Neidio i'r prif gynnwy

Llyr Gruffydd AS, Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd

Cyhoeddwyd gyntaf:
23 Gorffennaf 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae Cymru wedi cael cyfnod hir o dywydd poeth a sych yn ystod yr wythnosau diwethaf, gan roi pwysau cynyddol ar yr amgylchedd naturiol. Ar 16 Gorffennaf 2026, symudodd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) nifer o ddalgylchoedd ar draws Gogledd Cymru, Hafren Uchaf a De-ddwyrain Cymru i statws cyfnod hir o dywydd sych. Yn dilyn asesiad pellach ar 23 Gorffennaf 2026, mae CNC wedi datgan bod dalgylchoedd Gwynedd, Ynys Môn, Clwyd, Dyfrdwy a Hafren Uchaf bellach hefyd wedi symud i statws sychder, tra bod ardaloedd ychwanegol o Dde a Gorllewin Cymru wedi symud o statws normal i statws cyfnod hir o dywydd sych.

Mae'r newidiadau hyn yn adlewyrchu'r diffyg glawiad sylweddol a thymheredd uchel parhaus, sy'n cynyddu pwysau ar afonydd, bywyd gwyllt a chynefinoedd. Mae CNC yn parhau i fonitro amodau'n agos a chydlynu ei ymateb yn unol â'i fframwaith rheoli sychder. 

Mae sychder a chyfnod hir o dywydd sych yn ddosbarthiadau amgylcheddol ac ni ddylid eu cymysgu â mesurau a gymerir gan gwmnïau dŵr i reoli cyflenwadau dŵr cyhoeddus. Mae'r wybodaeth ddiweddaraf am amodau amgylcheddol a statws sychder ar gael ar dudalen Tywydd Sych CNC.

Ar wahân, cyflwynodd Dŵr Cymru Waharddiad Defnydd Dros Dro ar 19 Gorffennaf sy'n effeithio ar rannau o Ganolbarth a De Ceredigion, Gogledd Sir Benfro a Gogledd Sir Gaerfyrddin. Mae'r cwmni wedi cadarnhau bod hwn yn ymateb lleol i alw eithriadol o uchel gan gwsmeriaid yn hytrach na phrinder adnoddau dŵr ac wedi cynghori bod lefelau cronfeydd dŵr yn parhau i fod yn iach. 

Mae rhagor o wybodaeth am y cyfyngiadau a'r sefyllfa bresennol o ran cyflenwadau dŵr ar gael ar dudalen wybodaeth Tywydd Sych Dŵr Cymru. Mae cartrefi a busnesau sy'n cael cyflenwadau dŵr cyhoeddus yn parhau i dderbyn dŵr fel arfer. 

Dylai perchnogion a defnyddwyr cyflenwadau dŵr preifat, fel ffynhonnau, tyllau turio, pistyll neu nentydd, sy'n cael anawsterau neu sydd angen cyngor gysylltu â'u hawdurdod lleol.

Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio'n agos gyda CNC, cwmnïau dŵr, y Swyddfa Dywydd a phartneriaid eraill drwy Grŵp Cyswllt Sychder Cymru i fonitro amodau a chydlynu ymateb ar y cyd. 

Er nad oes pryderon uniongyrchol ynglŷn â chyflenwadau dŵr cyhoeddus yng Nghymru ar hyn o bryd, mae gan bob un ohonom gyfrifoldeb i ddefnyddio dŵr yn synhwyrol ac yn gynaliadwy. Rwy'n annog pawb i fod yn ymwybodol o ddŵr, defnyddio dŵr yn gyfrifol a dilyn y cyngor diweddaraf gan CNC a'u cyflenwr dŵr.

Cyhoeddir y datganiad hwn yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau. Os bydd yr Aelodau am imi wneud datganiad pellach, neu ateb cwestiynau ynghylch hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.