Lynne Neagle AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg
Rwy'n rhoi diweddariad ar y gwaith i fwrw ymlaen â'r Adolygiad Strategol o Bartneriaid Addysg sy'n rhoi gwybodaeth ac arbenigedd ysgolion ac athrawon wrth wraidd ein dull o wella ysgolion yng Nghymru.
Mae'r broses o symud oddi wrth y trefniadau presennol ar gyfer gwella ysgolion wedi dechrau, ac mae'n amlwg bod llawer o waith cymhleth a rhyngddibynnol yn mynd rhagddo ym mhob rhan o'r system er mwyn trosglwyddo i'r trefniadau newydd erbyn yr hydref. Mae ein Tîm Gwella Addysg newydd wedi ymweld ag awdurdod lleol a'u grwpiau penaethiaid ac yn cydnabod yr ymrwymiad cryf a'r cynnydd wrth weithio gydag ysgolion i adeiladu system gwella ar y cyd ac, yn arbennig, i gefnogi llythrennedd. Mae gwaith sylweddol wedi'i wneud gan ein holl bartneriaid mewn awdurdodau lleol ac ysgolion, a chyhoeddaf llythyr a gefais gan yr Athro Dylan Jones a Simon Day, Partneriaeth ISOS, wrth iddynt gwblhau'r gwaith y maent wedi'i wneud i gefnogi'r broses o gyflwyno'r Adolygiad. Rwy'n ddiolchgar iawn am eu cyfraniad a'u cefnogaeth.
Mae'r Grŵp Cydlynu Cenedlaethol yn parhau i’m cynghori ynghylch a yw'r holl newidiadau i Lywodraeth Cymru, Estyn, awdurdodau lleol a phartneriaid eraill yn gydlynol ac yn gadarn ar lefel system gyfan. Cynhaliwyd cyfarfod diweddaraf y Grŵp hwn ar 2 Ebrill a chyhoeddaf heddiw lythyr gan y Cadeirydd, Kirsty Williams CBE.
Ym mis Mawrth, cynhaliais ddwy gynhadledd i benaethiaid cynradd a oedd yn canolbwyntio ar lythrennedd a rhifedd a gwella ysgolion ar y cyd. Fe wnaeth y rhain ddangos i mi bwysigrwydd mynd ati ar y cyd i sicrhau gwelliant, a manteision gweithio ar draws ysgolion, awdurdodau lleol a’r wlad i wireddu arferion da. Rwy'n gobeithio y bydd fy Ngrŵp Cynghori newydd ar gyfer Penaethiaid yn cwrdd am y tro cyntaf yn ystod tymor yr haf fel y gallaf glywed yn uniongyrchol gan arweinwyr o ysgolion ar draws Cymru. Byddaf yn cyhoeddi aelodaeth y Grŵp cyn hir.
Mae cynnydd sylweddol wedi'i wneud i sefydlu'r corff dysgu proffesiynol ac arweinyddiaeth cenedlaethol newydd. Bydd y corff hwn yn arwain y gwaith o ddarparu dysgu proffesiynol i gefnogi ymarferwyr,gan gynnwys cynorthwywyr addysgu, athrawon, uwch-arweinwyr a phenaethiaid mewn ysgolion a gynhelir yng Nghymru, ar hyd eu llwybrau gyrfa. Bydd hefyd yn darparu dysgu proffesiynol i gynghorwyr gwella ysgolion.
Bydd y corff cenedlaethol yn arwain ar ddarparu dysgu proffesiynol mewn ymateb i'm blaenoriaethau cenedlaethol. Bydd hyn yn cynnwys dysgu proffesiynol ar gyfer gwella llythrennedd, rhifedd a llesiant, ochr yn ochr â rhaglenni newid hirdymor gan gynnwys cefnogaeth ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol a gwella addysgu'r Gymraeg yn ein hysgolion cyfrwng Saesneg yn unol ag uchelgeisiau Bil y Gymraeg ac Addysg (Cymru). Bydd yn darparu dull gweithredu o ansawdd uchel sy’n gyson yn genedlaethol ar gyfer pob ysgol a gynhelir yng Nghymru. Bydd hefyd yn cefnogi'r gwaith o gyflawni gofynion statudol fel y Cymhwyster Proffesiynol Cenedlaethol ar gyfer Prifathrawiaeth a phroses sefydlu Athrawon Newydd Gymhwyso. Bydd y cyllid a oedd yn arfer mynd i'r consortia rhanbarthol bellach yn mynd i'r corff cenedlaethol ar gyfer rhaglenni cenedlaethol ac i awdurdodau lleol lle mae angen hyblygrwydd a chapasiti lleol.
Rwy'n falch o rannu bod y broses recriwtio ar gyfer y Prif Weithredwr yn dechrau heddiw. Bydd y Prif Weithredwr yn arwain y corff newydd mewn partneriaeth agos â Llywodraeth Cymru, sy'n cadw cyfrifoldeb polisi, ac awdurdodau lleol ac ysgolion. Rwy'n ddiolchgar i Fwrdd yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol am eu hymrwymiad i'r newid hwn. Wrth i'r Prif Weithredwr newydd ddechrau ar ei swydd dros y misoedd nesaf, bydd y sefydliad newydd yn recriwtio staff newydd yn ogystal â throsglwyddo staff o sefydliadau presennol fel y bo'n briodol. Er mai ym mis Medi y bydd y sefydliad newydd yn dechrau gweithredu'n ffurfiol, rwy'n disgwyl i ystod o gyfrifoldebau newydd, gan gynnwys rhaglenni llythrennedd a rhifedd a llesiant, gael eu trosglwyddo dros y flwyddyn i ddod.
Yn ogystal â phenodi’r Prif Weithredwr, blaenoriaeth arall i Lywodraeth Cymru fydd penodi Bwrdd y corff newydd yn yr hydref, wrth i rai o'r aelodau presennol o fwrdd yr Academi Arweinyddiaeth ddod i ddiwedd eu tymor. O ran yr uwch-arweinwyr, rwy'n disgwyl gweld profiad cryf yn y sector addysg, hyfedredd yn y Gymraeg, profiad o reoli a chyflawni rhaglenni, a sgiliau cydweithio a chyd-gynhyrchu cryf.
Dros y misoedd nesaf, byddwn yn cydweithio â'n partneriaid i adeiladu gweledigaeth a rennir ar gyfer sut y bydd y corff dysgu proffesiynol ac arweinyddiaeth newydd yn cydweithio â Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol, ysgolion a phartneriaid fel Estyn ac Adnodd, i sicrhau dull gweithredu symlach a chydweithredol ar draws Cymru. Byddaf yn rhoi diweddariad i aelodau'r Senedd ar y corff dysgu proffesiynol ac arweinyddiaeth pan fydd y Prif Weithredwr newydd yn ei swydd.
