Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething AS, Gweinidog yr Economi

Cyhoeddwyd gyntaf:
12 Mai 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae’n bleser gennyf gyhoeddi bod Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU wedi dod i gytundeb mewn perthynas â sefydlu Polisi Porthladdoedd Rhydd yng Nghymru.

Mae’r cytundeb rydym wedi’i wneud yn deg i Gymru, ac yn parchu cyfrifoldebau Llywodraeth Cymru mewn meysydd polisi datganoledig – ac mae’n dilyn cryn drafod rhwng ein Llywodraethau.

Cytunodd Llywodraeth y DU i nifer o ofynion gan Lywodraeth Cymru, gan gynnwys y canlynol:

  • Bydd Gweinidogion y DU yn darparu o leiaf £26 miliwn o gyllid cychwynnol, nad oes angen ei ad-dalu, ar gyfer unrhyw Borthladd Rhydd sy’n cael ei sefydlu yng Nghymru, sy’n cyfateb i’r hyn sy’n cael ei gynnig i Borthladdoedd Rhydd yn Lloegr;
  • Bydd y ddwy Lywodraeth yn gweithio mewn partneriaeth gydradd i sefydlu unrhyw Borthladdoedd Rhydd yng Nghymru;
  • Dim ond os gellir dangos yn glir y bydd yn gweithredu mewn ffordd sy’n cyd-fynd â pholisïau Llywodraeth Cymru ar waith teg a chynaliadwyedd amgylcheddol, gan gynnwys ymrwymiad Cymru i fod yn wlad carbon sero-net, y bydd Porthladd Rhydd yn cael ei sefydlu.

Bydd Aelodau o’r Senedd yn gwybod o’m datganiad blaenorol dyddiedig 15 Gorffennaf 2021 fod y rhain yn adlewyrchu’r amodau hynny a gafodd eu hamlinellu yn ein llythyr at Lywodraeth y DU ym mis Chwefror 2021, sef:

  • “Bod penderfyniadau’n cael eu gwneud rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ar y cyd – gan gynnwys pennu’r meini prawf ar gyfer cynigion, asesu cynigion ac rhoi statws Porthladd Rhydd.
  • Amodoldeb – i sicrhau bod y broses o gyflwyno Porthladdoedd Rhydd yn adlewyrchu gwerthoedd a blaenoriaethau Gweinidogion Cymru, yn benodol mewn perthynas â safonau amgylcheddol, gwaith teg a phartneriaeth gymdeithasol.
  • Setliad cyllid teg – nad yw naill ai yn rhoi Porthladdoedd Rhydd yng Nghymru o dan anfantais nac yn ei gwneud yn ofynnol inni ailgyfeirio miliynau o bunnoedd o flaenoriaethau eraill. Ar gyfartaledd, disgwylir i Borthladdoedd Rhydd yn Lloegr dderbyn cymorth ariannol uniongyrchol gwerth £25 miliwn yr un.”

Yn ogystal mae Gweinidogion Cymru a Gweinidogion y DU wedi cytuno ar y canlynol:

  • Bydd Llywodraeth y DU yn darparu cymhellion treth ar gyfer Porthladdoedd Rhydd yng Nghymru, sy’n cyfateb i gymhellion mewn mannau eraill yn y Deyrnas Unedig, ar gyfer y trethi a gedwir yn ôl sydd wedi cael eu neilltuo i hyrwyddo’r amcanion polisi. Bydd Llywodraeth Cymru yn cynllunio rhyddhad o drethi lleol a threthi datganoledig (Ardrethi Annomestig a Threth Trafodiadau Tir) i gefnogi’r amcanion polisi.
  • Bydd y ddwy Lywodraeth yn parhau i fod yn agored i’r posibilrwydd o Borthladd Rhydd aml-safle yng Nghymru. I gydnabod daearyddiaeth economaidd unigryw Cymru ac uchelgeisiau Llywodraeth Cymru ar gyfer datblygu economaidd yng Nghymru, mae Llywodraeth y DU yn fodlon llacio’r terfyn o 45 km ar gyfer ffiniau Porthladd Rhydd aml-safle, os oes achos digon cryf dros wneud hynny.
  • Bydd y ddwy Lywodraeth yn parhau i fod yn agored i’r posibilrwydd o ganiatáu mwy nag un Porthladd Rhydd yng Nghymru, os cyflwynir achos busnes digon cryf iddynt.

Yn yr un modd â Phorthladdoedd Rhydd yn Lloegr, bydd proses gystadleuol deg ac agored yn cael ei defnyddio i benderfynu lle y dylid gweithredu’r polisi yng Nghymru. Bydd y ddwy Lywodraeth yn gweithio gyda’i gilydd i gydlunio’r broses ar gyfer dewis safleoedd i fod yn Borthladd Rhydd, a bydd barn y ddwy yn gydraddol yn yr holl benderfyniadau yn ystod y broses weithredu. Mae hyn yn cynnwys y penderfyniad terfynol ynghylch dewis y safle.

Mae’r ddwy Lywodraeth wedi dechrau’r broses o ddylunio’r prosbectws cynnig ar gyfer y gystadleuaeth, a bydd rhagor o fanylion ynghylch amserlen y camau nesaf yn cael eu cyhoeddi maes o law.

Rwyf wir yn gobeithio y bydd bodlonrwydd y DU i weithio gyda Llywodraeth Cymru ar Borthladdoedd Rhydd mewn partneriaeth gydradd yn darparu model cadarnhaol er gyfer cydweithredu rhwng ein Llywodraethau ar fentrau eraill yn y dyfodol.