn cael eu dwyn ynghyd a'u defnyddio. Bydd hefyd yn helpu i sicrhau bod lleisiau plant, pobl ifanc, oedolion sy'n wynebu risg, dioddefwyr a goroeswyr yn llywio'r gwasanaethau sydd â'r nod o'u hamddiffyn.

Mae Diogelu Cryfach ar gyfer Cymru Fwy Diogel yn ymateb i gasgliadau'r Adolygiad Atgyfnerthu Trefniadau Llywodraethiant Diogelu, o dan arweiniad Jan Pickles OBE. Nododd yr Adolygiad fod angen goruchwyliaeth genedlaethol gadarnach, atebolrwydd cliriach, a threfniadau mwy cyson ar gyfer casglu, rhannu, a gweithredu ar wybodaeth a dysgu sy'n gysylltiedig â diogelu. Mae'r rhaglen Diogelu Cryfach ar gyfer Cymru Fwy Diogel yn darparu ein hymateb i'r casgliadau hynny, a bydd yn cryfhau trefniadau diogelu ar gyfer y dyfodol.

Mae’r Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal a minnau wedi derbyn holl argymhellion Cam 1 yr Adolygiad. Ochr yn ochr â'r Gweinidog Cabinet dros Addysg a'r Gymraeg, rydym wedi cytuno i fwrw ymlaen ag argymhellion Cam 2, gan gynnwys adolygiadau pellach o drefniadau diogelu mewn addysg, chwaraeon, a lleoliadau ffydd a chred. Rydym yn falch bod Jan Pickles OBE wedi cytuno i gadeirio'r cam nesaf hwn o'r gwaith. Bydd ei harweinyddiaeth barhaus yn rhoi dilyniant o'r adolygiad cychwynnol ac yn galluogi'r gwaith pwysig hwn i symud yn ei flaen yn gyflym.

Bydd y Rhaglen yn bwrw ymlaen â'i gwaith yn seiliedig ar bedair uchelgais, sef arweinyddiaeth ac atebolrwydd cryfach; trefniadau diogelu clir a chyson ledled Cymru; system sy’n dysgu ac yn gwella; a gwrando ar blant ac oedolion a gweithredu’n gynt er mwyn lleihau niwed. Bydd yr uchelgeisiau hyn yn cael eu cyflawni drwy raglen o weithgarwch fesul cam yn ystod tymor y Senedd hon, gan gryfhau arweinyddiaeth, gwella atebolrwydd, cefnogi dysgu a gwelliant parhaus, a chreu'r sylfeini i wella'r system yn y tymor hir.

Un o nodweddion craidd y rhaglen yw ei hymrwymiad i sicrhau bod lleisiau a phrofiadau plant, pobl ifanc, oedolion sy'n wynebu risg, dioddefwyr a goroeswyr yn cael eu clywed a bod camau gweithredu'n cael eu cymryd ar sail hynny. Mae eu profiadau yn rhoi dealltwriaeth hanfodol o'r ffordd y mae trefniadau diogelu yn gweithredu yn ymarferol, a byddant yn helpu i lywio gwelliannau, gwersi ac atebolrwydd yn y dyfodol.

Mae'r rhaglen hefyd yn adlewyrchu ein hymrwymiad i adeiladu system ddiogelu sy'n dysgu ac yn gwella. Trwy gryfhau'r ffordd y mae gwybodaeth, tystiolaeth a dysgu yn cael eu rhannu a'u defnyddio, byddwn yn helpu i nodi risgiau yn gynharach, gwneud penderfyniadau gwell, a sicrhau bod gwella parhaus yn digwydd ar draws y gwasanaethau diogelu.

Mae elfennau allweddol y rhaglen yn cynnwys sefydlu Bwrdd Goruchwyliaeth a Sicrwydd Gweinidogol ar gyfer Diogelu, creu swyddogaeth ddiogelu bwrpasol o fewn Hwb Gwybodaeth Gofal Cymdeithasol Cenedlaethol, a datblygu Cynllun Diogelu Cenedlaethol a Chofrestr Risg Diogelu Genedlaethol. Gyda'i gilydd, bydd y rhain yn cryfhau goruchwyliaeth genedlaethol, yn gwella'r dull o nodi risgiau sy'n dod i'r amlwg, ac yn hybu'r broses o wneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth ar draws y system ddiogelu.

Bydd y rhaglen hefyd yn gosod y sylfeini ar gyfer ymgynghori yn y dyfodol ar gynigion ar gyfer Awdurdod Diogelu Oedolion a Phlant i Gymru, ac adrodd gorfodol am achosion o gamdriniaeth ac esgeulustod.

Drwy'r rhaglen Diogelu Cryfach ar gyfer Cymru Fwy Diogel, byddwn yn adeiladu system ddiogelu fwy cydgysylltiedig ac atebol a arweinir gan wybodaeth - system sy'n ymateb i anghenion a phrofiadau'r bobl y mae'n eu gwasanaethu. Byddwn yn cryfhau ein gallu i nodi risgiau ac ymateb iddynt, yn gwella hyder y cyhoedd mewn trefniadau diogelu, ac yn darparu gwell amddiffyniad a chanlyniadau i blant, pobl ifanc, ac oedolion sy'n wynebu risg ledled Cymru.