Neidio i'r prif gynnwy

Elin Jones AS, Gweinidog Cabinet dros Gyllid

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Awst 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae'r tanau gwyllt parhaus a digynsail ledled Cymru yn parhau i roi pwysau enfawr ar y Gwasanaethau Tân ac Achub ac asiantaethau eraill.

Rydym yn parhau i fod yn hynod ddiolchgar i ddiffoddwyr tân ac ymatebwyr eraill am weithio'n ddiflino mewn amodau heriol iawn i ddiffodd y tanau a diogelu bywyd ac eiddo.

Mae llawer o gymunedau ledled Cymru wedi cael eu heffeithio'n sylweddol, ac mae cefnogaeth yn cael ei chynnig i'r trigolion yn Nhrecelyn sydd wedi dioddef y golled dorcalonnus o golli eu cartrefi.

Fel mae’r sefyllfa ar hyn o bryd, mae Gwasanaethau Tân De Cymru a Chanolbarth a Gorllewin Cymru wedi datgan digwyddiadau mawr ag ystyried y pwysau sydd arnynt o ganlyniad i danau mewn sawl lleoliad.

Mae'r digwyddiadau’n cael eu rheoli drwy strwythur argyfwng amlasiantaeth sefydledig sy'n cynnwys yr holl sefydliadau sy'n ymwneud â'r ymateb, gan gynnwys Llywodraeth Cymru.

Mynychodd y Prif Weinidog gyfarfod COBR yn gynharach yr wythnos hon i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa ddifrifol yng Nghymru. Pwysleisiodd yr angen am weithredu cydgysylltiedig i fynd i'r afael â'r sefyllfa ar draws y DU, gan gynnwys y posibilrwydd o ddefnyddio asedau milwrol i gefnogi diffoddwyr tân.

Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn cefnogi Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru gyda chais ffurfiol am Gymorth Milwrol i’r Awdurdodau Sifil  (Military Aid to the Civilian Authorities , neu ‘MACA’) i ddefnyddio adnoddau'r Fyddin i'w cynorthwyo gyda'r gweithrediadau presennol.  

Mae’r cymorth hwn bellach wedi'i gytuno, ac rydym yn hynod ddiolchgar i'r Fyddin am ddarparu'r gefnogaeth ychwanegol hon. Mae Llywodraeth Cymru yn barod i ddarparu cyllid ar gyfer y gweithrediadau cymorth milwrol hyn pe bai angen.

Mae'r risgiau o danau gwyllt pellach yn parhau i fod yn uchel iawn o ystyried y cyfnod hir o dywydd sych a phoeth. Mae'n hynod bwysig bod y cyhoedd yn parhau i chwarae eu rhan wrth leihau'r risgiau o achosion pellach o dân trwy ymddwyn yn gyfrifol. Mae hyn yn golygu osgoi unrhyw weithgaredd a allai achosi tân.

Mae Llywodraeth Cymru, ochr yn ochr â'n partneriaid, yn parhau i bwysleisio negeseuon cyhoeddus cyson ynghylch atal tanau damweiniol a bwriadol, diogelwch y cyhoedd, yr angen am adrodd yn gyflym am danau lle mae risg uniongyrchol i fywyd neu eiddo, ac amddiffyn pobl agored i niwed rhag effeithiau mwg.

Mae'n hanfodol bod cyngor y gwasanaethau brys yn cael ei ddilyn bob amser, fel eu bod yn gallu canolbwyntio eu holl adnoddau ar y gwaith uniongyrchol o ddelio â'r gyfres ddigynsail hyn o amgylchiadau a chadw pobl ac eiddo yn ddiogel.

Cyhoeddir y datganiad hwn yn ystod y toriad er mwyn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r aelodau. Bydd Datganiad Llafar a chwestiynau yn cael eu hamserlennu ar gyfer sesiwn lawn gyntaf y Senedd ar ôl y toriad.