Jane Bryant AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai
Heddiw, mae Bil Diogelwch Adeiladau (Cymru) a'i Femorandwm Esboniadol wedi eu gosod gerbron y Senedd.
Roedd y gwersi a ddeilliodd o drychineb Tŵr Grenfell yn cynnwys pwysigrwydd hanfodol sicrhau bod diogelwch yn hollbwysig ym mhob agwedd ar gylch bywyd adeilad. Fel un o ymrwymiadau ein Rhaglen Lywodraethu, nod y Bil yw gwella diogelwch adeiladau yng Nghymru, drwy gyflwyno cyfundrefn diogelwch adeiladau newydd sy'n cwmpasu meddiannu adeiladau preswyl amlfeddiannaeth yng Nghymru a'u rheoli'n barhaus.
Mae'r Bil yn adeiladu ar Bapur Gwyn Adeiladau Mwy Diogel yng Nghymru 2021. Mae wedi cael ei lywio gan ymgysylltu helaeth â rhanddeiliaid ac mae'n elfen allweddol o ymateb y Llywodraeth i Ymchwiliad Tŵr Grenfell, Adolygiad Hackitt, a gwaith Grŵp Arbenigol Diogelwch Adeiladau Llywodraeth Cymru.
Tair prif egwyddor y Bil yw diogelwch, atebolrwydd a llais preswylwyr. Bydd y Bil yn ei gwneud yn ofynnol i asesu risgiau tân a strwythurol a'u rheoli tra bod adeiladau'n cael eu meddiannu, er budd trigolion ac eraill, gyda chyfundrefn orfodi gadarn i gefnogi hynny. Bydd yn sefydlu llinellau cyfrifoldeb clir mewn adeiladau preswyl amlfeddiannaeth, trwy greu rolau a chyfrifoldebau newydd i'r rhai sy'n berchen ar yr adeiladu hyn ac yn eu rheoli. Bydd y Bil hefyd yn grymuso preswylwyr ac yn rhoi llais cryfach iddynt mewn materion sy'n effeithio ar eu cartref.
I grynhoi, bydd y Bil yn sefydlu cyfundrefn a fydd yn:
- nodi'r rhai y mae dyletswyddau statudol i'w gosod arnynt o dan y Bil.
- ei gwneud yn ofynnol i gofrestru adeiladau rheoledig penodol, hynny yw y rhai sydd o leiaf 11 metr o uchder neu sydd ag o leiaf 5 llawr, gydag awdurdod diogelwch adeiladau.
- rhoi swyddogaethau newydd i'r awdurdod diogelwch adeiladau, sef pob un o'r awdurdodau lleol yng Nghymru.
- rhoi swyddogaethau newydd i'r awdurdod diogelwch tân yng Nghymru, sef pob awdurdod tân ac achub ar gyfer ardal yng Nghymru neu arolygydd tân (o ran rheoleiddio adeiladau'r Goron).
- creu dyletswyddau i asesu a rheoli risgiau diogelwch tân ym mhob adeilad o fewn y cwmpas.
- creu dyletswyddau i asesu a rheoli risgiau diogelwch strwythurol mewn adeiladau o fewn y cwmpas sydd o leiaf 11 metr o uchder neu sydd ag o leiaf 5 llawr.
- rhoi hawliau newydd ar waith i breswylwyr a gosod dyletswyddau arnynt mewn perthynas â'r holl adeiladau o fewn y cwmpas.
- rhoi cyfundrefn orfodi newydd ar waith er mwyn gallu cymryd camau os nad yw'r dyletswyddau newydd yn cael eu bodloni.
Rwy'n edrych ymlaen at waith craffu'r Aelodau ar y Bil, ac at barhau i glywed barn rhanddeiliaid, partneriaid cyflawni, a'r cyhoedd yn ystod y broses ddeddfwriaethol.
Heddiw, rwy'n falch hefyd o gyhoeddi ymateb Llywodraeth Cymru i argymhellion Cam 2 Ymchwiliad Tŵr Grenfell.
Cyhoeddwyd yr adroddiad ar Gam 2 ym mis Medi 2024. Roedd yr adroddiad cynhwysfawr hwn yn darparu archwiliad manwl o achosion ac amgylchiadau’r drychineb. Ers hynny, rydym wedi gweithio'n agos gyda llywodraethau eraill y DU er mwyn bod yn gyson.
Mae'r rhain yn gerrig milltir pwysig ar ein taith at sicrhau'r safonau uchaf o ddiogelwch adeiladau i breswylwyr yng Nghymru.
