Neidio i'r prif gynnwy

Jeremy Miles AS, y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Pontio Ewropeaidd

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Medi 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae’r datganiad hwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau’r Senedd am ein gwaith i baratoi ar gyfer diwedd y cyfnod pontio.

Mae’r cyfnod pontio yn dod i ben ar 31 Rhagfyr 2020, ond wrth i’r negodiadau rhwng Llywodraeth y Deyrnas Unedig (DU) a'r Undeb Ewropeaidd (UE) barhau, mae llawer iawn o ansicrwydd o hyd ynghylch natur y berthynas rhwng y DU a’r UE ar ôl 1 Ionawr 2021. Gyda llai na phedwar mis tan ddiwedd y cyfnod pontio a gwahaniaethau sylfaenol yn parhau i fod rhwng Llywodraeth y DU a’r UE, mae’r risg  mai’r unig delerau masnachu a fydd rhwng y DU a’r UE fydd y telerau cyffredinol hynny a bennwyd gan Sefydliad Masnach y Byd yn parhau i fod yn boenus o uchel, yn enwedig o ystyried honiad Prif Weinidog y DU y byddai hyn yn ‘ganlyniad da’ i’r DU.

Rydym, fodd bynnag, yn gwybod y bydd newidiadau sylweddol o dan yr holl senarios posibl, ac rydym yn gweithio i baratoi ar gyfer y rhain. Daw’r newidiadau hyn, wrth gwrs, ar adeg o bwysau sylweddol wrth inni barhau i ymateb i’r pandemig byd-eang. Ni ellir gorbwysleisio’r  heriau o baratoi ar gyfer diwedd y cyfnod pontio ac ymateb i bandemig byd-eang ar yr un pryd.

Rydym yn cydnabod na all Llywodraeth Cymru warchod Cymru rhag holl effeithiau ein hymadawiad ar ddiwedd y cyfnod pontio, na lliniaru’r holl effeithiau hynny, ac rydym wedi parhau i bwysleisio’r angen i Lywodraeth y DU weithio gyda’r Llywodraethau Datganoledig ar gynllunio ar gyfer diwedd y cyfnod pontio. Dysgasom, o’r gwaith cynllunio ar gyfer ymadael heb gytundeb, fod gweithio ar y cyd yn effeithiol, gwneud penderfyniadau ar y cyd a rhannu’r holl wybodaeth berthnasol yn hanfodol er mwyn i bob rhan o’r DU fod mor barod â phosibl am yr heriau yn ein perthynas gyda'r UE ar ddiwedd y flwyddyn.

Rydym wedi gwybod ers dechrau’r flwyddyn bod Llywodraeth y DU wedi bod yn datblygu cyfres o brosiectau blaenoriaeth. Fodd bynnag, ni chawsom weld is-set o’r prosiectau hyn hyd yn oed tan yn gynharach yn yr haf, pan ddarparodd Llywodraeth y DU wybodaeth am oddeutu 70 o’i phrosiectau parodrwydd y daeth i’r amlwg wrth eu hasesu bod gennym ninnau fuddiant datganoledig ynddynt. Mae’r ffaith na wnaeth Llywodraeth y DU rannu’r wybodaeth hon gyda ni yn gynt yn anfaddeuol, ac ni allwn gael y pedwar mis a gollwyd yn ôl. Er y bu rhywfaint o ymgysylltu ar lefel adrannol ar rai o’r prosiectau hyn yn y gorffennol, mae’r wybodaeth hon wedi ein galluogi i gysylltu ag adrannau arweiniol a cheisio symud y gwaith ar lefel swyddogol ar y camau sy’n ofynnol gan holl lywodraethau’r DU yn ei flaen.

Rydym wedi parhau i bwyso am gael gweld prosiectau parodrwydd eraill Llywodraeth y DU, gan mai wrth weld y set lawn yn unig y gallwn fod yn siŵr ein bod ni (a Llywodraeth y DU) yn deall y gyd-ddibyniaeth rhwng y prosiectau. Yn dilyn pwysau parhaus gan Lywodraeth Cymru a’r Llywodraethau Datganoledig eraill, mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo’n ddiweddar i rannu rhagor o wybodaeth am ei rhaglen barodrwydd gyffredinol. Yn ogystal â hynny, mae Llywodraeth y DU bellach wedi cadarnhau y bydd swyddogion Llywodraeth Cymru yn cael eu gwahodd i holl gyfarfodydd Bwrdd Portffolio Parodrwydd ar gyfer Pontio Llywodraeth y DU; dim ond yn fisol y byddai’r swyddogion yn cael eu gwahodd yn y gorffennol.

