Neidio i'r prif gynnwy

Julie James, Gweinidog Newid Hinsawdd

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Mai 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae’r newid yn yr hinsawdd yn golygu y bydd Cymru dros yr 20 mlynedd nesa’n wynebu gaeafau gwlypach, hafau twymach a sychach a thywydd eithafol dwysach yn amlach. Mae glawiad y gaeaf wedi cynyddu yn y degawdau diwethaf, ac mae Swyddfa’r Tywydd yn rhagweld rhagor o gynnydd wrth i’r ddaear dwymo. Ond rhwng Mawrth a Medi 2022, dim ond 64% o gyfartaledd ei glawiad tymor hir gafodd Cymru a chawsom ein cyfnod saith mis sychaf mewn 150 o flynyddoedd a'n haf sychaf ond saith ers 1884.

Mae cyfnodau sych a sychder yn dod yn bethau mwy cyffredin yng Nghymru. Yn wir, cawsom sychderau rhanbarthol yn hafau 2018 a 2020. Llynedd, gwnaeth y tywydd sych a thwym roi llawer iawn o bwysau ar ein hecosystemau a’n cynefinoedd, ein cyflenwadau dŵr a’r sector amaeth, gan arwain at gyhoeddi’r sychder swyddogol cyntaf yng Nghymru ers 2005-06.

Mae Asesiad Annibynnol o Risgiau'r Hinsawdd diweddaraf Pwyllgor Newid Hinsawdd y DU yn tanlinellu sut gallai llai o law yn yr haf effeithio ar ein gallu i gynnal cyflenwadau dŵr digonol. Mae’r adroddiad yn nodi’r peryglon arwyddocaol i’r seilwaith dŵr fel cronfeydd, argaeau, piblinau a gweithfeydd trin, yn sgil y cynnydd yn y perygl o lifogydd ac ymsuddiant.

Er mwyn delio â heriau argyfyngau’r hinsawdd a natur, rhaid gweithio fel ‘Tîm Cymru’, gyda’r llywodraeth, rheoleiddwyr a phob sector yn gweithio gyda’i gilydd i annog arloesedd, arloesi a chydweithio gan sicrhau canlyniadau positif er lles yr amgylchedd, ein cymunedau a’r economi. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i reoli llifogydd trwy ddulliau sy’n seiliedig ar natur yn nalgylch pob prif afon a bydd yn parhau i gydweithio’n glos â Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), cwmnïau dŵr, awdurdodau lleol a rheoleiddwyr a phartneriaid eraill i baratoi pob rhan o Gymru rhag sychder.

Os ydym am i genedlaethau’r dyfodol allu mwynhau adnoddau naturiol cyfoethog ac amrywiol Cymru, rhaid i ni feddwl yn wahanol am ddefnyddio dŵr.

Mae defnyddio dŵr yn effeithiol yn sylfaenol i bob uchelgais sydd gennym ar gyfer y sector dŵr. Trwy ddefnyddio llai o ddŵr a dim ond defnyddio’r hyn sydd ei angen arnom, bydd angen llai o ynni i gyflenwi dŵr a thrin gwastraff, gan leihau ôl troed carbon Cymru a chefnogi ymdrechion i addasu i effeithiau’r hinsawdd a’r cynnydd yn y wasgfa ar gyflenwadau dŵr. A llawer yn ei chael hi’n anodd talu eu biliau y dyddiau hyn, gallai defnyddio llai o ddŵr helpu aelwydydd i leihau eu biliau. Mae cwmnïau dŵr Cymru Dŵr Cymru a Hafren Dyfrdwy (HD) yn cynnig cynghorion ar eu gwefannau ar sut i arbed dŵr. Maen nhw’n esbonio hefyd sut y gall mesurydd dŵr eich helpu i leihau’ch biliau. Yr haf hwn, bydd ymgyrchoedd arbed dŵr ar y cyfryngau cymdeithasol i annog pobl i fod yn gall wrth ddefnyddio dŵr ac i’n helpu i ddiogelu’r adnodd gwerthfawr hwn.

Mae cwmnïau dŵr yn esbonio yn eu Cynlluniau Rheoli Dŵr (Dŵr Cymru a HD) sut y byddwn nhw’n ceisio cadw’r ddysgl yn wastad rhwng y galw a’r cyflenwad trwy leihau gollyngiadau, lleihau’r defnydd ar ddŵr a chael hyd i ffyrdd newydd o wrthsefyll heriau.

Mae’n Wythnos Arbed Dŵr ac rwy’n annog pawb i feddwl sut maen nhw’n defnyddio dŵr a sut y gallan nhw helpu i arbed dŵr. Gall newidiadau bach wneud gwahaniaeth mawr. Er enghraifft, mae treulio munud yn llai yn y gawod neu ffitio pen arbed dŵr ar eich cawod yn gallu arbed miloedd o litrau o ddŵr y flwyddyn a lleihau biliau ynni. Mae gwefan Waterwise yn esbonio sut i gymryd rhan yn yr Wythnos Arbed Dŵr a sut i ddefnyddio dŵr yn ddoethach.

