Neidio i'r prif gynnwy

Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Ebrill 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Rwy’n ysgrifennu i rannu’r wybodaeth ddiweddaraf ag Aelodau am y broses caffael gweithredwr nesaf gwasanaeth rheilffyrdd Cymru a’r Gororau, a lansiwyd ym mis Gorffennaf 2016 ac sy’n tynnu at ei therfyn. 

Bydd yr aelodau’n cofio i dendrau terfynol ddod i law gan dri chwmni ym mis Rhagfyr 2017. Tynnodd un cwmni ei dendr yn ôl wedyn. Mae Trafnidiaeth Cymru wedi bod yn arfarnu’r ddau dendr arall yn unol â Rheoliadau Contractau Cyfleustodau 2016, gan asesu pob un yn ôl ei ansawdd, cryfder a’i allu i roi prif bolisïau Llywodraeth Cymru ar waith, a nodir yn y ddogfen ‘Gwasanaethau Rheilffyrdd ar gyfer y Dyfodol’.

Yn ystod y broses, rydym wedi rhoi blaenoriaeth i fuddsoddi yn ansawdd gwasanaethau, trenau a gorsafoedd Gwasanaethau Rheilffyrdd Cymru a’r Gororau a Metro De Cymru. Rydym yn hyderus y gall y tendrau a ddaeth i law ddiwallu’n gofynion.

Mae Trafnidiaeth Cymru wedi bod yn gwneud cynnydd da o ran y gwaith arfarnu er mwyn cael canlyniad gorau’n buddsoddiad yn unol â’n strategaeth ac yn gyson â’n hamcanion ar gyfer y caffael. Felly, rydym yn disgwyl gwneud penderfyniad ar ganlyniad y broses gaffael ddiwedd mis Mai. Ar ôl inni wneud penderfyniad, ac yn unol â’r arfer caffael cyffredin, bydd cyfnod segur o 10 niwrnod cyn i Lywodraeth Cymru allu llunio contract ffurfiol a’i ddyfarnu.

Yn y gorffennol rwyf wedi ymrwymo i gyhoeddi gwybodaeth am y caffael ar ôl dyfarnu’r contract. Fodd bynnag, rhagwelwn y bydd y dyfalu yn cynyddu wrth i ddiwedd mis Mai nesáu. Yn gyfreithlon, ni all Trafnidiaeth Cymru na Llywodraeth Cymru gynnig sylwadau ar agweddau’r broses gaffael wrth iddi fod ar waith. Felly, oni bai bod y broses yn ei ganiatáu, ni fyddwn yn cynnig unrhyw sylwadau pellach ar y broses, nac ymateb i ddyfaliadau, nes bod y broses wedi dod i ben.

Rwy’n edrych ymlaen at gyhoeddi enw’r ymgeisydd llwyddiannus a rhannu manylion ein cynlluniau cyffrous ac arloesol ar gyfer Gwasanaethau Rheilffyrdd Cymru a’r Gororau a Metro De Cymru cyn gynted ag y bo modd.