Y Gwir Anrh Rhun ap Iorwerth AS, Prif Weinidog Cymru
Hoffwn roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am ein cynnydd o ran lleihau'r risg o danau gwyllt ac ymateb iddynt, yn dilyn yr uwchgynhadledd a gynhaliwyd ym Merthyr Tudful yn gynharach heddiw. Gyda dros ddeugain o gynrychiolwyr o'r sector cyhoeddus a phreifat, yn ogystal â gwirfoddolwyr a rhanddeiliaid eraill, roedd yn dangos difrifoldeb y sefyllfa yn glir, gan dynnu partneriaid at ei gilydd i fynd i'r afael â'r her hon ar y cyd, a dysgu'r holl wersi posibl o'r tanau gwyllt yr haf hwn.
Roedd yn drafodaeth hynod gynhyrchiol ac ymarferol a oedd yn cwmpasu sawl agwedd ar sut y gallwn leihau'r tebygolrwydd o danau gwyllt a sicrhau ein bod yn y sefyllfa orau i ymateb pan fyddant yn digwydd.
Roedd cytundeb cryf mai rhan ganolog yr hyn yr ydym yn ceisio ei wneud yw meithrin gwydnwch Cymru, gyda thanau gwyllt yn un o'r heriau gwirioneddol yr ydym yn eu hwynebu
Mae rhai cynigion yn gofyn am waith cyflym pellach gyda phartneriaid i'w datblygu'n llawn, ond byddwn yn bwrw ymlaen â'r canlynol fel blaenoriaeth:
- Gwaith amlasiantaeth i gefnogi Bwrdd Tanau Gwyllt Cymru Gyfan cryfach i ddod â'r holl bartneriaid at ei gilydd ar sail genedlaethol i baratoi ar gyfer tymor tanau gwyllt y flwyddyn nesaf, gan gwmpasu strategaethau ymyrraeth gynnar, rheoli risg, cyfathrebu â'r cyhoedd, a chydgysylltu amlasiantaeth.
- Dull newydd Cymru gyfan o fonitro risgiau gwydnwch y gwanwyn a'r haf i sicrhau bod gan adrannau'r llywodraeth a'r gymuned o ymatebwyr ddarlun risg cyfunol sydd â ffocws ar gyfer blaenoriaethu adnoddau a gwaith cynllunio.
- Adolygiad cyflym o’r dystiolaeth i ddeall yn well rôl rheoli tir wrth gefnogi gwydnwch yn erbyn tanau gwyllt ac adolygiad ar wahân o'r Cod Llosgi Grug a Glaswellt.
- Cyflwyno arbenigedd rhyngwladol i gefnogi Gwasanaethau Tân ac Achub Cymru gyda hyfforddiant a gwaith paratoi.
- Cofrestr strwythuredig Cymru gyfan ar gyfer ffermwyr a pherchnogion tir i nodi eu parodrwydd i ddarparu cerbydau, offer a gwybodaeth leol i helpu gydag ymateb i ymladd tân.
- Adolygiad o’r dystiolaeth a’r opsiynau gyda'r gwasanaethau tân ac achub o ran gwella gweithdrefnau monitro iechyd a dihalogi.
- Archwilio camau ataliol pellach i leihau risg, gan gynnwys ymdrechion o’r newydd i ymgysylltu â'r cyhoedd i dynnu sylw at risgiau a sut y gallwn eu lleihau.
- Parhau i weithio gyda Llywodraeth y DU a gweinyddiaethau datganoledig eraill i ddarparu datrysiad cynhwysfawr cenedlaethol i'r diffyg presennol o ran asedau ymladd tân o'r awyr yn y DU.
Hoffwn gofnodi ein diolch unwaith eto i bawb a fu'n ymwneud ag ymladd tanau digynsail yr haf hwn, a'u cyfraniad yn yr Uwchgynhadledd heddiw. Rydyn ni'n gwbl benderfynol o wneud yn siŵr ein bod yn barod ar y cyd ar gyfer yr hyn sy'n debygol o fod yn wanwyn a haf anodd arall yn 2027. Byddaf yn rhoi'r diweddariadau pellach i'r Senedd ar y rhain a gwaith ar gamau gweithredu eraill wrth i'r wybodaeth honno ddod i law.
