Neidio i'r prif gynnwy

Jane Hutt, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Ionawr 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae diogelu menywod a merched rhag camdriniaeth, mewn mannau cyhoeddus a phreifat, yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru o hyd. Gyda thrais yn erbyn menywod yn y newyddion unwaith eto, roeddwn am nodi sut mae Llywodraeth Cymru yn parhau i roi blaenoriaeth i’r mater hwn a mynd i’r afael ag ef.

Dylai menywod a merched fod yn saff ym mhob agwedd ar eu bywydau. Dylent fod yn saff i gerdded drwy ardaloedd cyhoeddus. Dylent fod yn saff gartref. Dylent fod yn saff i fynd i’r gwaith a’r ysgol. Dylent fod yn saff yn ystod y dydd ac yn ystod y nos.

Nid oes yr un lefel o gam-drin yn dderbyniol, ond, yn wir, gwyddom fod trais yn erbyn menywod a merched yn frawychus o gyffredin. Mae achosion o aflonyddu, cam-drin a thrais yn digwydd yn ddyddiol i fenywod ac maent wedi effeithio ar eu bywydau am lawer rhy hir. Mae casineb at fenywod a merched ac anghydraddoldebau strwythurol hirsefydlog a brofir ganddynt wrth wraidd llawer o hyn. Rydym wedi ymrwymo i herio’r agweddau a’r ymddygiadau niweidiol hyn, a mynd i’r afael â nhw’n uniongyrchol.

Mae hon yn broblem gymdeithasol y mae angen ymateb iddi mewn modd cymdeithasol. Ni ddylai fod angen i fenywod newid eu hymddygiad. Camdrinwyr ddylai fod yn newid eu hymddygiad nhw.

Er ei bod yn iawn inni, fel rhan o’n hymateb, edrych ar opsiynau sydd ar gael i wella diogelwch menywod mewn mannau cyhoeddus, yn aml gall y mentrau neu’r cynlluniau hyn roi’r baich ar fenywod i ddiogelu eu hunain neu newid eu hymddygiad. Felly, mae’n hanfodol ein bod hefyd yn mynd i’r afael â’r hyn sydd wrth wraidd trais gan ddynion yn erbyn menywod, gan ganolbwyntio ar newid agweddau a diwylliannau negyddol sy’n caniatáu i drais a cham-drin barhau. Mae angen i atal ac ymyrraeth gynnar gael y sylw blaenaf, yn hytrach na chanolbwyntio ein sylw ar fesurau adferol yn unig.

Er ein bod i gyd wedi cael ein dychryn yn y blynyddoedd diwethaf gan achosion proffil uchel o fenywod yn cael eu llofruddio gan ddieithriaid, mae llawer mwy o fenywod yn cael eu lladd bob blwyddyn gan ddynion treisgar y maent yn eu hadnabod. Ar ben hynny, mae miloedd yn fwy yn dioddef trais a rheolaeth drwy orfodaeth sy’n parhau i ddinistrio eu bywydau a’r cyfleoedd sydd ar gael iddynt. I newid hyn, rhaid inni wynebu’r rhai sy’n cyflawni’r cam-drin, rhaid inni gefnogi goroeswyr, a rhaid inni newid y diwylliant o gasineb at fenywod ac aflonyddu sy’n bwydo’r cam-drin.

Dyna pam mae Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i atgyfnerthu’r Strategaeth Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol i gynnwys ffocws ar drais yn erbyn menywod ar y stryd ac yn y gweithle yn ogystal â’r cartref, er mwyn sicrhau mai Cymru yw’r man mwyaf diogel yn Ewrop i fod yn fenyw.

Y llynedd, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei Strategaeth Genedlaethol pum mlynedd ar Drais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol, a fydd yn cael ei chyflawni drwy ‘ddull glasbrint’ ar y cyd, ochr yn ochr â grŵp o sefydliadau partner allweddol, gan gynnwys yr heddlu a’r sector arbenigol. Yn unol â’n hymrwymiad, un o’r llifoedd gwaith glasbrint hyn yw Aflonyddu ar y Stryd a Diogelwch mewn Mannau Cyhoeddus, a fydd yn cynnig ffocws ac arbenigedd ar gyfer dull arloesol o ymdrin â’r materion hyn.

Hefyd, creodd ein Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015, sy’n ddeddf arloesol, ddyletswyddau ar awdurdodau lleol a byrddau iechyd yng Nghymru i gyhoeddi a gweithredu strategaethau ar gyfer mynd i’r afael â’r materion hyn mewn cymunedau lleol. Mae hyn yn sicrhau bod blaenoriaeth yn cael ei rhoi i fynd i’r afael â thrais yn erbyn menywod a merched ledled Cymru.

Gyda’r holl faterion hyn mewn golwg, mae llawer o ddynion yn gofyn sut y gallant fod yn gefn gwell i fenywod. Gall dynion a bechgyn helpu drwy beidio ag aflonyddu na chyflawni trais o unrhyw fath yn erbyn menywod, peidio â’i esgusodi na chadw’n dawel yn ei gylch. Pan fo’n ddiogel i wneud hynny, dylent herio ymddygiad amhriodol.

Nod ein hymgyrch ‘Dim esgus’ yw helpu pobl i adnabod ymddygiadau sy’n gysylltiedig ag aflonyddu ar y stryd. Mae hefyd yn cydnabod bod profiadau menywod a merched yn ddifrifol ac yn gyffredin, ac yn gallu achosi ofn, braw a gofid. Mae’r ymgyrch yn galw ar y cyhoedd (dynion yn arbennig) i godi llais a herio rhagdybiaethau ynghylch aflonyddu ar fenywod – a ystyrir ar gam ei fod yn ‘ddiniwed’ yn aml. Caiff yr aflonyddu hwn hefyd ei esgusodi gan ddynion drwy ddefnyddio’r gair ‘dim ond’ – gyda’u cymheiriaid, eu ffrindiau a’u cydweithwyr.

Byddwn hefyd yn annog unrhyw un sydd â phryderon am ei ymddygiad ei hun, neu am ymddygiad eraill, neu os yw’n dioddef cam-drin ei hun, i siarad â’r llinell gymorth Byw Heb Ofn a ariennir gan Lywodraeth Cymru ar 0808 80 10 800 neu drwy sgwrsio ar-lein, drwy anfon e-bost neu drwy anfon neges destun.

Byddwn yn parhau i weithio mewn partneriaeth â gwasanaethau arbenigol i godi ymwybyddiaeth o’r materion anghydraddoldeb a diogelwch sy’n wynebu menywod a merched, ac i roi diwedd ar bob math o drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Byddwn yn parhau i weithio gyda heddluoedd Cymru, Comisiynwyr Heddlu a Throseddu, byrddau diogelwch cyhoeddus a Gwasanaeth Erlyn y Goron i wella arferion, i feithrin hyder ymhlith dioddefwyr i roi gwybod am achosion o gam-drin a thrais pan fyddant yn digwydd ac i ddwyn y rhai sy’n cam-drin i gyfrif.

Ni fydd Cymru’n goddef camdriniaeth.