Neidio i'r prif gynnwy

Ken Skates, Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Chwefror 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Yn dilyn fy natganiad ym mis Ebrill 2019, roeddwn yn awyddus i roi diweddariad i'r Aelodau ynghylch hynt y prosiect hwn, sy'n parhau i wynebu heriau sylweddol o safbwynt adeiladu.

Mae dros 85% o'r gwaith adeiladu bellach wedi'i gwblhau, sy'n cynnwys dros 7.5 milltir o waliau cynnal a 15 o bontydd. Mae oddeutu 1.3 million m3 o ddeunyddiau wedi'u cloddio ac mae 16,000 m3 o goncrid wedi'i osod. Yn ogystal â hyn, mae 30,000 o goed wedi'u plannu.

Gwnes gyfeirio at rai anawsterau penodol yn fy natganiad ym mis Ebrill mewn perthynas â llethr ansad, a allai effeithio ar ddyddiad cwblhau'r rhaglen. Dyma'r sefyllfa o hyd ac mae Costain wedi ein hysbysu ers hynny fod y gwaith o adeiladu wal gynnal yn cymryd hirach nag a ragwelwyd yn wreiddiol. O'r herwydd maent wedi estyn dyddiad cwblhau'r rhaglen hyd fis Ebrill 2021. Mae hyn wedi effeithio ar waith cwblhau'r rhan ddwyreiniol o Gilwern i Saleyard. Y bwriad gwreiddiol oedd cwblhau'r gwaith hwnnw erbyn mis Rhagfyr 2019. 

Rwy'n amlwg yn siomedig iawn ynghylch yr oedi pellach hwn ac rwyf wedi gofyn i dîm y prosiect barhau i ystyried y camau y byddai modd eu cymryd er mwyn gallu cwblhau'r gwaith yn gynharach. Fodd bynnag, nid yw'r sefyllfa o ran cyllideb y cynllun wedi newid ers fy natganiad ym mis Ebrill, ac nid yw'r costau wedi cynyddu er gwaethaf yr oedi diweddaraf yma.

Rwy'n cydnabod y ffaith bod gan y cyhoedd ddiddordeb mawr yn y cynllun ac y bydd y datblygiadau hyn yn peri pryder i ddefnyddwyr y ffordd, ac yn arbennig y bobl sy'n byw ac yn gweithio ar hyd y llwybr. Rhagwelaf, fodd bynnag, y bydd yr angen i gau rhagor o ffyrdd yn lleihau o ystyried natur a chwmpas y gwaith y mae angen ei gwblhau.

Bydd Swyddfa Archwilio Cymru yn cyhoeddi'n fuan adroddiad ffeithiol ar yr agweddau masnachol ar y cynllun. Mae fy swyddogion wedi cydweithio llawer â staff Swyddfa Archwilio Cymru er mwyn galluogi'r archwilwyr i ddeall hynt y prosiect a'r sefyllfa fasnachol.

Rwy'n parhau'n hyderus y bydd y cynllun hynod uchelgeisiol a chymhleth hwn yn cyflawni manteision sylweddol i'r rhanbarth, gan gefnogi gwaith Tasglu'r Cymoedd.

Mae'n bwysig cofio bod dros 65% o'r gwariant ar y prosiect wedi'i wneud ar waith gan gwmnïau Cymreig, bod 74% o'r gweithlu yn bobl o Gymru, bod 270 o swyddi newydd wedi cael eu creu a bod 69 o brentisiaid newydd wedi'u hyfforddi. Bydd y prosiect hwn yn gwella mynediad at wasanaethau cyhoeddus a swyddi allweddol ac yn cwblhau ffordd ddeuol rhwng canol Lloegr a Blaenau'r Cymoedd, sy'n cynnwys Ardal Fenter Glyn Ebwy. 

