Neidio i'r prif gynnwy

Jane Hutt AS, y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Mawrth 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae llofruddiaeth Sarah Everard wedi bod yn sioc inni i gyd ac wedi aildanio sgwrs genedlaethol am ddiogelwch menywod.

Mae wedi ein hatgoffa, er bod herwgydio dieithriaid yn rhywbeth prin, fod trais yn erbyn menywod a merched yn llawer rhy gyffredin. Mae wedi tynnu sylw hefyd at effaith trais a chamdriniaeth ar fywydau bob dydd menywod. Am yn rhy hir, mae aflonyddu a thrais wedi rheoli bywydau menywod.

Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn glir erioed ynghylch ein huchelgais i roi terfyn ar drais a chamdriniaeth yn erbyn menywod a merched. Mae’r banllefau o brotest ymhlith y cyhoedd yn dilyn marwolaeth Sarah yn alwad i bob un ohonom ddeffro. Rhaid inni anrhydeddu bywyd Sarah drwy wneud newidiadau i’n cymdeithas a’n diwylliant fel y gall pob menyw a merch fyw heb ofn.

Fel y mae Yasmin Khan, ein Cynghorydd Cenedlaethol, wedi dweud, mae angen newid yn ein diwylliant, ac nid yw hyn yn mynd i ddigwydd dros nos. Mae angen i bawb fod yn rhan o’r newid hwnnw – menywod, plant a dynion – er mwyn sicrhau nad yw pŵer yn cael ei gamddefnyddio a bod pobl yn gallu byw heb ofn.

Roedd y golygfeydd ar Gomin Clapham dros y penwythnos yn fy nghythryblu’n fawr. Roedd hawl gan y nifer fawr a oedd yn teimlo dolur, dicter a galar i leisio hynny. Rwy’n croesawu’r ymchwiliad annibynnol a lansiwyd gan Ysgrifennydd Cartref y DU. Byddaf yn siarad â heddluoedd Cymru a Chomisiynwyr Heddlu a Throseddu i sicrhau ein bod yn ymateb yn briodol, gan barhau i ddiogelu iechyd pawb yn ystod y pandemig hwn sy’n dal gyda ni.

Cynhaliwyd gwylnosau ledled Cymru hefyd dros y penwythnos. Roedd yna heddlu yn y digwyddiadau a drefnwyd i bobl fynd iddynt yn gorfforol, ond roeddent yn heddychol, ac ni welwyd problemau.

Rydym yn parhau i weithio mewn partneriaeth â gwasanaethau arbenigol i godi ymwybyddiaeth o’r problemau anghydraddoldeb a diogelwch sy’n wynebu menywod a merched, ac i roi terfyn ar drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yn eu holl ffurfiau.

Byddwn hefyd yn parhau i weithio gyda heddluoedd Cymru, Comisiynwyr Heddlu a Throseddu, byrddau diogelwch y cyhoedd a Gwasanaeth Erlyn y Goron i ennyn hyder ymhlith dioddefwyr i roi gwybod am achosion o gam-drin a thrais pan fyddant yn digwydd, ac i alw troseddwyr i gyfrif.

Byddwn yn gweithio gyda’n partneriaid i gryfhau’r Strategaeth ar Drais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol er mwyn mynd i’r afael â’r hyn y mae menywod a merched yn ei brofi yn y cartref, yn y gymuned ac yn y gweithle. Bydd yn hyrwyddo rhaglenni hyfforddi ac ymwybyddiaeth ‘Gofyn a Gweithredu’ a ‘Paid Cadw’n Dawel’, a chymorth ar gyfer gwasanaethau arbenigol yn y maes.

Edrychaf ymlaen at weld cyfraniad y cwricwlwm newydd a’r Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) a basiwyd yn ddiweddar o ran codi ymwybyddiaeth ynghylch cydberthnasau iach. Bydd addysg cydberthynas a rhywioldeb yn rhan statudol o’r cwricwlwm i bob plentyn hyd at 16 oed, a bydd yn helpu pobl ifanc i herio agweddau ac ymddygiadau dinistriol.

Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i gyllido prosiect Sbectrwm Hafan Cymru sy’n hyrwyddo pwysigrwydd cydberthnasau iach mewn ysgolion ac yn codi ymwybyddiaeth o drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol drwy hyfforddi athrawon a llywodraethwyr yn ein hysgolion.

Rhaid inni beidio â cholli unrhyw gyfle i ddelio â’r materion hyn. Rhaid i Fil Cam-drin Domestig Llywodraeth y DU wneud y cyfraniad cryfaf posibl i ddiogelu menywod. Ac rwy’n galw ar Lywodraeth y DU i gryfhau Bil Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd i sicrhau bod y system cyfiawnder troseddol yn diogelu menywod a merched, gan warchod rhyddid pobl ar yr un pryd i barhau i fynegi eu pryderon.