Neidio i'r prif gynnwy

John Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy

Cyhoeddwyd gyntaf:
4 Gorffennaf 2012
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016


Yn dilyn yr holl law sydd wedi disgyn yn ddiweddar, yr achosion o lifogydd a’r ffaith y bu’n rhaid symud holl drigolion Pennal yn sgil pryderon ynghylch cronfa ddŵr leol, rwy’n cyflwyno’r datganiad hwn mewn ymateb i faterion a godwyd gan Aelodau’r Cynulliad.


Caiff diogelwch cyforgronfeydd dŵr mawr yng Nghymru a Lloegr ei lywodraethu gan ddarpariaethau yn Neddf Cronfeydd Dŵr 1975 (Deddf 1975) sy’n ceisio lleihau’r risgiau i ddiogelwch y cyhoedd a allai ddeillio o fethiant cronfa ddŵr neu argae. Gallai methiant o’r fath arwain at lifogydd difrifol.


Mae Deddf 1975 yn ceisio sicrhau diogelwch y cyhoedd drwy osod rhwymedigaeth statudol ar ymgymerwyr cronfeydd dŵr uwchlaw cyfaint arbennig i dderbyn cyngor proffesiynol annibynnol a gweithredu arno ynghylch gallu’r gronfa ddŵr i reoli’r holl rymoedd a’r amodau a allai effeithio arni ac ymateb iddynt. Diben y rhwymedigaeth hon yw lleihau’r risgiau, hyd lefel dderbyniol, y gallai dŵr gael ei ryddhau mewn modd nad yw’n bosibl ei reoli, a allai beryglu bywydau pobl.  


Dim ond i gyforgronfeydd mawr y mae Deddf 1975 yn berthnasol ar hyn o bryd – hynny yw, cronfeydd dŵr sydd wedi’u cynllunio i ddal dros 25,000 metr ciwbig o ddŵr uwchlaw lefel naturiol y ddaear gerllaw. Pennwyd y trothwy hwn yn sgil methiannau cronfeydd dŵr o’r maint hwn yn yr 1920au a achosodd farwolaethau ac a ysgogodd Ddeddf 1930. Ar hyn o bryd, mae 1,925 o gyforgronfeydd mawr yn Lloegr a 201 yng Nghymru.  


Nid yw cyforgronfeydd sydd â chapasiti o lai na 25,000 metr ciwbig, a elwir weithiau’n gyforgronfeydd bach, yn ddarostyngedig i unrhyw ofynion diogelwch statudol o dan Ddeddf 1975 ar hyn o bryd, waeth beth fo canlyniadau posibl methiant unrhyw argae.  


Ers i ddeddfwriaeth ynghylch cronfeydd dŵr gael ei chyflwyno gyntaf, nid oes unrhyw un wedi marw oherwydd methiannau cronfeydd dŵr. Eto i gyd, dros y blynyddoedd diwethaf, mae achosion wedi codi lle gallai marwolaethau fod wedi digwydd petai’r cronfeydd dŵr wedi methu. Cyflwynodd adroddiad Syr Michael Pitts ar lifogydd 2007 yn Lloegr 92 o argymhellion, gan gynnwys diweddaru’r ddeddfwriaeth ynghylch diogelwch cronfeydd dŵr.  


Mae llawer iawn o waith wedi’i wneud i wella diogelwch ein cronfeydd dŵr ers adolygiad Pitt. Mae mapiau llifogydd bellach wedi’u cwblhau sy’n dangos effaith waethaf bosibl methiant argae ar y dalgylch. Lluniwyd map o’r fath ar gyfer pob cronfa ddŵr yng Nghymru a Lloegr sydd wedi’i chofrestru o dan Ddeddf 1975, at ddibenion cynllunio brys. Nid yw’r mapiau yn dangos, fodd bynnag, pa mor debygol yw llifogydd o ddigwydd yn sgil y cronfeydd dŵr.


Anfonwyd y mapiau at awdurdodau lleol ganol mis Rhagfyr 2009 ac fe’u gwnaed ar gael i ymatebwyr Categori 1 yn unol â Deddf Argyfyngau Sifil 2004.  


