Neidio i'r prif gynnwy

Lynne Neagle AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Mawrth 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rwy’n falch o ddarparu diweddariad am waith y Grŵp Cynghori Gweinidogol ar gyfer Penaethiaid. Yn unol â’r Cylch Gorchwyl, rwy’n diweddaru aelodau am y cynnydd y mae’r grŵp wedi’i wneud ers ei sefydlu.

Mae’r grŵp wedi cael 8 diwrnod o gyfarfodydd ers mis Mehefin 2025 ac mae wedi ystyried ystod eang o faterion sy’n effeithio ar ysgolion a’r system addysg ehangach. Sefydlwyd pedwar is-grŵp. Mae pob is-grŵp wedi arwain ar flaenoriaeth benodol ac wedi cyflwyno canfyddiadau ac ystyriaethau i mi yn y cyfarfod diweddaraf.

  • Ystyriodd yr is-grŵp Cynhwysiant sut y dylai system gynhwysol edrych yn ymarferol a beth yw’r prif amodau angenrheidiol i gryfhau cynhwysiant ledled Cymru.
  • Archwiliodd yr is-grŵp Cwricwlwm ddulliau gweithredu systemig a fyddai’n cefnogi darllen fel blaenoriaeth genedlaethol, gan ddarparu’r wybodaeth ddiweddaraf amdanynt. Edrychodd ar gysondeb ar draws dysgu proffesiynol, adnoddau a disgwyliadau o ran cynnydd, gan gynnwys gyda Dysgu a CAL:ON.
  • Ystyriodd is-grŵp y Cynllun Strategol ar gyfer y Gweithlu Addysg sut i ddenu a chadw gweithlu o ansawdd uchel a sut y gallai llwybr datblygu cydlynol ar gyfer cynorthwywyr addysgu edrych o fewn system fodern, hyblyg.
  • Darparodd yr is-grŵp Arweinyddiaeth a Gwella adborth ar sut i ymgorffori cydweithio fel un o nodweddion craidd gwella ysgolion, gan gynnwys sut y gall cyrff cenedlaethol a rhwydweithiau lleol gefnogi arferion cydlynol ledled Cymru.

Mae’r cynigion hyn wedi’u hymgorffori yn ein gwaith polisi yn y meysydd hyn ac wedi bwydo’n uniongyrchol i’r Cynllun strategol ar gyfer y gweithlu addysg mewn ysgolion, a gyhoeddwyd ar 18 Mawrth 2026. Maent hefyd wedi cynnig adborth a chipolwg ar feysydd polisi gan gynnwys:

  • Dysgu proffesiynol ac arweinyddiaeth
  • Adolygiad o lywodraethant ysgolion
  • Canllawiau ar ffonau symudol
  • Ymgynghoriad ar safonau proffesiynol diwygiedig
  • Dull ysgol gyfan o ymdrin â llesiant emosiynol a meddyliol
  • Asesiadau personol a disgwyliadau o ran oedran
  • Canllawiau ar ymdrin â honiadau o gam-drin

Hoffwn ddiolch i aelodau’r Grŵp Cynghori Gweinidogol ar gyfer Penaethiaid am eu hymrwymiad parhaus a’u cyfraniadau gwerthfawr, a byddant yn parhau i gyfarfod fel arweinwyr system i gefnogi gwaith polisi ar lefel swyddogol dros yr wythnosau nesaf.