Mark Drakeford AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg
Heddiw, rwy’n cyhoeddi’r crynodeb o’r ymatebion i’r ymgynghoriad diweddar ac yn cadarnhau newidiadau arfaethedig i ostyngiadau, diystyriadau ac eithriadau’r dreth gyngor yng Nghymru yn dilyn adolygiad cynhwysfawr. Mae Deddf Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru) 2024 yn galluogi symleiddio’r fframwaith cyfreithiol a gwneud gwelliannau iddo er mwyn hwyluso eglurder a hygyrchedd. Adolygwyd 53 o gategorïau i sicrhau eu bod yn parhau yn berthnasol, yn weithredol ac yn addas i’r diben.
Cynhaliwyd yr ymgynghoriad am gyfnod o 12 wythnos rhwng 23 Mai a 15 Awst 2025. Daeth 66 o ymatebion i law gan ystod o randdeiliaid, gan gynnwys cyrff cynrychioladol, awdurdodau lleol, sefydliadau cynghori ac aelodau eraill o’r cyhoedd.
Ar y cyfan, roedd ymatebwyr o blaid llawer o’r cynigion, yn arbennig y rhai sy’n ceisio symleiddio darpariaethau sydd wedi dyddio a hyrwyddo mwy o degwch. Cafwyd ystod eang o sylwadau doeth ac adeiladol, ac rwy’n ddiolchgar i’r holl randdeiliaid am eu cyfraniadau. Bydd y cyfraniadau hyn yn llywio ein camau nesaf gan helpu i lunio gwelliannau sy’n moderneiddio system gostyngiadau, diystyriadau ac eithriadau’r dreth gyngor, a fydd yn ei thro, yn cefnogi ystod o nodau polisi a’n hymrwymiad i dreth gyngor decach.
Mae’r crynodeb o’r ymatebion i’r ymgynghoriad ar gael yma, Newidiadau arfaethedig i ddisgowntiau'r Dreth Gyngor, personau a ddiystyrir ac eithriadau | LLYW.CYMRU sy’n nodi’n fanylach y camau nesaf ar gyfer pob cynnig ac yn cadarnhau sut y bydd gwelliannau yn cael eu rhoi ar waith er mwyn cyflawni’r nodau polisi a fwriadwyd.
Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi cadarnhau na fydd newidiadau yn cael eu gwneud i’r disgownt un oedolyn o 25%, a bydd hyn yn cael ei ailddatgan mewn rheoliadau. Bydd y rheoliadau yn uwchraddio trothwyon ariannol o ran diystyru prentisiaid ac yn dileu categorïau diangen ar gyfer gofalwyr. Bydd eithriadau A ac C yn y dyfodol yn gymwys i eiddo sydd newydd ei brynu, gan ddileu anghymhelliadau i adnewyddu neu brynu eiddo gwag hirdymor. Er mwyn sicrhau bod rheolau’r dreth gyngor o ran eiddo gwag yn cyd-fynd â pholisïau ehangach Llywodraeth Cymru ar gartrefi gwag hirdymor, rydym yn bwriadu cyflwyno terfyn amser blwyddyn o hyd ar eithriad H y dreth gyngor, ar gyfer y nifer bach o eiddo a ddelir ar gael i’w ddefnyddio gan weinidogion yr efengyl yn y dyfodol. Byddwn hefyd yn diwygio eithriad F ar eiddo pan nad yw profiant wedi’i roi eto, i fod yn gymwys am hyd at 2 flynedd ar ôl dyddiad marwolaeth y person ymadawedig neu hyd nes y rhoddir profiant, pa un bynnag sy’n digwydd gyntaf, a 12 mis ar ôl i’r profiant gael ei roi. Yn dilyn adborth, bydd eithriad U a’r categori person a ddiystyrir cyfatebol yn cael eu hadnabod yn y dyfodol fel y categori Amhariad Gwybyddol Arwyddocaol, gan gynnwys diffiniad wedi’i wella a fydd yn lleihau stigma.
Rwy’n falch o gadarnhau y bydd yr eithriad newydd arfaethedig yn cael ei greu ar gyfer llety lloches dros dro mewn argyfwng. Mae hyn yn cydnabod yr amgylchiadau unigryw a’r heriau gweithredol o ran darparu lleoedd diogel i oroeswyr trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol.
Yn rhan o’r adolygiad hwn, mae Llywodraeth Cymru wedi ystyried y darpariaethau o dan eithriad E, sy’n gymwys ar hyn o bryd pan ystyrir mai ysbyty yw unig breswylfa neu brif breswylfa person. Yn sgil y safbwyntiau cymysg a gafwyd mewn ymateb i’r cynnig hwn, nid ydym yn bwriadu gwneud newidiadau i’r eithriad hwn ar hyn o bryd.
Byddaf yn cyflwyno’r rheoliadau angenrheidiol maes o law, gan anelu at roi newidiadau ar waith o 1 Ebrill 2026 ymlaen. Mae’r gwelliannau hyn yn helpu i gyflawni ein hymrwymiad yn y Rhaglen Lywodraethu i wneud y dreth gyngor yn decach.
