Neidio i'r prif gynnwy

Julie James, y Gweinidog Newid Hinsawdd

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Hydref 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rwyf wedi egluro o'r dechrau nad wyf yn disgwyl i lesddalwyr ysgwyddo'r gost o atgyweirio problemau diogelwch tân nad ydynt wedi eu hachosi a'm bod yn disgwyl i ddatblygwyr ysgwyddo eu cyfrifoldebau.

Rwy'n falch iawn, yn dilyn ein cyfarfod ford gron ym mis Gorffennaf, fod nifer o ddatblygwyr mawr wedi cydnabod eu cyfrifoldeb drwy ymuno â Chytundeb Datblygwyr Llywodraeth Cymru.  Mae hyn yn cadarnhau eu bwriad i fynd i'r afael â diogelwch tân mewn adeiladau o 11 metr a throsodd o uchder y maent wedi eu datblygu dros y 30 mlynedd diwethaf.  Y datblygwyr hyn yw Persimmon, Taylor Wimpey, Lovell, McCarthy and Stone, Countryside, Vistry, Redrow, Crest Nicholson a Barratt.

Cefais gyfarfod â'r datblygwyr hyn ddoe i gadarnhau'r camau nesaf, a'u cynlluniau a'u hamserlenni ar gyfer adfer.  Hoffwn ganmol hwy am eu hymgysylltiad hyd yma ac edrychaf ymlaen at berthynas gynhyrchiol yn y dyfodol.  Mewn rhai achosion, mae datblygwyr wedi dechrau eu gwaith adfer, ac maent yn gwneud y gwaith atgyweirio angenrheidiol.  Edrychaf ymlaen at weld y gwaith hwn yn parhau yn ddi-oed.

Rwy’n parhau'n siomedig fod tri datblygwr eto i roi sicrwydd nad oes ganddynt unrhyw ddatblygiadau canolig nac uchel yng Nghymru ac, os oes ganddynt, eu bod yn barod i gyflawni eu cyfrifoldebau mewn perthynas â'r datblygiadau hyn.

Y pum datblygwr sydd eto i ateb yw: Laing O'Rourke, Westmark a Kier (Tilia bellach).

Rwy’n annog y datblygwyr hyn i gysylltu â’m swyddogion ar unwaith i gadarnhau eu sefyllfa.  Rwyf am wneud yn glir fy mod yn edrych ar bob opsiwn, gan gynnwys deddfwriaeth, i sicrhau y bydd y datblygwyr hynny'n wynebu canlyniadau am eu hamharodrwydd i dderbyn eu cyfrifoldebau. 

Rwy'n falch o'r ymrwymiad rydyn ni wedi'i wneud yng Nghymru bod angen dull cyfannol i fynd i'r afael yn effeithiol â diogelwch tân.  Mae hyn yn golygu bod ffactorau mewnol ac allanol yn cael eu hystyried, yn hytrach na chanolbwyntio ar gladin yn unig.

Rwyf wedi sicrhau bod £375 miliwn ar gael i fynd i'r afael â diogelwch adeiladau ac wedi cymryd camau i sicrhau ein bod yn edrych ar pob dull priodol i sicrhau fod pob adeilad canolig ac uchel yng Nghymru mor ddiogel rhag tân ag y gallant fod.

Er mwyn cyflawni'r ymrwymiad hwn, mae'n hanfodol ein bod yn deall anghenion adeiladau unigol a chreu atebion pwrpasol i fynd i'r afael â'u risg tân yn y dull gorau.  Mae arolwg cynhwysfawr yn rhoi'r wybodaeth hon, ac mae Cronfa Diogelwch Adeiladau Cymru, sy'n dal ar agor ar gyfer mynegi diddordeb gan bersonau cyfrifol, yn cefnogi'r nod hwn.

Llywodraeth Cymru sy'n talu am y gwaith arolygu digidol ac ymwthiol. Trwy ariannu a chomisiynu'r arolygon, bydd Llywodraeth Cymru yn cael darlun clir, cyson a chynhwysfawr o faterion diogelwch adeiladau ledled Cymru. 

Lle gwelir bod adeiladau'n risg isel, bydd ein hymgynghorwyr yn darparu tystysgrif EWS1. Bydd hyn yn helpu i dawelu meddyliau lesddalwyr ac yn cael gwared o’r rhwystrau sy’n caniatáu iddynt gael mynediad at gynhyrchion ariannol, fel morgeisi.

Hyd yma, mae'r arolygon digidol wedi nodi 163 o adeiladau ledled Cymru sy'n galw am arolygon ymwthiol.  Cysylltwyd â phob person cyfrifol i'w cynghori am yr angen am arolygon ymwthiol, ac i drefnu caniatâd i gael mynediad i'r adeiladau i ymgymryd â'r gwaith hwn.

Mewn rhai achosion, mae ein hymgynghorwyr wedi wynebu cyfyngu ar eu mynediad i adeiladau, sydd wedi creu oedi yn ein rhaglen o arolygon.  Byddwn yn annog personau cyfrifol i wneud popeth o fewn eu gallu i hwyluso mynediad, fel y gall ein syrfewyr barhau â'r gwaith pwysig hwn.  Rwyf hefyd wedi ysgrifennu at bersonau cyfrifol / asiantwyr rheoli i bwysleisio’r neges hon.