Haf diwethaf, cawsom gyfnod hir sych ac roedd y tymheredd yn uwch na’r cyfartaledd., Mae rhagolygon tymor hir Swyddfa’r Tywydd yn awgrymu y byddwn yn fwy tebygol o brofi tymereddau tebyg i’r cyfartaledd dros y tir mis nesaf. Ond wrth i’r ansicrwydd ynghylch rhagolygon tymor hir gynyddu, mae Swyddfa’r Tywydd yn awgrymu bod 10% o siawns y cawn gyfnod sychach na’r cyfartaledd[1]

Ar hyn o bryd, mae llif y rhan fwyaf o afonydd Cymru fel y dylen nhw fod ac yn ôl asesiadau CNC, mae’r safleoedd dŵr daear yn ail-lenwi, gyda dalgylchoedd llawer o afonydd yn bodloni’r lefelau a ddisgwylir. Er i ni gael Chwefror arbennig o sych, cawsom y mis Mawrth gwlypaf mewn deugain mlynedd, gyda dwywaith y cyfartaledd o law yn bwrw ar Gymru[2]. Mae’r cronfeydd dŵr sy’n dibynnu ar law y misoedd oeraf i ail-lenwi, hefyd wedi cyrraedd eu lefelau arferol ar gyfer yr amser hwn o’r flwyddyn. Mae Dŵr Cymru wedi cyhoeddi bod ei holl gronfeydd 99% yn llawn[3], ac mae lefelau storfeydd HD wedi cyrraedd 78%[4] o’u capasiti ac yn dal i ail-lenwi ar ôl gwaith cynnal a chadw yn gynharach eleni.

Er ei bod yn galonogol clywed hyn, mae’n bwysig bod yn rhagweithiol i gynnal adnoddau dŵr gwydn.

Cafodd Grŵp Cyswllt ar Sychder Llywodraeth Cymru, sy’n dod â rhanddeiliaid ynghyd yng Nghymru, ei ffurfio ym mis Mawrth a bydd yn parhau i gwrdd yn rheolaidd i rannu’r wybodaeth ddiweddaraf, helpu i baratoi cynlluniau wrth gefn a chytuno ar gamau i reoli cyflenwadau dŵr yn effeithiol ac i ddiogelu’r amgylchedd os bydd amodau’n bygwth yr amgylchedd naturiol neu adnoddau dŵr.  Byddwn yn parhau i rannu gwybodaeth a lle bo angen, yn cyd-drefnu â’n partneriaid yn Lloegr trwy Grŵp Sychder Cenedlaethol y DU.

Mae gan CNC, Dŵr Cymru a HD gynlluniau sychder cyfoes sy’n cynnig fframwaith hyblyg ar gyfer delio â sychder mewn ardaloedd gwahanol yng Nghymru a bydd Llywodraeth Cymru’n eu cefnogi i roi’r cynlluniau hyn ar waith os bydd angen.

Bu’n rhaid aros am law cyson a hir i ail-lenwi’n hafonydd, cronfeydd a dŵr daear gaeaf diwethaf, felly rwy’n pwyso ar y cyhoedd a busnesau i ystyried y wasgfa ar adnoddau dŵr a pharhau i ddefnyddio dŵr yn ddoeth.

Ar hyn o bryd, mae statws Cymru o ran sychder yn normal ac mae adnoddau dŵr fel y disgwylir iddynt fod yr adeg yma o’r flwyddyn ac nid oes pryderon mawr o ran cyfnodau hir o dywydd sych nac y bydd sychder yn effeithio ar gyflenwadau dŵr, yr amgylchedd, amaeth na defnyddwyr dŵr yng Nghymru. Ond fel yr ydym wedi gweld droeon yn y gorffennol, mae anwadalwch y tywydd ac effeithiau’r hinsawdd yn gallu newid yr amodau’n gyflym iawn.  

Mae gennym oll gyfrifoldeb i ddefnyddio dŵr yn gall a chynaliadwy. Byddwn yn parhau i weithio gyda’n partneriaid a’n cymunedau i sicrhau’n well ein bod wrth ddefnyddio dŵr yn ystyried anghenion cenedlaethau heddiw ac yfory.

Rwy’n annog pawb i fod yn ystyriol wrth ddefnyddio dŵr, i fod yn ymwybodol o’r sefyllfa o ran dŵr ac i warchod un o’n hadnoddau naturiol mwyaf gwerthfawr.

[1] 3_month_outlook_only_template (metoffice.gov.uk)

[2] Wettest March in over 40 years for England and Wales - Met Office

[3] Adnoddau Dŵr | Dŵr Cymru Welsh Water (dwrcymru.com)

[4] Lefelau dŵr - 01 Mai 2023 - HD Cymru