Neidio i'r prif gynnwy

Kirsty Williams, y Gweinidog Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Hydref 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Heddiw rydym yn cyhoeddi diweddariad ar gynllun gweithredu ‘Cenhadaeth ein cenedl’ sy’n amlinellu sut y byddwn yn parhau i symud tuag at weithredu Cwricwlwm i Gymru yn effeithiol ym mis Medi 2022.

Mae’n dangos hefyd gamau rydym wedi’u cymryd mewn ymateb i COVID-19, a’n hymateb i adroddiad annibynnol y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD), ‘Achieving the New Curriculum for Wales’.

Mae adroddiad yr OECD, a gyhoeddwyd ddydd Llun 5 Hydref, yn cydnabod bod gan Gymru weledigaeth glir ar gyfer ei system addysg a’i dysgwyr, ac yn cynnig heriau o ran y camau nesaf, heriau yr ydym yn eu croesawu.

Mae’r diweddariad rydym yn ei gyhoeddi heddiw yn cydnabod ymdrechion pawb hyd yma, a’r hyn a gyflawnwyd, mae’n rhoi sylw i argymhellion yr OECD, ac yn mapio cam nesaf y daith.

Ochr yn ochr â’r diweddariad hwn, rydym hefyd yn cyhoeddi ‘Cwricwlwm i Gymru: y daith i 2022. Mae hwn yn amlinellu’r disgwyliadau o ran yr hyn y mae cyflwyno’r cwricwlwm yn ei olygu i ymarferwyr ac ysgolion o 2022. Ei nod yw helpu ysgolion i baratoi ar gyfer cynllunio a gweithredu eu cwricwlwm.

Mae ein diwygiadau addysg, y mae’r Cwricwlwm i Gymru yn ganolbwynt iddynt, yn ymdrech sy’n digwydd ar lefel genedlaethol gan bob un ohonom.

Rwy’n aruthrol falch o gael bod yn gweithio gydag athrawon, academyddion, ymarferwyr, busnesau, undebau, arbenigwyr rhyngwladol, a llawer o bobl eraill sy’n saernïo’r dyfodol hwn ar gyfer ein dysgwyr, ein hysgolion a’n cenedl.

Mae gennym seiliau cadarn yn eu lle, a chyda’n gilydd fe barhawn i godi safonau, lleihau’r bwlch cyrhaeddiad a chreu system addysg sy’n destun balchder cenedlaethol a hyder y cyhoedd.

Cenhadaeth ein cenedl

Cwricwlwm i Gymru: y daith i 2022 (Hwb)