Neidio i'r prif gynnwy

Julie James AS, y Gweinidog Newid Hinsawdd

Cyhoeddwyd gyntaf:
29 Mawrth 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rydym wedi bod yn gweithio'n galed ar ystyried holl elfennau adeiladau wrth sicrhau eu diogelwch.  Mae hyn yn golygu blaenoriaethu’r elfen holistaidd o atgyweirio adeiladau canolig ac uchel, sy'n mynd y tu hwnt i adnewyddu cladin allanol diffygiol yn unig, ochr yn ochr â diwygio cyfundrefn diogelwch adeiladau ar lefel sylfaenol yng Nghymru. 

Mae rhoi sylw i holl elfennau adeilad yn golygu rhoi diogelwch pobl yn gyntaf, ond mae'n fwy cymhleth na delio â chladin yn unig. Mae hefyd yn ddrutach.

Rwyf wedi darparu £375 miliwn ar gyfer y tair blynedd nesaf i fuddsoddi mewn gwaith atgyweirio. O ran cyfran y boblogaeth, mae hyn yn ddwywaith cymaint â’r hyn y mae Llywodraeth y DU wedi dweud y mae’n bwriadu ei wario mewn ardaloedd cyfatebol yn Lloegr yn ystod y cyfnod hwn.   

Mae'r buddsoddiad yn cynnwys Cronfa Diogelwch Adeiladau Cymru, sy’n canolbwyntio ar hyn o bryd ar helpu i egluro maint y broblem ac yn mynd i'r afael â diffygion diogelwch tân mewn adeiladau cymwys; yn ogystal â datblygu Cynllun Cymorth Lesddeiliaid; a sefydlu Tîm Arolygu ar y Cyd.

Rydym yn dal i dderbyn datganiadau o ddiddordeb o ran Cronfa Diogelwch Adeiladau Cymru ac, fel y nodais yn fy Natganiad Cabinet ar 25 Chwefror, mae'r arbenigwyr technegol a benodwyd gennyf wedi bod yn gwneud gwaith arolygu ar geisiadau cymwys.

Mae'n bleser gennyf ddweud erbyn hyn bod arolygon digidol wedi'u cwblhau ar gyfer y 248 o geisiadau cyntaf.  Mae'r gwaith hwn wedi nodi dros 100 o adeiladau hyd yma lle mae angen arolygon pellach. Rwyf hefyd yn falch o gael dweud bod y gwaith arolygu pellach hwn eisoes wedi dechrau.  Caiff adroddiad manwl ei lunio yn nodi'r gwaith diogelwch tân sydd ei angen ar yr adeiladau hyn.

Mae hon yn garreg filltir wirioneddol bwysig yn y broses o unioni’r materion diogelwch tân a nodwyd, ac mae'n dangos pa mor gyflym yr ydym yn bwrw ymlaen â'r gwaith.

Rwyf bob amser wedi bod o’r farn y dylai'r diwydiant ysgwyddo ei gyfrifoldebau. Mae nifer o ddatblygwyr eisoes wedi gwneud gwaith ar eu traul eu hunain.  Mae hyn yn gosod esiampl i'r lleill sy'n parhau i osgoi’r cyfrifoldeb. 

Rwyf hefyd wedi dweud dro ar ôl tro na ddylai lesddeiliaid orfod talu'r bil i gywiro eu hadeiladau. 

Rwyf wedi cwrdd â llawer o lesddeiliaid a phreswylwyr adeiladau y mae'r argyfwng diogelwch wedi effeithio arnynt, ac rwyf wedi clywed drosof fy hun sut y mae'r materion hyn yn effeithio ar eu bywydau.

Mae ein gwaith i ddatblygu Cynllun Cymorth Lesddeiliaid, a fydd yn targedu cymorth lle mae ei angen fwyaf, bron â'i gwblhau. Bydd y cynllun yn helpu lesddeiliaid unigol na allant werthu eu heiddo ac sy’n eu cael eu hunain mewn caledi ariannol sylweddol oherwydd costau cynyddol sy'n gysylltiedig â materion diogelwch tân.  

