Neidio i'r prif gynnwy

Julie James AS, Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Chwefror 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Yr wythnos ddiwethaf, cyhoeddodd Robert Jenrick, yr Ysgrifennydd Gwladol dros Dai, Cymunedau a Llywodraeth Leol yn Llywodraeth y DU, bod cyllid ar gael i roi sylw i gladin anniogel yn Lloegr. Ysgrifennais at Robert Jenrick i fynegi fy siom nad ymgysylltwyd â Llywodraeth Cymru cyn gwneud y cyhoeddiad hwn. Roedd hyn yn arbennig o siomedig o ystyried pa mor agos yr ydym yn gweithio gyda’r Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol ar nifer o feysydd yn ei Bil Diogelwch Adeiladau drafft.

Rwyf wedi gofyn am gael manylion am bob agwedd ar y cyhoeddiad hwn ar fyrder, ond does dim wedi dod i law eto. Bydd angen buddsoddiad sylweddol i ddatrys yr argyfwng o ran cladin, ac rwy’n disgwyl i Gymru gael ei chyfran deg o gyllid o ganlyniad i’r ymrwymiadau gwariant newydd yn Lloegr. Mae swm unrhyw ddyraniad cyllideb canlyniadol yn seiliedig ar faint o arian newydd sy'n cael ei ryddhau i un o adrannau Llywodraeth y DU. Dyna pam y mae arnom angen eglurder gan ein cydweithwyr yn San Steffan. Rydym wedi dweud yn glir bod diogelwch adeiladau yn flaenoriaeth i'r llywodraeth hon ac unwaith y cawn eglurder ynghylch faint o arian ychwanegol y bydd Cymru'n ei gael, bydd y Gweinidogion yn penderfynu gyda'i gilydd sut i ddefnyddio’r arian hwnnw.

Yng Nghymru, rydym yn buddsoddi £42.5m i ddechrau i adfer adeiladau uchel iawn. Rwyf eisoes wedi cyhoeddi bod £10.5m ar gael i’r sector cymdeithasol yn ystod y flwyddyn ariannol hon er mwyn ariannu gwaith adfer, a bydd y cyllid hwn yn caniatáu i 12 o adeiladau gael cymorth. Mae’r gyllideb ddrafft hefyd wedi neilltuo £32m ar gyfer gwneud gwaith adfer pellach ar adeiladau y flwyddyn nesaf.

Fel yr wyf eisoes wedi ei nodi, ein bwriad yw sefydlu cynnig cyllid ar gyfer Cymru sy’n mynd ymhellach na’r hyn a gynigir yn Lloegr. Fel y gŵyr preswylwyr adeiladau uchel iawn, nid ydym yn mynd yn ddigon pell os ydym yn cyfyngu sylw i’r cladin yn unig. Bydd ein cronfa yn sicrhau bod diffygion sy’n gysylltiedig â’r angen i rannu’n adrannau a sicrhau bod tannau’n cael eu rhwystro rhag lledaenu, yn cael sylw hefyd. Mae’n bwysig y bydd yn ariannu systemau sy’n helpu i ddiffodd tanau (systemau chwistrellu) a larymau ar gyfer gwagio’r adeilad, pan fo hynny’n briodol. Bydd y timau arolygu ar y cyd, yr ydym yn gweithio gyda’n partneriaid i’w sefydlu yr hydref hwn, yn allweddol ar gyfer nodi pa adeiladau y mae angen gwneud gwaith arnynt a natur y gwaith hwnnw. Byddwn yn darparu rhagor o fanylion am y cynnig cyllid a sut i gael mynediad ato cyn gynted ag y gallwn.

Mae hwn yn faes cymhleth. Er ein bod, yn briodol iawn, yn symud ymlaen ar lawer o faterion ar sail ddatganoledig, rydym yn cydnabod bod gwir werth mewn gweithio ar sail drawslywodraethol ar rai o'r cynigion hyn sydd i'w croesawu. Gobeithio y bydd Llywodraeth y DU yn croesawu'n fawr ein cynnig i gydweithio â hwy. Mae yna hefyd rai materion lle mai dim ond Llywodraeth y DU all eu datblygu.

Felly, edrychaf ymlaen at gael rhagor o fanylion am y Dreth Adeiladwyr Tai arfaethedig ac mae'n bwysig i ni fedru gweithio gyda Llywodraeth y DU i sicrhau bod y dreth hon yn diwallu anghenion lesddeiliaid yng Nghymru. 

Er bod Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi mesurau treth newydd ar gyfer datblygu eiddo heb unrhyw drafodaeth â ni ymlaen llaw, mae'n werth nodi na allwn ni symud ymlaen o gwbl gyda’n trafodaethau gyda Llywodraeth y DU ar ddatganoli pwerau trethu pellach i Gymru er mwyn i ni allu cyflwyno Treth ar Dir Gwag i gefnogi'r agenda datblygu eiddo yng Nghymru. Mae hyn yn dangos pwysigrwydd diwygio’r trefniadau hyn yn ddi-oed.

Byddwn yn edrych yn fanwl ar yr ardoll Gateway 2 gyda swyddogion cyfatebol yn Whitehall. Er ei bod yn bosibl symud ymlaen gydag ardoll ar sail ddatganoledig, mae’n amlwg y byddai’n llawer mwy manteisiol symud ymlaen ar sail Cymru a Lloegr.

Rydym eisoes yn gweithio’n agos gyda’r Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol ar agweddau o’r Bil Diogelwch Adeiladau drafft a fydd yn berthnasol i Gymru, cyn i ddeddfwriaeth gael ei chyflwyno yn y Senedd yn nhymor y Llywodraeth nesaf. Mae fy Mhapur Gwyn ar Ddiogelwch Adeiladau yn egluro ein cynigion ar gyfer cyflwyno newidiadau cynhwysfawr ym maes diogelwch adeiladau ar gyfer pob adeilad preswyl sydd â meddianwyr lluosog yng Nghymru. Rwy’n gobeithio ein bod yn parhau i symud ymlaen mewn modd cadarnhaol wrth gyflawni’r gwaith hwn, gan ymgorffori rhai o’r cynlluniau a gyhoeddwyd ar gyfer Cymru ddoe, lle bo angen.

Gwnaed cynnydd buddiol o ran proses y ffurflen EWS1, ac rwy’n gobeithio y gallwn symud i’r cyfeiriad iawn er mwyn helpu lesddeiliaid i allu ail-forgeisio a gwerthu eu heiddo. Rydym yn parhau i weithio gyda’r Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol a Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig ar y mater hwn.

Nid y lesddeiliaid sydd wedi creu’r problemau a nodwyd, ac mae’n iawn bod y rheini a greoedd y problemau hyn yn talu am eu camgymeriadau.

Rwy’n glir bod y gwaith o adfer adeiladau uchel iawn, sy’n anniogel, yn flaenoriaeth i mi ac i’r Llywodraeth hon. Mae’n waith sy’n gwbl hanfodol os ydym am sicrhau bod pobl yn ddiogel yn eu cartrefi.