Yn sgil hyn, mae Atodlen 4 i Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 (Deddf 2010) yn cynnwys nifer o ddarpariaethau ar gyfer gwneud cronfeydd dŵr yn fwy diogel drwy ddiwygio Deddf 1975. Un o’r prif ddarpariaethau oedd gostwng y trothwy ar gyfer cyforgronfeydd mawr o 25,000 metr ciwbig i 10,000 metr ciwbig a chyflwyno dynodiad risg uchel ar gyfer y cyforgronfeydd mawr hynny y credir y gallent beryglu bywydau.


I ategu’r newidiadau hyn, roedd Deddf 2010 hefyd yn cynnwys nifer o ddarpariaethau sy’n caniatáu i Lywodraeth y DU a Gweinidogion Cymru gyflwyno sawl darn o is-ddeddfwriaeth. Mae’r rhain yn cynnwys pwerau i:  


• Bennu sut i gyfrifo capasiti cronfa ddŵr

• Pennu gwahanol gyfaint dŵr ar gyfer y trothwy

• Diffinio strwythur neu ardal i’w thrin fel strwythur neu ardal ‘fawr’ neu ddiffinio strwythurau neu ardaloedd na ddylid eu diffinio fel cyforgronfeydd mawr. Bydd hyn yn cynnwys ystyried a ydynt yn cydgyffwrdd â strwythurau  neu ardaloedd eraill (cronfeydd dŵr sy’n rhaeadrau)

• Pennu’r broses gofrestru

• Pennu’r cyfnod ar gyfer cyflwyno sylwadau yn gwrthwynebu dynodiad dros dro a rhoi’r hawl i apelio yn erbyn dynodiad

• Pennu amserlen ar gyfer archwilio cyforgronfeydd mawr

• Diffinio pa gronfeydd y dylid eu trin fel rhai a adewir a pha rai ddylai gael eu trin fel rhai sy’n dechrau cael eu hailddefnyddio

• Rhoi’r hawl i apelio yn erbyn gofyniad i benodi peiriannydd a gofyniad i roi argymhelliad peiriannydd ar waith

• Pennu’r modd y dylid asesu ansawdd adroddiadau gan beirianyddion
• Ei gwneud yn ofynnol i bobl lunio adroddiadau diogelwch ar ôl unrhyw ddigwyddiadau

• Pennu cynllun ar gyfer codi tâl


Y prif reswm dros ddiwygio Deddf 1975 yw sicrhau bod mesurau diogelwch priodol yn eu lle i ddiogelu’r cyhoedd. Disgrifir y risgiau o ran cronfeydd dŵr sy’n gorlifo eu hargaeau yn risg tebygrwydd isel/risg canlyniad uchel.  


Gweithredu Diwygiadau i Ddeddf Cronfeydd Dŵr 1975


Ym mis Chwefror 2012, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru a Defra ymgynghoriad ar y cyd ynghylch gweithredu’r diwygiadau i Ddeddf 1975. Daeth yr ymgynghoriad i ben ar 17 Mai 2012 ac mae’r ymatebion wrthi’n cael eu hystyried.  


Caiff crynodeb o’r ymatebion eu cyhoeddi’n fuan ar wefan Llywodraeth Cymru. Rwy’n bwriadu cyflwyno’r trothwy newydd ynghyd â’r ddeddfwriaeth ategol yn ystod 2013/14.


Unwaith y caiff y diwygiadau i Ddeddf 1975 eu cyflwyno, bydd Asiantaeth yr Amgylchedd yn ystyried pob cronfa ddŵr sydd wedi’i chofrestru o dan y Ddeddf ac yn barnu a ddylid ei hystyried yn gronfa ddŵr risg uchel. Caiff y cronfeydd dŵr y bernir eu bod yn rhai risg uchel eu dynodi felly a bydd yn rhaid iddynt gydymffurfio â’r drefn ddiogelwch statudol.

Pennal, Mehefin 2012

Yn dilyn y glaw eithriadol o drwm a ddisgynnodd ar 8 a 9 Mehefin 2012, a symud trigolion pentref Pennal ar 10 Mehefin 2012, defnyddiodd Asiantaeth yr Amgylchedd ei phwerau o dan Ddeddf 1975 i benodi Peiriannydd Panel Pob Cronfa Ddŵr i gynnal ymchwiliad peirianyddol i’r digwyddiad.  

Cynhaliwyd cyfarfod ar y safle ar 18 Mehefin a bydd adroddiad ar y digwyddiad a fydd yn cynnwys unrhyw wersi i’w dysgu yn sgil digwyddiad Pennal ar gael cyn gynted â phosibl.