Neidio i'r prif gynnwy

Dawn Bowden AS, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
5 Gorffennaf 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae'r economi ymwelwyr yn rhan bwysig o economi ehangach Cymru, gan gefnogi degau o filoedd o swyddi ledled y wlad a dod â degau o filiynau o bunnoedd i mewn bob blwyddyn.

Mae'n newid yn gyflym iawn gyda thwf llwyfannau archebu ar-lein a newydd-ddyfodiaid i'r farchnad. Mae hyn wedi dod â manteision, megis llwybrau newydd i'r farchnad a mwy o ddewis i ddefnyddwyr, ond mae pryderon wedi cynyddu hefyd ynghylch cydymffurfio â gofynion penodol, y dylai darparwyr llety fod yn cydymffurfio â hwy eisoes er mwyn gweithredu.

Fel rhan o'n gwaith parhaus i sicrhau bod gennym gymunedau ffyniannus a bywiog drwy gydol y flwyddyn ledled Cymru a'r camau rydym yn eu cymryd i ddatblygu twristiaeth gynaliadwy, rydym wedi ymrwymo i gyflwyno cynllun trwyddedu statudol ar gyfer pob llety ymwelwyr. Bydd hyn hefyd yn helpu i sicrhau bod yr economi ymwelwyr yn gynaliadwy a ffyniannus. 

Mae'r gwaith hwn yn cael ei wneud fel rhan o'r Cytundeb Cydweithio gyda Phlaid Cymru.

Gwnaethom gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ynghylch sut y gallai cynllun trwyddedu weithio. Daeth i ben ar 17 Mawrth gyda mwy na 1,500 o ymatebion yn dod i law. Comisiynwyd dadansoddiad annibynnol o'r ymatebion ym mis Ebrill, a heddiw rwy'n cyhoeddi'r canfyddiadau.

I ategu'r prif ymgynghoriad, cynhaliwyd tair sesiwn ymgysylltu ledled Cymru ym mis Mai. Rhoddodd y rhain gyfle i randdeiliaid allweddol o'r diwydiant twristiaeth rannu eu barn ar agweddau technegol penodol ar y cynllun arfaethedig. Cyhoeddir adroddiad o'r sylwadau a wnaed ochr yn ochr â'r dadansoddiad ymgynghori.

Rwy'n ddiolchgar i bawb a gymerodd yr amser i ymateb a rhoi eu hadborth. Byddwn yn myfyrio ar ganfyddiadau'r adroddiadau hyn. Byddwn yn parhau i gasglu barn a thystiolaeth gan y sector a rhanddeiliaid a chan ddarpar ymwelwyr a chymunedau. Byddaf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf yn nes ymlaen yn y flwyddyn gan nodi ein cynigion ar gyfer sut rydym yn bwriadu bwrw ymlaen â'r cynllun.