Rwyf hefyd wedi pwyso am i Weinidogion Cymru gael eu gwahodd i is-bwyllgor Cabinet Llywodraeth y DU ar gynllunio ar gyfer diwedd y cyfnod pontio (XO), ac roedd yn galonogol clywed bod Canghellor Dugiaeth Caerhirfryn wedi cytuno’n ddiweddar y bydd gweinidogion o’r Llywodraethau Datganoledig yn cael eu gwahodd i gyfarfodydd perthnasol yr is-bwyllgor XO yn y dyfodol. I gyd-fynd â phresenoldeb y gweinidogion yn y Pwyllgor XO mae Llywodraeth y DU hefyd wedi sefydlu cyfarfodydd pedairochrog o dan arweiniad y Tâl-feistr Cyffredinol i drafod materion parodrwydd.

Rydym yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth y DU i wella lefel y cyfathrebu ac ymgysylltu â ni. Rydym wedi gweld gwelliant dros yr wythnosau diwethaf, gyda mwy o barodrwydd i rannu gwybodaeth, ond mae angen inni weld hyn yn cael ei ddyfnhau a’i gyflymu ymhellach dros yr wythnosau a’r misoedd tyngedfennol sydd o’n blaenau.

Yn ogystal â gwaith ar y cyd ar brosiectau ledled y DU, rydym hefyd wedi bod yn datblygu camau gweithredu sy’n benodol i Gymru i helpu i gefnogi ein heconomi, ein cymunedau a’n gwasanaethau cyhoeddus drwy ddiwedd y cyfnod pontio. Mae llawer o’r gwaith hwn yn adeiladu ar ein gwaith cynllunio ar gyfer ymadael heb gytundeb yn 2019. Fodd bynnag, mae effaith ddigynsail y pandemig COVID-19 ar gymdeithas, yr economi a gwasanaethau cyhoeddus yn golygu bod rhai o’r camau a gynlluniwyd i liniaru effaith y dirywiad economaidd a ragwelwyd ac i ddiogelu cymunedau agored i niwed rhag effaith ymadael â’r UE heb gytundeb eisoes wedi cael eu defnyddio fel rhan o’r ymateb i COVID-19.

Gan adlewyrchu’r amgylchiadau yr ydym yn disgwyl eu hwynebu ar ddiwedd y cyfnod pontio, mae gwaith yn mynd rhagddo i ddwyn ynghyd y camau newydd a’r camau parhaus y bydd angen eu dilyn yn ogystal ag ymyriadau ledled y DU mewn cynllun ar gyfer diwedd y cyfnod pontio. Bydd angen i gynnwys y cynllun hwn adlewyrchu natur unrhyw gytundeb rhwng Llywodraeth y DU a’r UE ar y berthynas yn y dyfodol a chyd-fynd â pholisïau presennol Llywodraeth Cymru, gan gynnwys y gwaith o adfer yn sgil COVID-19. Mae canlyniad cyfarfod y Cyngor Ewropeaidd ganol mis Hydref yn debygol o fod yn arwyddocaol o ran siapio agweddau ar y cynllun hwn ac felly rwy’n cynnig cyhoeddi trosolwg o’r cynllun – fel y gwnaethom gyda’n cynllun ar gyfer ymadael heb gytundeb y llynedd – cyn gynted â phosibl wedi hynny.

Yn y cyfamser, byddwn yn parhau i weithio gyda phartneriaid yng Nghymru i baratoi ar gyfer diwedd y cyfnod pontio, yn ogystal ag ymgysylltu â chyfathrebu â busnesau, cymunedau a phobl ledled Cymru i geisio eu galluogi i gael gafael ar y cyngor a’r cymorth gorau. Byddaf hefyd yn parhau i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau am y maes gwaith hanfodol hwn.