Jane Bryant AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai
Ym mis Mawrth eleni, cwblhaodd y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai ei ymchwiliad ynghylch rôl, llywodraethiant ac atebolrwydd y sector cynghorau tref a chymuned. Derbyniais bob un o'r 11 argymhelliad.
Hoffwn ddiolch i bawb a gyfrannodd at y gwaith pwysig hwn, ac rwy'n falch o amlinellu sut y bydd Llywodraeth Cymru yn mynd ati i weithredu ar sail eu prif argymhellion.
Rydym wedi ymrwymo i wneud y gwaith hwn gam wrth gam mewn modd a fydd yn cael effaith. Bwriad hyn yw rhoi eglurder i'r sector, yn ogystal â sicrhau bod ymgysylltu ystyrlon yn digwydd heb roi baich diangen ar y cynghorau a'u partneriaid.
Yr hydref hwn, byddwn yn dechrau ymgysylltu â'r sector ar y thema gyntaf sy'n ymwneud â safonau ymddygiad. Mae mynd i'r afael â hyn yn bwysig er mwyn galluogi llywodraethiant a stiwardiaeth dda mewn cynghorau. Mae gwaith eisoes wedi dechrau i edrych ar opsiynau i hwyluso mwy o ddefnydd o ddatrysiadau lleol i anghydfodau o fewn y sector. Rwy'n ddiolchgar am gyfranogiad rhanddeiliaid yn y gweithdy a gynhaliwyd ar 11 Medi, a lansiodd y cam hwn o waith ac a gasglodd adborth cynnar gwerthfawr. Ochr yn ochr â hyn, bydd gwaith yn dechrau i edrych ar yr argymhelliad ynghylch ystyried cyflwyno hyfforddiant gorfodol i gynghorwyr cymuned a thref ar y cod ymddygiad, gan ystyried y gwahanol opsiynau ar gyfer rhoi hyn ar waith. Bydd hyn yn ein rhoi mewn sefyllfa gref i nodi'r newidiadau sydd eu hangen a gweithredu arnynt.
Bydd y gwaith ymgysylltu yn parhau drwy'r hydref a than ddechrau’r flwyddyn newydd, gan sicrhau bod lleisiau o bob rhan o'r sector yn helpu i lywio unrhyw newidiadau arfaethedig. Bydd ein dull yn dwyn ynghyd yr holl argymhellion pwysig hyn ac yn sicrhau llais i'r sector mewn trafodaethau am amrywiaeth mewn democratiaeth. Yn benodol, rwy'n edrych ymlaen at weld canlyniadau'r ffrwd waith sy'n edrych ar gam-drin mewn gwleidyddiaeth, a fydd yn arwain at ddigwyddiad yng Ngwanwyn 2026.
O ran yr ail thema, rwy'n disgwyl i waith ar ystyried system archwilio bwrpasol newydd ar gyfer cynghorau tref a chymuned ddechrau wedyn, yn fwyaf tebygol yng ngwanwyn/haf 2026. Mae'n debygol y bydd angen i unrhyw newidiadau i'r system archwilio gael eu hystyried yn ofalus, gan arwain at newidiadau deddfwriaethol. O ystyried pwysigrwydd llywodraethiant da a defnydd da o arian cyhoeddus, a'r effaith sylweddol debygol ar arferion cynghorau cymuned, rwy'n credu bod yn rhaid gwneud hyn yn iawn yn hytrach nag yn gyflym.
Bydd hyn yn helpu i adeiladu capasiti o fewn y sector, gan sicrhau bod pob cyfres o argymhellion yn derbyn y sylw y mae'n ei haeddu. Rydym am gefnogi cynghorau a'u cymunedau i ddatblygu atebion sy'n gadarn, ymarferol a chynaliadwy.
Hoffwn ddiolch i'r holl bartneriaid a rhanddeiliaid am eu hymgysylltiad parhaus a'u hymrwymiad i wella o fewn y sector cynghorau tref a chymuned. Rwy'n edrych ymlaen at barhau i weithio gyda'n gilydd wrth i ni gyflawni'r argymhellion hyn er budd cynghorau a'r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu.
