Neidio i'r prif gynnwy

Jack Sargeant AS, Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
12 Mai 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rwy'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r aelodau am y camau nesaf yn dilyn ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y panel darlledu arbenigol, 'Dyfodol newydd ar gyfer darlledu a chyfathrebu yng Nghymru'. Mae Llywodraeth Cymru yn diolch i'r panel unwaith eto am ei waith yn llunio'r adroddiad. 

Canfyddiad canolog y panel yw bod angen gweithredu i ddiogelu darlledu gwasanaeth cyhoeddus ac i wella amgylchedd cyffredinol y cyfryngau yng Nghymru. Mae'r farn hon yr un mor berthnasol heddiw ag yr oedd pan gyhoeddwyd yr adroddiad, ac mae Llywodraeth Cymru yn dal i fod wedi ymrwymo i sicrhau fod gan Gymru lais cryfach ac nad yw'n cael ei gadael ar ôl wrth i'r sector barhau i esblygu.

Fodd bynnag, mae datblygiadau dros y deuddeg mis diwethaf wedi gofyn i ni ailystyried y ffordd orau o gyflawni ein huchelgeisiau ar gyfer darlledu yng Nghymru. Yn enwedig felly y dirwedd wleidyddol sy'n newid a'r angen i ganolbwyntio cyllidebau cyfyngedig ar gefnogaeth uniongyrchol i'r sectorau yr ydym yn ceisio eu hamddiffyn. Yng nghyd-destun yr amgylchiadau newidiol hyn, rydym wedi archwilio ystod o opsiynau i nodi lle mae dulliau eisoes yn bodoli i gasglu cyngor ac arweiniad ar faterion sy'n ymwneud â darlledu a chyfathrebu.

Rwyf wedi dod i'r casgliad, er mwyn gwneud y mwyaf o adnoddau ac osgoi dyblygu gwaith, y dylai swyddogaeth gynghorol Corff Cynghori ar Ddarlledu a Chyfathrebu yn hytrach gael ei chyflawni drwy sianeli presennol rhwng Cymru Greadigol a rhanddeiliaid darlledu a'r cyfryngau. Byddwn yn ceisio cryfhau'r rhwydweithiau hyn a nodi cyfleoedd penodol i ddod â rhanddeiliaid at ei gilydd ar faterion unigol, gan adeiladu ar enghreifftiau diweddar fel digwyddiad Cymru Greadigol ac Ofcom ar y cyd i drafod adolygiad Ofcom o Gyfryngau Gwasanaeth Cyhoeddus. Byddwn yn manteisio ar berthynas fwy cadarnhaol â Llywodraeth y DU i fynd ar drywydd fframwaith cryfach ar gyfer darlledu a mwy o lais i Gymru.

Gan gydnabod bod newyddion cywir a dibynadwy ar draws pob sianel yn hanfodol i sicrhau cyfryngau cryf, rwyf wedi gofyn i Weithgor Newyddiaduraeth er Budd y Cyhoedd Cymru barhau â'i waith. Bydd y Gweithgor yn bwrw ymlaen gyda Chylch Gorchwyl wedi'i adnewyddu, yn dilyn cyhoeddi ei adroddiad argymhellion 'O Gymru ac i Gymru: Tuag at ddyfodol cynaliadwy ar gyfer newyddiaduraeth er budd y cyhoedd’. Rwy'n nodi'r argymhellion yn yr adroddiad ac yn diolch i'r Gweithgor am ei ymrwymiad parhaus i gefnogi sector cyfryngau cryf yng Nghymru. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fod yn ymrwymedig i weithio gyda'r sector a thrwy'r Gweithgor i fwrw ymlaen â'r argymhellion hyn lle bo hynny'n bosibl, yng nghyd-destun heriau ariannol parhaus. I gefnogi hyn, rwyf wedi neilltuo £350,000 o fewn cyllideb Cymru Greadigol i gefnogi newyddiaduraeth yn 2025-26. 

Er mwyn gwneud cynnydd ar ddatganoli pwerau darlledu a chyfathrebu, byddwn yn comisiynu gwaith i dynnu cyngor technegol at ei gilydd ar y pum llwybr at ddatganoli fel y'u nodwyd gan y panel arbenigol yn ei adroddiad. Bydd y gwaith hwn hefyd yn cadw'r achos dros sefydlu Awdurdod Darlledu a Chyfathrebu i Gymru yn y dyfodol o dan adolygiad. 

Rwy'n hyderus bod y dull newydd hwn yn taro'r cydbwysedd priodol rhwng gwneud y defnydd mwyaf o'r cyllidebau, ein dulliau presennol a'n gweithgarwch wedi'i dargedu i gefnogi fframwaith darlledu a chyfathrebu cryfach i Gymru.