Neidio i'r prif gynnwy

Alun Davies, Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Ebrill 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu at y gwaith o ddirwyn Rhaglen Cymunedau yn Gyntaf i ben, a diogelu gwaith gorau’r rhaglen at y dyfodol. Diolch am wneud hyn mor drefnus. Hoffwn dalu teyrnged i'r holl staff rheng flaen a gyflawnodd y gwasanaethau. Diolch hefyd i'r Cyrff Cyflawni Arweiniol, yr awdurdodau lleol a'r sefydliadau trydydd sector. Maent wedi gweithio a gweithredu mewn ffordd sydd wedi gwneud Cymunedau yn Gyntaf yn ffynhonnell o gefnogaeth werthfawr i'r bobl a oedd ei hangen.  

Yn ystod y flwyddyn bontio mae fy swyddogion wedi cydweithio â nifer o adrannau Llywodraeth Cymru, Cyrff Cyflawni Arweiniol, awdurdodau lleol, sefydliadau'r trydydd sector a chyrff cyhoeddus. Mae hyn wedi sicrhau bod y broses bontio wedi mynd rhagddi'n esmwyth, a bod dulliau gwahanol o weithio er mwyn cynnal yr agweddau pwysicaf ar y rhaglen wedi cael cefnogaeth angenrheidiol. Mae’r ffordd mae pobl wedi cyflawni eu dyletswyddau i sicrhau bod gwaddol y rhaglen Cymunedau yn Gyntaf yn parhau yn enghraifft amlwg o’r modd y gall pobl yn cydweithio â’i gilydd arwain at ganlyniadau positif.

Mae swyddogion wedi gweithio’n agos â byrddau iechyd lleol yn ystod y cyfnod pontio i edrych ar opsiynau o brif ffrydio cymorth ar lefel isel. Mae hyn yn ei dro wedi arwain at ddatblygu dulliau cadarn a chynaliadwy o gydweithio wrth fwrw ymlaen â’r gwaith.

Diolch i Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru am ei gefnogaeth barod dros y flwyddyn. Roedd hyn yn help mawr i gyrff y trydydd sector a'r cyrff cyflawni arweiniol gymryd y cam nesaf. Hefyd, o ganlyniad i barodrwydd cyrff cyhoeddus i gydweithio â swyddogion ac ymgymryd â gwahanol brosiectau a arferai ddod o dan adain Cymunedau yn Gyntaf, yn ogystal ag ymgymryd â dyraniadau'r gronfa waddol i awdurdodau lleol, rydym wedi gallu parhau â nifer o agweddau cadarnhaol ar Gymunedau yn Gyntaf ar gyfer y dyfodol.  

Mae gwaith cadarnhaol a chalonogol eisoes yn mynd rhagddo, megis gwaith i ddatblygu'r dull gweithio Rhoi Plant y Gyntaf a'r cynnydd yng nghyllideb y Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol er mwyn gwneud canolfannau cymunedol mewn ardaloedd difreintiedig yn fwy hyfyw. Rwy'n teimlo bod sectorau yn cydweithio ‘n dda a'u bod yn awyddus i weithio mewn ffordd wahanol er mwyn sicrhau'r canlyniadau gorau posibl yn lleol.

Mae'r gwaith hwn yn cyd-fynd â'n strategaeth genedlaethol, Ffyniant i Bawb, sy'n nodi ein cynlluniau ar draws y llywodraeth i fuddsoddi mewn cymunedau ac unigolion ledled Cymru gyda’r nod o hybu eu lles neu helpu iddynt ffynnu gan bwysleisio pwysigrwydd atal ac ymyrryd yn gynnar.