Rebecca Evans, AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio
Ar 22 Gorffennaf 2024, mewn Datganiad Ysgrifenedig i'r Senedd, amlinellodd Ysgrifennydd y Cabinet ar y pryd dros yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru strategaeth hirdymor Llywodraeth Cymru ar gyfer Maes Awyr Caerdydd. Roedd y strategaeth arfaethedig yn canolbwyntio ar adeiladu ar gryfderau unigryw'r Maes Awyr trwy'r canlynol:
- Denu a thyfu busnesau hedfan ac awyrofod sy'n gysylltiedig â'r Maes Awyr
- Rhaglen wedi'i thargedu i ddatblygu gwasanaethau awyr, a fydd yn canolbwyntio ar gysylltedd teithwyr â nifer bach o ganolfannau awyr rhyngwladol a chanolfannau economaidd sydd o bwys i Gymru.
Dywedodd y Datganiad Ysgrifenedig y byddai'r gwaith hwn yn cael ei gefnogi gan Lywodraeth Cymru drwy becyn buddsoddi o hyd at £206m dros gyfnod o ddeng mlynedd.
Yn unol â phrosesau rheoli cymorthdaliadau'r DU, cyfeiriodd Llywodraeth Cymru y pecyn buddsoddi arfaethedig at yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd (CMA) ar 15 Awst 2024. Cyhoeddodd y CMA ei adroddiad ar y pecyn buddsoddi arfaethedig ar 2 Hydref 2024. Yn dilyn hynny, bu Llywodraeth Cymru yn ymgysylltu â sefydliadau a oedd wedi datgan eu bod yn bartïon a chanddynt fuddiant yn y cymhorthdal arfaethedig.
Ym mis Ebrill eleni, ar ôl ystyried yr adborth gan y CMA a'r holl bartïon a chanddynt fuddiant, lanlwythwyd manylion pecyn cymorthdaliadau a gymeradwywyd gan Weinidogion Cymru ar gyfer Maes Awyr Caerdydd, o hyd at £205.2m dros 10 mlynedd, i gronfa ddata tryloywder cymorthdaliadau'r DU. Mae £20m o'r cymhorthdal wedi'i ddarparu i'r Maes Awyr ar gyfer y flwyddyn ariannol gyfredol, fel imi gyhoeddi yn fy Natganiad Ysgrifenedig ar 2 Ebrill.
Yn unol â'r strategaeth a amlinellwyd gyntaf yr haf diwethaf, bydd y pecyn cymhorthdal yn rhoi'r adnoddau ariannol angenrheidiol i Faes Awyr Caerdydd greu swyddi newydd drwy ganolbwyntio ar gynnal a chadw, atgyweirio (MRO) awyrennau, trin cargo, hedfanaeth cyffredinol a thechnoleg hedfanaeth gynaliadwy. Bydd y pecyn hefyd yn galluogi'r Maes Awyr i ddatblygu llwybrau i'r rhannau hynny o'r byd y nodwyd yn strategaeth ryngwladol Llywodraeth Cymru eu bod yn bwysig i sector ymwelwyr rhyngwladol â Chymru a mewnfuddsoddi, gan gynnwys:
- Y Dwyrain Canol a De Asia
- Yr Undeb Ewropeaidd – canolfannau economaidd ac ariannol pwysig a chanolfannau awyr
- Gogledd America
Mae gwaith dadansoddi a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru yn rhagweld y bydd y pecyn buddsoddi hwn yn galluogi'r Maes Awyr i gefnogi nifer sylweddol uwch o swyddi ledled rhanbarth De Cymru a chynyddu'r cyfraniad at GYG blynyddol yn sylweddol.
Ar 25 Mehefin, cafodd Llywodraeth Cymru wybod bod Maes Awyr Bryste yn herio penderfyniad Gweinidogion Cymru drwy apelio i'r Tribiwnlys Apêl Cystadleuaeth (‘y Tribiwnlys’). Bydd crynodeb o brif seiliau'r her gyfreithiol yn cael ei gyhoeddi ar wefan y Tribiwnlys https://www.catribunal.org.uk/ (Saesneg yn Unig) maes o law.
Bydd Llywodraeth Cymru yn amddiffyn yr her gyfreithiol hon. Mae Maes Awyr Caerdydd o bwysigrwydd hanfodol i economi rhanbarth De Cymru – ac mae’n creu miloedd o swyddi yn sgil y maes awyr a'r ecosystem economaidd sy’n cael ei gefnogi ganddo.
Nid yw'n glir eto pa mor hir y gallai ei gymryd i broses yr her gyfreithiol ddod i'w chasgliad. Fodd bynnag, bydd Aelodau'r Senedd yn gallu dilyn trafodion y Tribiwnlys maes o law drwy'r ddolen we uchod. Byddaf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd cyn gynted ag y bydd gennym newyddion ynghylch canlyniad yr her. Gallaf roi sicrwydd i'r Aelodau na fydd unrhyw effaith ar weithrediadau o ddydd i ddydd Maes Awyr Caerdydd yn ystod y broses gyfreithiol.
Rwy'n cydnabod y gall Aelodau a'u hetholwyr gael llawer o gwestiynau ynglŷn â'r goblygiadau i ddyfodol y Maes Awyr sy'n deillio o'r her gyfreithiol hon. Fodd bynnag, gan fod Llywodraeth Cymru bellach mewn proses ymgyfreitha, bydd cyfyngiadau ar yr hyn y gallai Gweinidogion ei ddarparu i'r Senedd o ran diweddariadau ac ymatebion i gwestiynau. Mae'n hanfodol ein bod yn gadael i'r broses gyfreithiol annibynnol redeg ei chwrs yn ôl y drefn briodol.
Fel maes awyr pwysig yng nghlwstwr awyrofod a hedfanaeth De Cymru, mae Maes Awyr Caerdydd yn elfen hanfodol o'n seilwaith economaidd, gan gefnogi miloedd o swyddi a darparu cyfraniad sylweddol i'n hallbwn cenedlaethol.
Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fod yn hyderus iawn fod gan Faes Awyr Caerdydd y potensial i wneud cyfraniad hyd yn oed yn fwy i'n heconomi gyda'r buddsoddiad iawn, gan greu swyddi ychwanegol a rhoi hwb pellach i GYG rhanbarthol.
Rydym yn rhannu'r balchder sydd gan bobl Cymru yn ein Maes Awyr cenedlaethol ac yn parhau i fod yn gadarn o ran cefnogi ei ddyfodol. Byddwn yn ymladd dros ein gallu i fuddsoddi yn ei ffyniant hirdymor ac i lywio ei dynged economaidd.
