Neidio i'r prif gynnwy

Jayne Bryant MS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai a Llywodraeth Leol

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Tachwedd 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae Llywodraeth Cymru wedi addo hysbysu aelodau am y gwaith sy'n mynd rhagddo i gynnal ein cyfres gydgysylltiedig o fesurau radical sydd wedi'u cynllunio i gynnal cymunedau lleol ffyniannus lle gall pobl fforddio byw a gweithio ynddynt. 

Gan edrych yn gyntaf ar y lefel leol, mae ein cynllun peilot yn Nwyfor yn parhau i fonitro a gwerthuso effaith ein cyfres uchelgeisiol o fesurau. Bydd y gwerthusiad annibynnol, gyda chymorth partneriaeth y peilot sy'n cynnwys Llywodraeth Cymru, Cyngor Gwynedd, Adra, Grŵp Cynefin ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, yn cyhoeddi ei adroddiad ar y broses erbyn dechrau 2026. 

Trwy'r peilot, rydym yn parhau i dreialu mesurau i gynyddu nifer y cartrefi fforddiadwy sydd ar gael i'r gymuned leol. Rydym wedi teilwra ein cynnig Prynu Cartref ymhellach, a thrwy hynny, ei gwneud hi'n bosibl i fwy o bobl leol brynu cartref, hyd yn oed yn yr ardaloedd a ystyrir yn draddodiadol fel y cymunedau lleiaf fforddiadwy yn Nwyfor. Mae'n galonogol gweld ers lansio'r cynllun, bod 33 o aelwydydd wedi cael help i brynu cartref yn eu cymunedau. Mae hynny'n nifer digynsail. Mae Cyngor Gwynedd wedi buddsoddi’n gyson swm cyfatebol i fuddsoddiad Llywodraeth Cymru gan ddefnyddio arian premiwm y dreth gyngor a godwyd ar ail gartrefi ac eiddo gwag. Mae hon yn enghraifft o un o'r nifer o ffyrdd y mae awdurdodau lleol ledled Cymru'n defnyddio’r arian premiwm i helpu i ddiwallu anghenion cymunedau lleol.

Rwyf hefyd wedi cytuno i gefnogi treialu'r model cyflawni newydd 'Purpose Built Homebuy' trwy'r peilot. Bydd y prosiect hwn yn galluogi Cyngor Gwynedd i ddarparu 21 o gartrefi fforddiadwy newydd ar bedwar safle bach, i gyd mewn cymunedau sydd o dan bwysau oherwydd fforddiadwyedd a chyfran uchel o ail gartrefi a llety gosod tymor byr. Gall peilot llwyddiannus o'r math newydd hwn o fodel ar gyfer darparu adeiladau newydd fforddiadwy fod yn werthfawr mewn rhannau eraill o Gymru. 

Rydym yn cydnabod y gall crynodiadau uchel o ail gartrefi, gorgyflenwad o lety gwyliau tymor byr a diffyg tai fforddiadwy effeithio ar ein cymunedau Cymraeg eu hiaith. Mewn ymateb i'r her hon, mae Perthyn, un o fentrau’r Cynllun Tai Cymunedau Cymraeg, wedi cydweithio'n glos â'r peilot yn Nwyfor. Mae Perthyn wedi cefnogi cymunedau i ymateb i anghenion tai lleol a chryfhau agweddau eraill hanfodol ar gynnal ein cymunedau. Hyd yn hyn, mae wedi darparu ymyrraeth, cymorth a chyllid buan hanfodol i wyth prosiect cymunedol yn ardal Dwyfor. Ar hyn o bryd, mae pump o'r grwpiau hyn yn datblygu prosiectau tai newydd.

Yn ogystal â chynnal profion yn yr ardal beilot, gall llawer o'r mesurau rydyn ni'n eu cymryd fod yn berthnasol ar lefel genedlaethol. Erbyn Ebrill 2026, rydym yn rhagweld y bydd pob un ond un awdurdod lleol yn codi premiwm ar ail gartrefi. Yn eu plith, mae pum awdurdod ar hyn o bryd yn codi 150% yn ychwanegol ar ail gartrefi. Fe wnaethom annog awdurdodau lleol i gyhoeddi faint y maent yn ei godi trwy bremiymau, ynghyd â sut mae'r arian yn cael ei wario. Mae hyn bellach wedi dod yn rhan reolaidd o arfer awdurdodau lleol. Mae'r wybodaeth yn dangos bod y dreth uwch a delir gan berchnogion yr eiddo hyn yn gwneud cyfraniad amhrisiadwy at ymdrechion lleol i ddelio â fforddiadwyedd tai a digartrefedd. Tynnwyd sylw at effaith ddynol yr ymdrechion lleol hyn yn ddiweddar gan 'Countryfile' y BBC, a oedd yn dangos person ifanc yng Ngwynedd a oedd wedi cael cymorth i brynu ac i adnewyddu hen ail gartref gyda grant y talwyd amdano gan y premiwm.

Dros ddwy flynedd ar ôl i ni newid y trothwyon gosod ar gyfer llety gwyliau tymor byr i fod yn gymwys am ardrethi busnes, yn hytrach na threth y cyngor, mae'r mwyafrif (60%) yn bodloni'r gofyn o gael eu gosod am o leiaf hanner y flwyddyn. Nod pennaf ein newidiadau i drethi lleol yw sicrhau bod perchnogion eiddo yn gwneud cyfraniad teg ac yn gwneud y defnydd gorau posibl o eiddo er budd cymunedau lleol. Gallai hyn gynnwys buddion sy'n deillio o gynnydd yn y defnydd o lety gosod tymor byr neu o ryddhau rhai tai ar gyfer eu gwerthu neu eu rhentu fel cartrefi parhaol i bobl leol. 

Rydym yn gwerthfawrogi'r rôl y mae llety gwyliau yn ei chwarae i gefnogi twristiaeth fywiog a chynaliadwy yng Nghymru. Fodd bynnag, mae'n hanfodol bod gennym ddarlun clir o'r llety gwyliau sydd ar gynnig yng Nghymru a'n bod yn sicrhau safon gyson rhwng darparwyr. Gwneir cynnydd yn hynny o beth trwy'n cynllun cofrestru. Bydd hyn yn ein helpu i ddeall yn well y math o eiddo a'r cynnig yng Nghymru, a bydd ein Bil arfaethedig ar gyfer trwyddedu llety gwyliau, i ddechrau ar gyfer llety tymor byr, yn sicrhau bod pob darparwr yn cynnig yr un safonau sylfaenol i ymwelwyr.

Rwy'n credu bod y camau rydyn ni wedi'u cymryd yn helpu mwy o bobl i fforddio byw a gweithio yn eu bröydd, gyda'r effeithiau hynod gadarnhaol y mae hyn yn eu cael ar gymunedau, teuluoedd ac unigolion.