Cefais wybod, mewn nifer o achosion, fod gwaith arolygu wedi'i wneud cyn lansio Cronfa Diogelwch Adeiladau Cymru, wedi'i ariannu gan drigolion, perchnogion adeiladau neu asiantau rheoli.  Yn yr achosion hyn, ac yn amodol ar fodloni meini prawf penodol, bydd costau'r arolygon yn cael eu had-dalu gan Lywodraeth Cymru.  Os fydd personau cyfrifol / asiantau rheoli yn y sefyllfa yma, cysylltwch â’m swyddogion yn buildingsafety@llyw.cymru .

Er ei fod yn iawn fod datblygwyr yn atebol, mae gan berchnogion adeiladau ac Asiantau Rheoli atebolrwydd hefyd o ran sicrhau diogelwch adeiladau ac mae'n bwysig bod rhaglenni cynnal a chadw effeithiol ar waith.   Byddwn yn annog pob un o'r trigolion i sicrhau bod gwaith cynnal a chadw ar eu hadeiladau yn cael ei gynnal yn unol â'u cytundebau prydles. 

Rwyf hefyd yn ymwybodol bod lesddeiliaid, mewn rhai achosion, mewn trafferthion ariannol difrifol o ganlyniad i broblemau diogelwch tân, ac i fynd i'r afael â hyn, lansiwyd y Cynllun Cymorth Lesddalwyr gennyf ym mis Mehefin.

Fel y bu imi ymrwymo iddo pan lansiwyd y cynllun, rwyf wedi cyfarwyddo swyddogion i adolygu'r meini prawf er mwyn sicrhau bod y rhai sydd â'r angen mwyaf yn derbyn cymorth.  Mae'r adolygiad ar y gweill a byddaf yn cyhoeddi unrhyw newidiadau pellach i'r cynllun a meini prawf cymhwysedd yn fuan.

Rhaid i Ddiogelwch Adeiladau yng Nghymru fynd i'r afael â'n sefyllfa bresennol yn ogystal â diwygio y drefn diogelwch adeiladau yn sylfaenol er mwyn sicrhau na all y problemau sy'n ein hwynebu nawr godi eto yn y dyfodol.  Ochr yn ochr â buddsoddi dros y tair blynedd nesaf ar gyfer gwaith diogelwch adeiladau, mae cynlluniau ar y gweill ar gyfer rhaglen sylweddol o ddiwygio deddfwriaethol a diwylliannol i sefydlu trefn addas i'r diben o ran diogelwch adeiladau yng Nghymru. Mae diwygio'r system bresennol o ddiogelwch adeiladau yn ymrwymiad allweddol i'r Llywodraeth hon ac mae hefyd yn rhan bwysig o’n Cytundeb Cydweithio gyda Plaid Cymru.

Yn ogystal â hyn fe gynhwysir nifer o ddarpariaethau sy’n berthnasol i Gymru o fewn Deddf Diogelwch Adeiladau'r DU 2022.

Derbyniodd y Ddeddf Gydsyniad Brenhinol ym mis Ebrill 2022. Mae'r darpariaethau sy'n berthnasol i Gymru'n canolbwyntio'n bennaf ar ddiwygio'r system rheoli adeiladu (Rhan 3 o'r Ddeddf) ond maent yn ymestyn i ardaloedd eraill, gan gynnwys sawl darpariaeth i sicrhau rhagor o amddiffyniad i lesddalwyr.

O'r diwygiadau hyn daeth y darpariaethau canlynol bellach i rym

• Mae diwygio'r Rheoliadau Adeiladu (Arolygwyr Cymeradwy etc.) 2010 yn gwneud y sector arolygwyr cymeradwy yn fwy gwydn a hyblyg yn wyneb amrywiadau yn y farchnad yswiriant, ac i greu aliniad ar ofynion yswiriant rhwng arolygwyr cymeradwy a phroffesiynau eraill.

• Ymestyn cyfnodau amser Deddf Mangre Ddiffygiol 1972 a darpariaeth i ddelio ag achosion o fethu gwneud iawn lle nad yw cwmni datblygu bellach yn bodoli. 

Rydym wedi cwblhau ein cynllun pontio cyfnod dylunio ac adeiladu sy'n ein galluogi dros y tair blynedd nesaf i wneud newidiadau deddfwriaethol sydd eu hangen i sicrhau bod y problemau a nodwyd gyda'r cyfundrefnau rheoli adeiladu presennol yn cael eu cywiro. 

Cyhoeddwyd y cyntaf o'r ymgynghoriadau cyhoeddus ar y gwaith hwn ym mis Medi. Mae'r ymgynghoriad hwn yn canolbwyntio ar y rheolau a'r safonau y byddwn yn eu disgwyl i Gyrff Rheoli Adeiladu yn y sector cyhoeddus a phreifat gydymffurfio â hwy.

Mae hwn i'w weld ar dudalennau Ymgynghori Llywodraeth Cymru.

https://llyw.cymru/rheolau-safonau-gweithredol

Mae dealltwriaeth lawn o effeithiau unrhyw newidiadau arfaethedig yn rhan annatod o'r drefn newydd hon, yn ogystal â chynnig cyfle i'r holl randdeiliaid lywio polisi'r dyfodol.  I'r perwyl hwn disgwyliwch weld ymgynghoriadau cysylltiedig pellach dros y misoedd nesaf. 

Byddwn yn cyhoeddi mwy o fanylion am ein cynllun pontio ar ein tudalennau gwe yn fuan.