Vikki Howells AS, y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch
Ysgrifennais ar wahân at Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig a’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ym mis Ebrill a Mai yn nodi amserlen arfaethedig ar gyfer gweithredu argymhellion rhyngddibynnol yr Adolygiad o Gymwysterau Galwedigaethol gan Sharron Lusher MBE DL a'r adroddiad Pontio i fyd gwaith gan Dr Hefin David AS. Mae hyn yn cynnwys cyd-gynhyrchu Strategaeth Addysg a Hyfforddiant Galwedigaethol drafft yn benodol, yng nghyd-destun yr agenda addysg drydyddol ehangach.
Ein nod yw cefnogi'r agenda gyfranogi ehangach trwy greu llwybrau cliriach a mwy hygyrch i bob dysgwr. Byddwn hefyd yn sicrhau bod addysg a hyfforddiant galwedigaethol yn cyd-fynd yn agos â'r agenda sgiliau ehangach, gan ymateb i anghenion cyflogwyr a chyfrannu at ddarparu swyddi gwyrdd. Bydd y dull hwn hefyd yn sail i gyflawni ein hymrwymiadau yn y Rhaglen Lywodraethu i:
- ddiwygio cymwysterau ac ehangu'r amrediad o gymwysterau galwedigaethol a ddyfeisiwyd yng Nghymru;
- hyrwyddo parch cydradd rhwng llwybrau galwedigaethol ac academaidd mewn addysg Gymreig.
Bydd Bwrdd Gweinidogol newydd ar Addysg a Hyfforddiant Galwedigaethol yn dwyn ynghyd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol a minnau i ystyried materion strategol a thrawsbynciol gan gynnwys datblygu Strategaeth Addysg a Hyfforddiant Galwedigaethol.
Gan weithio gyda rhanddeiliaid allweddol, mae Llywodraeth Cymru wedi nodi'r pum maes cyflawni rhyngddibynnol eang canlynol i gryfhau'r ddarpariaeth addysg a hyfforddiant galwedigaethol yng Nghymru.
Bydd y meysydd hyn yn rhan o'n hagenda gyffredinol i ddatblygu Strategaeth Addysg a Hyfforddiant Galwedigaethol a darparu fframwaith cydlynol a hygyrch ar gyfer y corff cymhleth hwn o waith, a bydd hefyd yn sicrhau ein bod yn ymateb i'r argymhellion a nodir yn y ddau adroddiad.
Y dyfodol (Cynllunio Strategol a Galw yn y Dyfodol)
Amlinellu pwysigrwydd alinio addysg alwedigaethol â'r agendâu trydyddol a sgiliau ehangach i ddiwallu anghenion galwedigaethol ac economaidd yng Nghymru yn y dyfodol. Trwy ddiffinio gofynion sgiliau yn y dyfodol a sicrhau aliniad rhwng adolygiadau sector a fframweithiau prentisiaethau, gall y system addysg barhau i ymateb i ofynion diwydiant. Nod y cydgysylltu strategol hwn yw creu gweithlu deinamig a pharod ar gyfer y dyfodol sy’n gyrru ffyniant cenedlaethol.
Cynaliadwyedd (Cysoni â’r Farchnad Lafur ac Asesu Risg)
Cefnogi'r angen am system addysg alwedigaethol gynaliadwy sy'n cyd-fynd â thueddiadau'r farchnad lafur. Bydd hyn yn nodi ac yn lliniaru risgiau i safonau galwedigaethol, gan ehangu cyfleoedd am leoliadau gwaith a sicrhau bod y gweithlu hyfforddi yn meddu ar arbenigedd o ddiwydiant. Nod y dull hwn yw cynnal ansawdd a pherthnasedd addysg, gan ddarparu profiad ymarferol i ddysgwyr a chryfhau'r cysylltiad rhwng addysg a chyflogaeth.
Cyfle (Cynnydd Dysgwyr a Thegwch)
Ategu pwysigrwydd creu system addysg alwedigaethol hygyrch sy'n cefnogi llwybrau cynnydd clir ac yn blaenoriaethu llesiant dysgwyr. Bydd hyn yn ystyried yr angen am degwch o ran cyfleoedd, cyngor diduedd ar gyfer gwneud penderfyniadau gwybodus, a chyflwyno cwricwlwm arloesol, yn enwedig mewn meysydd â dewisiadau cyfyngedig. Mae integreiddio sgiliau llythrennedd, rhifedd a digidol yn hanfodol er mwyn galluogi dysgwyr i gymryd rhan lawn mewn addysg, cyflogaeth a dysgu gydol oes.
Cryfhau (Ymwybyddiaeth, Cydnabyddiaeth, Argaeledd Cymwysterau, Llwybrau a Chynnydd)
Hyrwyddo rhaglenni addysg alwedigaethol a ddyfeisiwyd yng Nghymru gan sicrhau eu bod yn diwallu anghenion y diwydiant lleol. Bydd hyn yn nodi pwysigrwydd archwilio cydnabod dysgu blaenorol i wella hygrededd, cryfhau'r ddarpariaeth Gymraeg, mireinio terminoleg cymwysterau er eglurder, a gwella hygyrchedd data i gefnogi gwneud penderfyniadau gwybodus a gwelliant parhaus.
Arloesi (Cydweithredu a Gwelliant Parhaus)
Gwella'r partneriaethau rhwng darparwyr addysg a chyflogwyr i sicrhau bod dysgwyr yn ennill sgiliau perthnasol, ‘go iawn’. Mae angen cydweithredu rhanbarthol i rannu arferion gorau a diwallu anghenion y gweithlu lleol yn effeithiol. Mae mireinio prosesau adolygu'r sector yn sicrhau bod addysg yn dal i gyd-fynd â gofynion y diwydiant, ac mae cefnogi darpariaeth ddwyieithog yn gwella hygyrchedd. Mae buddsoddi mewn datblygu cymwysterau yn sicrhau bod cymwysterau yn parhau i fod yn gredadwy, yn addasadwy ac yn adlewyrchu safonau proffesiynol sy'n esblygu.
Mae fy swyddogion wedi sefydlu Grŵp Cyfeirio Rhanddeiliaid Addysg a Hyfforddiant Galwedigaethol, sy’n cynnwys cynrychiolwyr o Medr, Cymwysterau Cymru, Colegau Cymru, Gyrfa Cymru ac Estyn, i fynd ati ar y cyd i ystyried pob un o'r meysydd cyflawni hyn. Byddant yn gweithio tuag at ddatblygu Strategaeth Addysg a Hyfforddiant Galwedigaethol ddrafft erbyn Ebrill 2026. Bydd swyddogion hefyd yn parhau i gael sgyrsiau ehangach gyda rhanddeiliaid unigol ac ar draws Llywodraeth Cymru.
Bydd y gwaith hwn yn digwydd ochr yn ochr â'n gwaith ni i wella addysg 16 i 19 yn ehangach, gan adeiladu ar y cyfleoedd a ddarparwyd wrth sefydlu Medr. Bydd hyn yn cynnwys datblygu canllawiau statudol ar gyfer Medr ar gwricwla lleol ar gyfer pobl ifanc 16 i 19 oed.