Bydd yr Aelodau'n dymuno nodi bod Llywodraeth Cymru yn parhau mewn anghydfod â Costain ynghylch nifer o faterion sy'n gysylltiedig â dyrannu risg yn y contract. Er bod manylion yr anghydfod yn parhau'n gyfrinachol gallaf nodi bod penderfyniad cymrodeddu diweddar wedi gwyrdroi penderfyniad a wnaed ynghynt a oedd o blaid Costain.

Hoffwn sicrhau'r Aelodau fod mesurau ar waith er mwyn sicrhau bod y ddwy ran olaf o brosiect Deuoli Blaenau'r Cymoedd yr A465 rhwng Dowlais a Hirwaun (Rhannau 5 a 6) yn cael eu cwblhau'n brydlon. Mae'r gwaith yma'n mynd rhagddo ar ffurf prosiect unigol gan ddefnyddio Model Buddsoddi Cydfuddiannol Llywodraeth Cymru. Mae'r broses o gaffael partner o'r sector preifat ar gyfer y prosiect yn parhau ac mae disgwyl iddi gael ei chwblhau erbyn haf 2020.

Mae contract y Model Buddsoddi Cydfuddiannol yn gontract sydd wedi'i deilwra'n arbennig ac mae'n wahanol iawn i'r un sy'n cael ei ddefnyddio ar hyn o bryd ar gyfer Rhan 2. Wedi dweud hynny, mae'r arferion gorau amgylcheddol a'r manteision cymunedol ar gyfer Adran 2 wedi'u datblygu ymhellach ac maent wedi'u cynnwys yn y contract newydd.

Mae Model Buddsoddi Cydfuddiannol yn gontract cyfandaliad am bris penodedig ar gyfer cyflawni'r gwasanaethau sy'n ofynnol. O dan y Model Buddsoddi Cydfuddiannol ni fydd Llywodraeth Cymru yn talu am y gwasanaeth hwn hyd nes y bydd yn weithredol. Bydd hyn yn ysgogiad i'r contractwyr o safbwynt cwblhau'r rhaglen. Mater i'r darparwr gwasanaeth yw perygl cynnydd o ran costau ac oedi i'r rhaglen a bydd yn cael ei gosbi os na fydd y gofynion gweithredol llym yn cael eu bodloni.

Mae'r contract yn cynnwys cyfyngiadau caeth ar reoli traffig tra bo'r ffordd yn cael ei hadeiladu, ar yr A465 a'r ffyrdd lleol. Caiff tendrau'r cynigwyr eu gwerthuso o safbwynt i ba raddau y maent yn bodloni'r ymrwymiadau hyn a byddant yn wynebu cosbau os na fyddant yn eu bodloni.

Hoffwn bwysleisio wrth yr Aelodau fod fy swyddogion yn gweithio mewn modd blaengar, mewn partneriaeth ag aelodau etholedig o awdurdodau lleol a gwahanol grwpiau diddordeb cyhoeddus, er mwyn cyflwyno pecyn o brosiectau gwaddol posibl ar gyfer y cymunedau lleol sydd ar hyd y llwybr. Hoffwn annog unrhyw un sydd â syniadau o ran prosiectau addas i gyfrannu at y gwaith yma, a hynny drwy'r awdurdod lleol perthnasol.

Bydd tîm y prosiect yn cydweithio â phartneriaid er mwyn pennu pecyn buddiol ac ymarferol o fesurau sy'n cyd-fynd ag amcanion y prosiect. Y nod yw sicrhau bod y rhain yn cael eu cyflawni y tu allan i'r prif gontract adeiladu, un ai ochr yn ochr â gweddill y gwaith adeiladu ar yr A465, neu unwaith y bydd y gwaith adeiladu wedi'i gwblhau.

Bydd fy swyddogion yn cynnig sesiwn friffio dechnegol i'r Aelodau, a fydd yn cyd-fynd â'r datganiad hwn. Bydd manylion y sesiwn hon yn cael ei hanfon atoch yn fuan. Rwyf hefyd yn barod iawn i dderbyn unrhyw gwestiynau.