Bydd y cynllun yn caniatáu i lesddeiliaid o'r fath werthu eu heiddo a, lle y bo'n briodol, yn rhoi'r opsiwn iddynt naill ai symud ymlaen neu rentu’r eiddo. Rydym wedi gweithio gyda phartneriaid ac arbenigwyr yn y sector i nodi llwybr priodol ar gyfer prisio eiddo a chreu proses gynhwysfawr ar gyfer prynu eiddo, ynghyd â meini prawf cymhwysedd clir. Mae fy swyddogion yn parhau i fwrw ymlaen â'r gwaith hwn yn gyflym er mwyn gallu croesawu’r ceisiadau cyntaf ym mis Mehefin eleni.  

Mewn cam pellach i wella diogelwch adeiladau, rydym yn symud ymlaen gyda’n partneriaid â’r gwaith o sefydlu Tîm Arolygu ar y Cyd yng Nghymru. Bydd y tîm amlddisgyblaethol hwn yn gweithio mewn partneriaeth ag Awdurdodau Lleol ac Awdurdodau Tân ac Achub. 

Rydym yn blaenoriaethu’r gwaith o recriwtio Arweinydd Strategol ar gyfer y Tîm Arolygu ar y Cyd, ac rwy'n rhagweld y bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ei swydd yn yr haf. Bydd y rôl hon yn hanfodol er mwyn mireinio'r trefniadau gwaith manwl ar gyfer sefydlu'r tîm llawn yn ffurfiol yn ddiweddarach eleni. 

Rwy’n llawn sylweddoli nad yw'n ymddangos ein bod yn gweithio'n ddigon cyflym i'r rhai sy'n byw mewn adeiladau yr effeithir arnynt, ond rhaid imi bwysleisio ein bod yn manteisio ar bob cyfle i ddatblygu ein Rhaglen Diogelwch Adeiladau ehangach. Mae hyn yn cynnwys datblygu opsiynau ledled y DU lle mae hyn yn cyd-fynd â'r bwriad polisi a'r gweledigaeth yn ein Papur Gwyn. 

Rydym yn gweithio'n agos gyda Llywodraeth y DU i gymhwyso agweddau ar y Bil Diogelwch Adeiladau i Gymru, yn benodol o ran camau diwygio i wella dyluniad, adeiladwaith a gwaith adnewyddu adeiladau risg uchel. 

Mae hyn yn golygu bod gennym y gallu i roi'r diwygiadau hyn ar waith yn gynt ac elwa ar y manteision diogelwch a ddaw yn eu sgil. Unwaith y bydd y Mesur Diogelwch Adeiladau yn cael cydsyniad brenhinol, y dasg fydd cyflwyno'r rheoliadau angenrheidiol i ddarparu'r system fwy cadarn sydd mor amlwg yn angenrheidiol.

Ochr yn ochr â'r gwaith uniongyrchol i unioni adeiladau canolig ac uchel, rydym yn bwrw ymlaen â chynigion ar gyfer cyfundrefn newydd i sicrhau diogelwch adeiladau yng Nghymru. Roeddwn yn falch o nodi ym mis Rhagfyr y gefnogaeth eang a fynegwyd mewn ymateb i'n hymgynghoriad papur gwyn.  Rydym bellach yn canolbwyntio ar ddatblygu'r manylion polisi. 

Byddwn yn parhau i fwrw ymlaen i gryfhau llais preswylwyr a rhoi lle canolog i’w llais wrth ddatblygu polisi tymor hirach yn y maes hwn. 

Byddaf hefyd yn parhau i gwrdd â thrigolion a lesddeiliaid y mae'r argyfwng diogelwch adeiladau yn effeithio arnynt.

Rwyf am sicrhau bod ein diwygiadau o ran diogelwch adeiladau yn ymarferol ac yn hwylus i’w gweithredu. Mae'n bwysig bod pobl yn gallu gweld a deall manteision y camau diwygio y byddwn yn eu cymryd yng Nghymru.

Croesawaf yr ymrwymiad parhaus i'r agenda hon gan Blaid Cymru ac edrychaf ymlaen at weithio mewn partneriaeth â nhw ar ein nod cyffredin, sef sicrhau bod ein hadeiladau'n ddiogel o'r cychwyn cyntaf.